Skip to main content

Cynllun Cymorth Costau Byw Atodol Lleol yn Cael ei Gynnig

Yr wythnos nesaf bydd y Cabinet yn ystyried cynigion i'r Cyngor ddarparu pecyn ariannu cyffredinol o £2.89 miliwn, i roi rhagor o gymorth i deuluoedd a thrigolion lleol sy'n debygol o gael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw.

Bydd adroddiad i'r Cabinet yn ei gyfarfod ddydd Mawrth, 6 Medi, yn rhoi manylion Cynllun Cymorth Costau Byw Atodol (Dewisol) lleol arfaethedig. Mae'r adroddiad yn cynnig pedwar maes cymorth penodol yn rhan o'r Cynllun, ochr yn ochr â threfniadau gweithredu ac amserlenni. Os cytunir ar y rhain bydd y Cynllun yn cael ei roi ar waith gan Swyddogion y Cyngor.

Byddai'r Cynllun arfaethedig ar ben y taliad Costau Byw o £150 a chymorth dewisol ychwanegol a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a ddarparwyd gan y Cyngor yn gynharach eleni. Byddai hefyd yn ychwanegol at Gynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf Llywodraeth Cymru, sydd i’w darparu gan y Cyngor yn ystod tymor yr hydref 2022. Mae cynllun newydd y Cyngor yn cynnig:

  • Taliad i deuluoedd ag un plentyn neu ragor sydd o oedran ysgol gorfodol – bydd taliad o £75 yn cael ei wneud (un taliad fesul teulu, nid fesul plentyn) i deuluoedd cymwys sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf. Mae’r meini prawf yn cynnwys teuluoedd plant sy'n cael eu haddysgu gartref yn ddewisol a theuluoedd plant sy'n mynychu ysgol y tu allan i Rondda Cynon Taf ond sy'n byw yn y Fwrdeistref Sirol. Bydd gan tua 22,000 o deuluoedd hawl i’r elfen yma o’r cynllun, sy’n costio £1.65 miliwn.
  • Cymorth i fanciau bwyd – bydd pecyn cymorth gwerth £50,000 i fanciau bwyd lleol ac ar gyfer grantiau cymorth bwyd.
  • Cymorth i staff y Cyngor ar gyflogau is – bydd pob gweithiwr ar raddau 1 i 6 yn cael taliad cymorth untro sy'n ychwanegol at ei gyflog. Bydd taliad o £125 fesul gweithiwr, a bydd 5,800 o staff yn gymwys i'w dderbyn. Bydd yr elfen yma o'r cynllun yn costio £940,000.
  • Cronfa Galedi Costau Byw Leol – byddai adnoddau’n cael eu neilltuo i greu cronfa ddewisol o £250,000 ar gyfer trigolion sy’n dangos eu bod yn dioddef caledi ariannol eithafol o ganlyniad uniongyrchol i’r argyfwng costau byw. Byddai swyddogion y Cyngor yn datblygu meini prawf cymhwyster priodol ar gyfer y gronfa a bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi gan y Cyngor ar ei wefan o fis Hydref 2022.

Mae rhagor o fanylion am y taliad i deuluoedd a chymorth i staff y Cyngor ar gyflogau is wedi’u cynnwys yn adroddiad y Cabinet ddydd Mawrth. Mae manylion ar ddiwedd y diweddariad yma hefyd.

Cost gyffredinol y cynllun arfaethedig yw £2.89 miliwn. Byddai'n cael ei ariannu o weddill cyllid Llywodraeth Cymru a ddyrannwyd i'r Cyngor i gyflawni'r taliadau costau byw blaenorol a'r cynllun cymorth dewisol (hynny yw, £900,000). Bydd hyn yn cael ei ategu gan £1.99 million o adnoddau untro'r Cyngor sydd wedi'u nodi a'u neilltuo eisoes.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Nod y Cynllun Cymorth Costau Byw Atodol lleol arfaethedig yma yw helpu’r trigolion a’r teuluoedd hynny a fydd yn cael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw. Mae’n fesur dewisol pellach i gefnogi teuluoedd yng ngoleuni’r cynnydd yng nghostau tanwydd, bwyd ac ynni sydd eisoes yn cael eu profi. Mae cynnydd sylweddol pellach mewn prisiau nwy a thrydan ar y ffordd ym mis Hydref.

“Mae’r Cyngor eisoes wedi chwarae rhan allweddol wrth hwyluso taliadau costau byw o £150 Llywodraeth Cymru a chymorth ychwanegol eleni – gan wneud 117,000 o daliadau gwerth cyfanswm o fwy na £15.2 miliwn. Bydd y Cyngor hefyd yn dosbarthu taliadau Cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf dros yr hydref ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'n bwysig nodi bod y Cynllun Cymorth Costau Byw newydd arfaethedig gwerth £2.89 miliwn sy'n cael ei ystyried gan y Cabinet ddydd Mawrth yn ychwanegol at y cymorth presennol yma.

“Mae pedair prif elfen i gymorth arfaethedig y Cyngor, sef taliadau o £75 i deuluoedd gyda phlentyn neu blant sydd o oedran ysgol, pecyn cymorth o £50,000 i fanciau bwyd sy’n parhau i roi cymorth amhrisiadwy i drigolion, cronfa galedi gwerth £250,000 i roi cymorth i’r rhai sy’n cael eu hunain mewn caledi ariannol eithafol oherwydd yr argyfwng costau byw, a thaliad o £125 i staff y Cyngor sy’n ennill y cyflogau isaf. Mae'r gweithwyr yma'n parhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr trwy rolau sy'n cynnwys codi sbwriel, casglu sbwriel, gofal yn y cartref a gofal cymdeithasol, cogyddion, glanhawyr a hebryngwyr croesfannau ysgolion.

“Mae’r argyfwng costau byw parhaus yn achosi caledi sylweddol i lawer o deuluoedd a thrigolion. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i helpu cymaint â phosibl drwy gyfeirio at y cymorth allanol sydd ar gael a’i ddosbarthu – yn ogystal â darparu ei gynllun atodol ei hun. Os bydd Aelodau’r Cabinet yn cytuno ddydd Mawrth, bydd Cynllun Cymorth Costau Byw newydd y Cyngor yn cael ei ddatblygu a’i roi ar waith cyn gynted â phosibl.”

Mae rhagor o wybodaeth isod:

  • Taliad i deuluoedd sydd ag un plentyn neu ragor o oedran ysgol gorfodol – bydd oedran ysgol gorfodol yn cael ei bennu ar ddechrau’r tymor ysgol sy’n dechrau ym mis Medi 2022. Mae plentyn yn dechrau bod o oedran ysgol gorfodol y tymor yn dilyn ei ben-blwydd yn bump oed nes ei fod yn 16 oed (sef y rhai sydd wedi'u geni rhwng 1 Medi 2006 a 31 Awst 2017). Fydd y taliad ddim yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau, er enghraifft, Credyd Cynhwysol. Bydd teuluoedd sydd eisoes wedi derbyn taliad i deuluoedd ac sy'n parhau i fod yn gymwys yn derbyn y taliad newydd yn awtomatig. Bydd teuluoedd sy’n dod yn gymwys am y tro cyntaf o fis Medi 2022 yn derbyn llythyr ynglŷn â sut i wneud cais.
  • Cymorth i staff y Cyngor ar gyflog is – bydd y taliad o £125 yn cael ei wneud ar gyflogres mis Hydref, a'i ddosbarthu yn rhan o'r enillion. 
Wedi ei bostio ar 30/08/2022