Skip to main content

Disgyblion RhCT yn cael eu canlyniadau

A-Levels 2022

Mae disgyblion Rhondda Cynon Taf wedi derbyn eu canlyniadau UG, Safon Uwch, Tystysgrif Her Sgiliau Uwch a chanlyniadau cymhwyster galwedigaethol lefel 3 heddiw.

Yn sgil hynny, mae llawer ohonyn nhw wedi cael lle yn y Brifysgol i barhau â'u hastudiaethau. Da iawn i bawb ar eu cyflawniadau academaidd, ac am eu dyfalbarhad a’u penderfyniad er gwaethaf heriau blwyddyn academaidd 2021-22. 

Ymhlith y rhai i longyfarch disgyblion a staff llwyddiannus yr ysgolion oedd Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, y Cynghorydd Rhys Lewis, a Chyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant y Cyngor, Gaynor Davies. Roedd y ddau wedi ymweld ag ysgolion i rannu eu dymuniadau gorau yn bersonol wrth i'r disgyblion dderbyn eu canlyniadau.

Meddai'rCynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: “Ar ran y Cyngor, hoffwn i longyfarch yr holl ddisgyblion sy'n cael eu canlyniadau heddiw. Maen nhw wedi dyfalbarhau ac wedi dangos cydnerthedd er gwaethaf yr heriau roedden nhw wedi'u hwynebu yn ystod blwyddyn academaidd 2021-22.

“Heddiw, mae modd iddyn nhw elwa ar eu holl waith caled, a dyma ddymuno'n dda iddyn nhw wrth iddyn nhw barhau â'u teithiau personol eu hunain tuag at addysg bellach neu gyflogaeth.”

Cadarnhaodd Cymwysterau Cymru y byddai cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch cymeradwy yn cael eu hasesu yn ôl yr arfer yn ystod haf 2022, drwy arholiadau ac asesiadau di-arholiad, ond gydag addasiadau.

Er mwyn lliniaru’r addysgu a’r dysgu a gollwyd o ganlyniad i’r pandemig, gwnaeth CBAC addasiadau i unedau asesiadau di-arholiad a/neu unedau arholi ar gyfer y cymwysterau yma.

Ar yr un pryd, gweithredodd drefniadau wrth gefn pe na bai arholiadau’n bosibl. Arweiniodd hyn at:-

  • symleiddio cynnwys yr asesiad yn 2022 a'i wneud yn fwy effeithiol ac effeithlon
  • lleihau gofynion asesiadau di-arholiad
  • cyflwyno opsiwn i asesiadau naill ai trwy ddewis o unedau neu ddewis o gwestiynau o fewn uned.

Mae arweinwyr a staff ysgolion wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod yr holl ofynion hyn wedi’u rhoi ar waith i’r ansawdd uchaf ar gyfer ein disgyblion, er mwyn iddyn nhw ennill y graddau sy’n adlewyrchu eu potensial ac sy'n eu galluogi i barhau ar eu llwybr i addysg bellach, cyflogaeth, prentisiaethau a hyfforddiant yn y dyfodol.

Fel yn 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i lacio’r broses o adrodd ar ddata cyflawniad ac yn parhau i orfodi’r datganiad - Ni fydd data ynghylch dyfarniadau cymwysterau yn cael eu defnyddio i adrodd ar ddeilliannau cyrhaeddiad ar lefel ysgol, awdurdod lleol na chonsortiwm rhanbarthol, ac ni cheir eu defnyddio i ddal ysgolion i gyfrif am ddeilliannau eu dysgwyr.’

Bydd gofyn ar bob ysgol a darparwr addysg ôl-16 i barhau i gynnal hunanarfarniad effeithiol ar gyfer gwelliant parhaus. Bydd hyn yn golygu bod ysgolion, gyda chymorth awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol, yn defnyddio’r wybodaeth lefel disgyblion sydd ganddyn nhw am gyrhaeddiad a deilliannau eraill i fyfyrio ar eu trefniadau presennol a’u gwella.

Er gwaethaf yr holl darfu yn ystod y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf, mae heddiw'n ddiwrnod pwysig i ddisgyblion blwyddyn 13, gan ei fod yn ddechrau pennod newydd gyffrous yn eu bywydau.

Mae'r Cyngor yn cydnabod holl gyrraeddiadau cadarnhaol ysgolion Rhondda Cynon Taf a'u disgyblion, gyda llawer yn cael eu derbyn heddiw i'r brifysgol, i golegau addysg bellach, i brentisiaethau ac i swyddi.

Mae rhagor o gymorth ar gael yma:- Cefnogaeth i Fyfyrwyr (cbac.co.uk)

Wedi ei bostio ar 18/08/22