Skip to main content

Haf o Hwyl i Bobl Ifainc

Summer of Fun logo

Ledled Rhondda Cynon Taf, mae plant a phobl ifainc yr ardal yn barod i fwynhau 'haf o hwyl' yn rhan o brosiect gwerth miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru ar draws y wlad.

Mae modd i'r rheiny sydd ar eu gwyliau haf blynyddol gymryd rhan yn y prosiect Haf o Hwyl am yr ail flwyddyn yn olynol yn dilyn buddsoddiad o £7 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn y prosiect oedd yn boblogaidd iawn y llynedd.

Bydd y cynllun yn rhedeg hyd at 30 Medi ac yn annog plant a phobl ifainc i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau chwaraeon, diwylliannol a chwarae AM DDIM.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd â chyfrifoldeb dros Wasanaethau i Blant: "Rydw i wrth fy modd bod Haf o Hwyl unwaith eto'n dychwelyd i'n bwrdeistref sirol, gan helpu llawer o'n plant, pobl ifainc a theuluoedd mewn cymaint o ffyrdd.

"Yn ogystal â lleddfu problemau gofal plant, mae'r prosiect hefyd yn helpu i gadw ein pobl ifainc mewn cysylltiad â'u ffrindiau ysgol yn ystod gwyliau'r haf, gan roi'r modd iddyn nhw hefyd wneud ffrindiau newydd.

"Mae'n bwysig o ran eu hiechyd a'u lles eu bod nhw'n parhau i symud ac i ganolbwyntio drwy gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau sydd ar gael iddyn nhw, fydd yn ei wneud e'n Haf o Hwyl bythgofiadwy."

Mae pob gweithgaredd yn gynhwysol i blant a phobl ifainc hyd at 25 oed, o bob cefndir a phob rhan o Gymru, ac maen nhw ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg neu'n ddwyieithog. Mae hyn yn ogystal â darpariaeth gofal plant wedi'i rheoleiddio dros yr haf.

Haf diwethaf cymerodd dros 67,500 o blant ran mewn gweithgareddau Haf o Hwyl ledled Cymru oedd yn cynnwys cerddoriaeth, theatr, gweithgareddau chwaraeon môr, dringo a gwifren sip.

Meddai Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Julie Morgan: "Yn wreiddiol wnaethon ni lansio Haf o Hwyl fel ymateb i blant yn methu cyfleoedd i gymdeithasu mewn gweithgareddau ar ôl y pandemig, ond ar ôl gweld pa mor llwyddiannus oedd y cynllun, dewison ni gynnal y cynllun eto.

"Mae manteisio ar gyfleoedd chwarae o ansawdd uchel yn hanfodol ar gyfer datblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol plant. Gan weithio gyda phartneriaid allweddol rydyn ni wedi buddsoddi mewn cyfleoedd chwarae, gan sicrhau bod dros £42 miliwn ar gael ers 2013.

"Eleni byddwn ni hefyd yn rhoi cymorth i ddarparwyr i gynnig bwyd yn ystod eu gweithgareddau, gan helpu gyda rhai o'r problemau difrifol sy'n ein hwynebu o ran llwgu yn ystod y gwyliau a'r argyfwng costau byw.”

Tri phrif amcan y prosiect 'Haf o Hwyl' yw cefnogi hwyl a'r cyfle i blant a phobl ifainc fynegi eu hunain trwy chwarae; mentrau rhyngweithiol, creadigol a chwarae yn y gymuned ar gyfer pob oedran; ac i ddarparu cyfleoedd i chwarae gyda ffrindiau a chyfoedion. 

Wedi ei bostio ar 01/08/22