Mae'r Cyngor bellach wedi cwblhau gwaith sylweddol i uwchraddio dwy geuffos ar yr A4061 Ffordd y Rhigos ger safle Glofa'r Tŵr – gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i wella capasiti'r seilwaith yn ystod glaw trwm yn sylweddol.
Dechreuodd y gwaith ym mis Ionawr 2022 ac mae wedi'i gynllunio i liniaru’r perygl o lifogydd ar yr A4061, drwy uwchraddio ceuffosydd mewn dau leoliad rhwng Ystad Ddiwydiannol Hirwaun a chylchfan yr A465. Mae'r ceuffosydd newydd yn strwythurau llawer mwy gyda nifer o bibellau wedi'u cysylltu o dan y ffordd, ynghyd â mewnfa ac allfeydd newydd sy'n cynnwys strwythurau i ddal malurion.
Mae'r Cyngor bellach wedi cwblhau'r holl waith i uwchraddio'r ceuffosydd. Mae'r gwelliannau sylweddol i'w gweld yn y delweddau uchod.
Mae’r cynllun wedi’i gyflwyno gan gyfuniad o gyllid Ffyrdd Cydnerth y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Mae’r cyllid Ffyrdd Cydnerth ar gael i awdurdodau lleol er mwyn cyflawni gwelliannau draenio ar ardaloedd o’u rhwydwaith ffyrdd sy wedi dioddef o lifogydd. Cafodd cyllid gwerth £4.9 miliwn ei sicrhau gan y Cyngor i wella 16 lleoliad yn 2020/21, gwerth £2.75 miliwn i symud ymlaen â gwaith mewn 19 lleoliad yn 2021/22, a £400,000 ychwanegol ar gyfer 10 cynllun pellach eleni (2022/23).
Er bod y gwaith gwella i'r ceuffosydd yn Ffordd y Rhigos wedi'i gwblhau, bydd BT Openreach yn cynnal gwaith cyflenwol i'w gyfarpar yn ystod yr wythnosau nesaf – bydd hyn yn para ychydig ddiwrnodau a dyma fydd y gwaith terfynol sy'n gysylltiedig â'r cynllun.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Rwy'n falch bod y buddsoddiad sylweddol yma bellach wedi'i gyflawni gan y Cyngor ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru. Mae gan y rhan yma o Ffordd y Rhigos ger Glofa'r Tŵr hanes o lifogydd yn ystod glaw trwm, ac mae'r ceuffosydd presennol wedi'u disodli â strwythurau llawer mwy a fydd yn gallu ymdopi â llawer mwy o ddŵr glaw – gan liniaru’r perygl llifogydd yn y lleoliad yma yn y dyfodol.
“Mae’r Cyngor wedi sicrhau dros £8 miliwn o’r grant Ffyrdd Cydnerth dros y tair blynedd diwethaf, gyda £400,000 wedi’i sicrhau ar gyfer 10 cynllun newydd eleni. Mae gwaith sylweddol o ran lliniaru llifogydd wedi’i gyflawni ers 2020/21 ar Ffordd Lliniaru’r Porth yn Ynys-hir, Stryd Hermon a’r Stryd Fawr yn Nhreorci, ac ar wahanol rannau o’r A4059 – o Ben-y-waun i Drecynon, ger Cylchfan Asda yn Aberaman, a rhwng Aberpennar ac Abercynon yr haf diweddaf. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i'r de o'r Drenewydd yn Aberpennar.
“Mae’r gwaith uwchraddio i’r ceuffosydd yn Ffordd y Rhigos bellach wedi’i gwblhau, gyda dim ond gwaith cyfleustodau ar ôl i’w gyflawni dros ychydig ddiwrnodau yn yr wythnosau nesaf. Mae'r delweddau cynnydd yn dangos y gwaith gwella sylweddol sydd wedi'i gynnal yn ystod y misoedd diwethaf, wrth i'r Cyngor barhau i gyflawni gwaith lliniaru llifogydd wedi'i dargedu i fynd i'r afael â'r lleoliadau hynny sy'n cael eu hystyried fwyaf mewn perygl o stormydd yn y dyfodol. Diolch i’r gymuned am eich cydweithrediad wrth i’r cynllun diweddaraf yma gael ei gyflawni.”
Wedi ei bostio ar 11/08/22