Skip to main content

Swydd di-ri yn Ffair Yrfaoedd Cyngor Rhondda Cynon Taf a'i Bartneriaid 2022!

Rydyn ni wrth ein bodd i gyhoeddi bydd ein Ffair Yrfaoedd boblogaidd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Hamdden Sobell, Aberdâr, dydd Mercher, 21 Medi, 10am-4pm. Bydd 'awr dawel' rhwng 3pm a 4pm.

Os ydych chi’n chwilio am ddechreuad newydd, newid gyrfa, neu ddechrau eich bywyd gwaith, bydd rhywbeth ar eich cyfer chi.

Mae'r Ffair Yrfaoedd yn rhoi cyfle i chi siarad â chyflogwyr, archwilio opsiynau gyrfa, a gweld swyddi sydd ar gael.

Dyma’r Ffair Yrfaoedd wyneb-yn-wyneb gyntaf ers 2019, ac rydyn ni ar bigau'r drain i groesawu pawb!

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf:

“Mae’r Ffair Yrfaoedd yn hynod o boblogaidd, ac rydw i'n falch o’i gweld yn ôl gyda chlec!

“Rydyn ni fel Cyngor wedi ymrwymo i roi cyfleoedd i’n trigolion gael mynediad at gyflogaeth o safon. Mae'r Ffair Yrfaoedd yn dod â chyflogwyr lleol ynghyd mewn un lle ac yn dangos ein bod ni, fel Cyngor, am roi cyfle i drigolion gael mynediad i'r swyddi yma.

“Mae cymaint ar gael ar y diwrnod. Rydw i’n annog pawb sy’n chwilio am rywbeth newydd, rhywbeth gwahanol, neu sy’n chwilio am eu swydd gyntaf i alw heibio i edrych ar yr hyn sydd ar gael.”

Bydd dros 50 o sefydliadau yn cymryd rhan, ac maen nhw'n awyddus i lenwi swyddi sy'n addas i bawb yn y gymuned yn syth.

Bydd amrywiaeth eang o bartneriaid o fyd hyfforddiant ac addysg wrth law i roi cyngor ac arweiniad gyrfaol. Mae partneriaid yn cynnwys C4W, Gyrfa Cymru, Cyflogaeth â Chymorth Elite, Coleg y Cymoedd, Prifysgol De Cymru a llawer yn rhagor.

Mae’r rhestr gyflawn o gyflogwyr i’w gweld isod:

  • Gofal Iechyd ABACARE
  • Hyfforddiant ACT
  • Adventure Travel
  • ALS
  • Alun Griffiths
  • Angeni
  • Apollo Teaching
  • Y Fyddin Wrth Gefn
  • Balfour Beatty a Trafnidiaeth Cymru
  • Barod
  • BT Openreach
  • Busnes mewn Ffocws
  • Care Cymru
  • Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Gyrfa Cymru
  • Cera Care
  • CFW/I2W
  • Coleg y Cymoedd
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Drive
  • Dŵr Cymru
  • Educ8
  • EE
  • Elite Paper Solutions
  • Maethu Cymru RhCT
  • Innovate Trust
  • Itec
  • Laser Security
  • Lewis Ltd
  • Lidl
  • Lamau
  • Morgan Sindall
  • MPCT
  • Rhwydwaith 75
  • Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
  • Peacocks
  • People’s Plus
  • Pontus Research Limited
  • Principality
  • Q Care
  • Radis
  • RAF
  • Ranstad
  • Gofal Cymdeithasol i Oedolion RhCT
  • Cynllun Prentisaid a Rhaglen i Raddedigion RhCT
  • Gofal Plant RhCT
  • Gwasanaethau i Blant RhCT
  • Gwasanaethau Chwarae RhCT
  • Carfan Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol RhCT
  • Y Llynges Frenhinol
  • Rubicon
  • Screen Alliance Cymru
  • SERENITY
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • Stagecoach
  • Supply Desk
  • Sword Security
  • Y Bathdy Brenhinol
  • Trivallis
  • Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
  • Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid

Bydd yr achlysur yn rhoi'r modd ichi siarad yn uniongyrchol â'r bobl 'ar y tu mewn', cymryd rhan mewn gweithdai i helpu gyda pharatoi cyfweliad ac ysgrifennu CV, a chael cyfle i ddechrau ymgeisio am swyddi.

Wedi ei bostio ar 31/08/22