Skip to main content

Cynllun Grantiau Tai Cymdeithasol – Abertonllwyd House

Mae'r Cyngor wedi rhannu'r newyddion diweddaraf am waith ailddatblygu Abertonllwyd House yn Nhreherbert. Mae'r gwaith yn digwydd ar y cyd â pherchnogion yr adeilad, RHA Wales ac yn rhan o brosiect sydd wedi elwa o gyllid gan Gynllun Grantiau Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. 

Cafodd Abertonllwyd House ei adeiladu yng nghanol Treherbert yn yr 1920au. Mae ganddo dri llawr o fflatiau yn ogystal â llawr isaf sy'n is na lefel y ddaear.

Mae RHA Wales wedi bod yn berchnogion ar yr adeilad ers yr 1980au. Ar y pryd roedd 13 cartref yno, yn gyfuniad o fflatiau a fflatiau un ystafell.

Daeth rheoli'r adeilad yn fwy heriol yn sgil cyfraddau uchel o fflatiau gwag a diffyg diddordeb gan ddarpar-denantiaid. Oherwydd hyn roedd yr adeilad yn wag am flynyddoedd.

Gall eiddo gwag fod yn gost ychwanegol i'r perchnogion ac i'r Cyngor. Mae gadael adeiladau'n wag hefyd yn wastraff o gyfle i ddarparu tai a llety arbenigol yn yr ardal leol. Mae cartrefi gwag hefyd yn fwy tebygol o gael eu gadael i ddirywio, sy'n gwneud i gymunedau edrych yn annymunol.

Gall eiddo gwag hefyd effeithio'n negyddol ar gymunedau yn ogystal â bod yn hyll yr olwg ac yn darged ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yn ogystal â hyn, maen nhw'n rhwystro pobl sydd mewn angen tai rhag cael cartrefi. Yn sgil hynny fe fydd rhagor o alw am osod datblygiadau cartrefi fforddiadwy newydd ar safleoedd tir glas.

Dechreuodd RHA Wales a'r Cyngor drafod opsiynau posib ar gyfer dyfodol yr adeilad ar ddechrau 2021. Cytunwyd i archwilio i'r posibilrwydd o droi'r adeilad yn llety â chymorth yn ardal yr awdurdod lleol.

Dechreuodd y gwaith ym mis Hydref 2021. Y gost fydd £980,000 a bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £630,000 o gyllid Grant Tai Cymdeithasol.

Llwyddwyd i ddiogelu cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2022 felly roedd modd i'r Cyngor a RHA Wales gynllunio ac ailddatblygu'r adeilad er mwyn darparu cartrefi i bobl ddigartref ac i leddfu'r baich ar lety dros dro. Bydd y gwaith ailddatblygu wedi'i gwblhau erbyn diwedd yr haf 2022.

Bydd yr ailddatblygiad yma'n manteisio ar y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf ac yn creu 8 fflat gydag un gwely i ddau berson, llety i weithwyr, ardal golchi dillad, ystafelloedd hyfforddiant a gofod cymunedol.

Mae'r ddwy fflat ar y llawr gwaelod wedi'u haddasu i sicrhau eu bod nhw'n addas i breswylwyr anabl. Mae'r addasiadau'n cynnwys:

  • drysau mwy llydan
  • cawod mynediad hwylus
  • cegin hwylus gyda ffwrn a hob

Bydd gweithwyr ar y safle bob awr o’r dydd, bob dydd a diben y cynllun yw cefnogi'r preswylwyr a sicrhau bod ganddyn nhw'r sgiliau sydd eu hangen er mwyn symud i lety parhaol.

Bydd hefyd modd manteisio ar gefnogaeth ariannol trwy gyllido a threfnu arian, ffug-gyfweliadau gyda chymorth llythrennedd i helpu â'r broses o ddod o hyd i swyddi, a chymorth ag iechyd meddwl a chorfforol.

Bydd y cysylltiadau â grwpiau cymorth a gwasanaethau lleol yn golygu bod modd cynnal cyrsiau ychwanegol i ddefnyddwyr y gwasanaeth, gan gynnwys cyrsiau sy'n cael eu darparu gan sefydliad Cymunedau am Waith, gwasanaethau iechyd a sefydliadau cymuned eraill. Bydd y cynllun yn lleddfu'r pwysau ar lety dros dro trwy ddarparu llety sydd wir ei angen ar unigolion.

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau: "Rwy'n falch iawn o gael gweld bod y cynllun ailddatblygu yma'n parhau. Mae disgwyl i'r gwaith fod wedi'i orffen cyn roedden ni'n ei ddisgwyl ddiwedd yr haf yma.

"Mae Abertonllwyd House yn adeilad blaengar yng nghymuned Treherbert, felly mae'r gwaith adfywio yma'n hollbwysig i ddarparu llety hanfodol ac i ddatrys y problemau yn ymwneud â dod o hyd i gartrefi i unigolion digartref. Bydd y gwaith hefyd yn darparu nifer o wasanaethau cymorth ar y safle i sicrhau bod yr unigolion yn barod i symud i lety parhaol.

"Hoffwn i ddiolch i RHA Wales a Llywodraeth Cymru am weithio'n agos â'r Cyngor i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr adeilad."

Wedi ei bostio ar 01/08/22