Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cynigion cyffrous i drawsnewid hen safle'r Co-op yn Nhonypandy. Mae RHA Housing, gyda chefnogaeth y Cyngor, yn bwriadu adfywio'r safle trwy gyflawni datblygiad aml-ddefnydd gwerth £13 miliwn.
Bydd cynllun The Big Shed yn golygu defnyddio’r safle ar Stryd Dunraven unwaith eto ar ôl iddo fod yn wag ers degawd wedi i siop y Co-op gau yn 2012. Aeth RHA Wales ati i gaffael y safle gwag yn 2019 ac mae'r gymdeithas dai wedi bod yn cynllunio ers hynny. Ei diben yw gwella'r ardal a chreu lleoliad canolog bywiog y gall y gymuned fod yn falch ohono.
Derbyniodd RHA Wales ganiatâd cynllunio llawn gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ym mis Chwefror 2022. Mae'r caniatâd yma'n cwmpasu dwy o brif elfennau'r prosiect – y cyntaf yw dymchwel rhan o hen adeilad y Co-op ac adeiladu tair uned fanwerthu newydd. Bydd yr unedau yma'n cynnwys siop, Bistro a swyddfeydd. Bydd modd cael mynediad at yr unedau o Stryd Dunraven.
Yr ail elfen yw adeiladu bloc 5 llawr sy’n cynnwys 51 fflat. Bydd 8 o'r rhain ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu a bydd fflatiau ar gyfer aelodau staff. Bydd modd cael mynediad at yr adeilad yma o Stryd y Bont. Bydd yr holl gartrefi yn bodloni gradd A Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC) ac yn cydymffurfio â gofynion cyllid Llywodraeth Cymru.
Mae'r caniatâd hefyd yn cwmpasu gwaith cysylltiedig gan gynnwys gwelliannau i'r system ddraenio a'r dirwedd. Bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys 52 o leoedd parcio oddi ar y stryd i'r rhai sy'n byw yn yr adeilad newydd.
Mae RHA Wales wedi penodi Jehu Group yn gontractwr ar y prosiect a'r bwriad yw dechrau'r gwaith ar y safle yn ystod yr haf eleni. Mae'r cynllun yma, sydd werth £13 miliwn, wedi elwa ar £5.3 miliwn o Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar gyfer yr elfennau preswyl a £550,000 o'r Gronfa Gofal Integredig. Bydd RHA Wales Group Ltd yn talu'r holl gostau sy'n weddill.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter a Datblygu: "Rwy'n falch iawn bod y Cyngor yn cefnogi cynllun RHA Housing i adfywio safle blaenllaw sydd wir angen buddsoddiad. Mae'r datblygiad yn un cynaliadwy sy'n cynnwys cyfuniad o unedau manwerthu a thai fforddiadwy o ansawdd uchel. Bydd y cynllun yn elwa ar gyfraniadau gwerth miliynau o bunnoedd gan RHA Housing a Llywodraeth Cymru.
"Yn gynharach eleni rhoddodd Pwyllgor Cynllunio a Datblygu'r Cyngor ganiatâd llawn i fwrw ymlaen â'r datblygiad. Argymhelliad y swyddogion oedd cymeradwyo'r cais gan y bydd yn bywiogi Tonypandy ac yn gwella tir y cyhoedd yng nghanol y dref, yn darparu llety fforddiadwy ac yn cael effaith gymdeithasol ac economaidd gadarnhaol ar yr ardal leol. Ers hynny mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi caniatâd llawn ac mae RHA Wales yn barod i ddechrau ar y gwaith.
"Mae cynllun ailddatblygu tebyg sydd hefyd yn elwa ar gyllid y Grant Tai Cymdeithasol yn mynd rhagddo yn Abertonllwyd House yn Nhreherbert ar hyn o bryd. Yn ddiweddar rhannodd y Cyngor y newyddion diweddaraf am y cynllun hwnnw sydd bellach yn dirwyn i ben. Mae prosiectau Abertonllwyd House a The Big Shed yng Nghwm Rhondda yn dangos y bartneriaeth gadarnhaol rhwng y Cyngor, RHA Wales a Llywodraeth Cymru – a hynny er mwyn darparu tai cymdeithasol a buddsoddi mewn prosiectau i adfywio ein cymunedau trwy gyflawni prosiectau allweddol.
"Bydd y Cyngor yn rhannu'r newyddion diweddaraf maes o law wrth i’r gwaith ddechrau ar Stryd Dunraven yn fuan."
Meddai Rhianydd Jenkins, Cyfarwyddwr Datblygu ac Adfywio RHA Wales Group Ltd: “Rydyn ni wedi ystyried cynnwys ein cynnig yn ofalus. Rydyn ni’n gobeithio ychwanegu at y dref yn hytrach na chystadlu â busnesau a chynigion lleol cyfredol. Bydd ein cynnig ni’n darparu mannau sydd ddim ar gael yn Nhonypandy ar hyn o bryd.
“Dim ond un o’n prosiectau adfywio yn y dref yw The Big Shed ac rydyn ni wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi a chynnal prosiectau adfywio yn yr hir dymor. A ninnau’n sefydliad angori, byddwn ni’n parhau i gefnogi prosiectau yn y dyfodol a chynnig llwyfan i’r gwaith yma er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ychwanegu ato a chreu tref fywiog.”
Wedi ei bostio ar 15/08/2022