Skip to main content

Gwaith ail-wynebu ym Maes Parcio Stryd De Winton, Tonypandy

De Winton Street Car Park 2 - Copy

Bydd Maes Parcio Stryd De Winton yn Nhonypandy ar gau am ddau ddiwrnod ddiwedd mis Awst er mwyn i waith i osod wyneb newydd gael ei gynnal. Bydd y maes parcio ar gau ar ddydd Mawrth, 30 Awst, a dydd Mercher, 31 Awst.

Mae modd parcio am ddim yn y meysydd pacio sydd gerllaw, sef Maes Parcio Uchaf Tonypandy (arhosiad hir), Maes Parcio Isaf Tonypandy (arhosiad byr) a Maes Parcio Sgwâr Tonypandy (arhosiad cyfyngedig). Mae'r rhain i gyd yn feysydd parcio'r Cyngor ac ar agor 24/7.

Bydd y maes parcio cyfan yn cael ei ail-wynebu, a llinellau gwyn yn cael eu  hail-baentio. Bydd arwyddion yn eu lle i roi gwybod i ddefnyddwyr cyn cau'r maes parcio. Mae'r gwelliannau'n cael eu hariannu gan Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Chludiant gwerth £26.365m y Cyngor ar gyfer 2022/23.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae gwaith i wella meysydd parcio'r Cyngor yn parhau eleni, gyda £45,000 wedi'i neilltuo yn Rhaglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer atgyweirio ac uwchraddio a gwella. Bydd y gwaith ym Maes Parcio Stryd De Winton yn gweld ailwynebu a leinin llawn newydd, er budd trigolion ac ymwelwyr â Thonypandy.

“Mae’r gwaith yma'n dilyn ymlaen o welliannau a gafodd eu gwneud ym Maes Parcio’r Stryd Fawr, Aberdâr, ym mis Tachwedd 2021. Roedd y gwaith yma'n cynnwys gosod wyneb newydd, gwella'r draenio, adnewyddu ramp mynediad a gwella'r goleuadau. Rhoddwyd mesurau arafu traffig ar waith hefyd ym Maes Parcio Uchaf Tonypandy ym mis Rhagfyr 2021 i'w wneud yn fwy diogel i ddefnyddwyr a cherddwyr. Mae'r Cyngor bellach yn berchen ar hen faes parcio NCP yn Stryd Catherine ym Mhontypridd hefyd.

“Oherwydd y gwaith ym Maes Parcio Stryd De Winton, bydd y maes parcio ar gau am ddau ddiwrnod, gyda pharcio am ddim ym meysydd parcio’r Cyngor gerllaw. Diolch i drigolion, busnesau ac ymwelwyr â chanol tref Tonypandy am eu cefnogaeth tra bod y gwelliannau yma'n cael eu cyflawni.”

Wedi ei bostio ar 23/08/2022