Skip to main content

Gwelliannau i Lyn Cwm Clydach

Clydach Vale Lakes

Bydd gwaith i gynyddu capasiti a gwella bioamrywiaeth yn Llyn Cwm Clydach yn dechrau ddiwedd Awst/dechrau Medi. Bydd gwelliannau yn cynnwys carthu ardaloedd o'r llyn i leihau lefelau silt a gwaith i sefydlogi'r argloddiau.

Bydd Partneriaeth Parc Gwledig Cwm Clydach a Chyngor Rhondda Cynon Taf yn gwneud y gwelliannau yn rhan o'n hymrwymiad i ddarparu amgylchedd amrywiol a gwell i'r gymuned.

Er bod hwn yn gyfnod prysur i ymwelwyr â’r llyn, mae cyfyngiadau o ran nythu adar dŵr a physgod mudol i lawr yr afon yn pennu pryd mae modd i'r gwaith ddechrau.

Bydd rhywfaint o aflonyddwch yn ystod y cyfnod yma, gan gynnwys cau llwybrau troed am tua 3 wythnos. Dim ond un ochr i'r llyn a fydd ar gau ar unrhyw adeg. Bydd angen defnyddio cloddiwr amffibaidd yn ystod y gwaith carthu, sy'n golygu bod angen cau'r llwybr troed deheuol er diogelwch y gymuned.

Bydd y gwaith carthu yn achosi rhywfaint o afliwio yn y llyn, sy'n arferol. Bydd mesurau ar waith i atal unrhyw effaith amgylcheddol negyddol.

Bydd gwaith i sefydlogi'r argloddiau yn defnyddio techneg ecogyfeillgar ac yn darparu bioamrywiaeth ychwanegol ar gyfer planhigion a bywyd gwyllt. Bydd hefyd yn gwneud y safle'n fwy diogel i ddefnyddwyr.

Wedi ei bostio ar 26/08/2022