Bydd Ffordd Mynydd Rhigos yn parhau i fod AR GAU am gyfnod amhenodol a byddwn ni'n cyhoeddi'r newyddion diweddaraf bob dydd. Mae modd cyrraedd Zip World Tower o ochr Hirwaun y mynydd o hyd.
Mae contractwyr arbenigol ym maes mynediad â rhaffau ar y safle ar hyn o bryd. Maen nhw'n symud deunydd rhydd ac yn arolygu rhwydi i asesu'r difrod.
Rydyn ni wedi cael gwybod am unigolion yn rhedeg ac yn beicio ar hyd Ffordd Mynydd Rhigos – mae'r llwybr yn hynod beryglus gan fod creigiau'n cwympo ar y ffordd. Dyma'ch atgoffa bod y ffordd AR GAU I BAWB. Peidiwch â defnyddio’r ffordd am unrhyw reswm.
Mae gwaith brys wrthi'n cael ei gynnal i wneud yr ardal yn ddiogel a bydd rhwystrau concrit yn cael eu gosod i amddiffyn cerbydau ar ôl i'r gwaith yma gael ei gwblhau.
Er mwyn gwella teithiau, bydd Ffordd Mynydd Maerdy AR AGOR rhwng 4pm a 9.30am bob dydd, gan ddechrau am 4pm ddydd Mercher 17 Awst. Bydd y ffordd AR GAU rhwng 9.30am a 4pm er mwyn parhau â gwaith pwysig. Nodwch y bydd dau set o oleuadau traffig o ganlyniad i'r gwaith sy'n mynd rhagddo felly dylai modurwyr ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer teithio.
Rydyn ni'n ymddiheuro am yr anghyfleustra ac yn gwerthfawrogi cefnogaeth trigolion wrth i ni weithio i drwsio'r ffordd.
Bydd y newyddion diweddaraf yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Wedi ei bostio ar 17/08/2022