Mae ein 15 athletwr lleol a gynrychiolodd Rondda Cynon Taf yn rhan o Dîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad wedi dod adref, gyda Chymru’n ennill cyfanswm o 28 o fedalau – 8 Medal Aur, 6 Medal Arian ac 14 Medal Efydd.
Cafodd Jarrad Breen lwyddiant, gan ennill medal Aur yn y gystadleuaeth Bowls - Parau Dynion. Enillodd Joel Makin fedal Arian yn y gystadleuaeth Sboncen – Senglau’r Dynion, ac fe enillodd Ross Owen fedal Efydd yn y gystadleuaeth Bowls - Triawd Dynion.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Roedd Gemau'r Gymanwlad yn ddathliad bendigedig o chwaraeon, gyda miloedd o athletwyr yn cystadlu ar y lefel uchaf. Anfonaf ein llongyfarchiadau i Jarrad, Joel a Ross ar eu llwyddiannau gyda'u medalau.
“Rwyf hefyd yn anfon ein dymuniadau cynhesaf at yr holl gystadleuwyr lleol eraill a fu'n chwifio baner ein Bwrdeistref Sirol ar lwyfan y Gymanwlad – rydyn ni mor falch ohonoch chi i gyd.”
Roedd ein hathletwyr eraill yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham yn cynnwys Becky Lewis (Nofio); Callum Carson (Rygbi Saith Bob Ochr); Christie-Marie Williams (Codi Pwysau); Cole Swannack (Rygbi Saith Bob Ochr); Leah Dixon (Beicio); Morgan Sieniawski (Rygbi Saith Bob Ochr); Elynor Backstedt-Calvert (Beicio); Owen Jenkins (Rygbi Saith Bob Ochr); Paul Brown (Bowls); Rhys Britton (Beicio); Rhys Jones (Athletau); a Callum Evans (Tennis Bwrdd).
Wedi ei bostio ar 15/08/22