Skip to main content

Dim terfyn i waith elusennau'r Maer

Mayor

Mae Maer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Wendy Treeby, wedi bod i ymweld ag Ambiwlans Awyr Cymru sy'n un o'r elusennau mae hi wedi’i dethol i’w chefnogi eleni.

Yn ystod ei hymweliad, buodd hi'n cwrdd ag aelodau staff Ambiwlans Awyr Cymru a staff meddygol i ddiolch iddyn nhw'n bersonol am eu gwaith hollbwysig, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae ei nai hi, Tim Manfield, yn ymgynghorydd i garfan Ambiwlans Awyr Cymru.

Meddai Maer Rhondda Cynon Taf, Y Cynghorydd Wendy Treeby: "Pleser oedd cael ymweld ag Ambiwlans Awyr Cymru a chael diolch yn bersonol i'r holl weithwyr am eu gwasanaeth. Rydw i bellach yn deall yn well swyddogaethau Ambiwlans Awyr Cymru, yr hofrennydd a phwysigrwydd cael gweithwyr da ar lawr gwlad a chyllid i ariannu'r gwasanaeth.

"Mae Ambiwlans Awyr Cymru'n cael ei alw i Rondda Cynon Taf yn aml ac yn cyrraedd o fewn munudau i wneud gwaith hollbwysig.

"Rydw i wedi cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru ers blynyddoedd. Dechreuais i gasglu arian ar gyfer yr elusen ar drac rasio modur Pen-bre a llwyddais i godi miloedd o bunnoedd.

"Rydw i wedi gweld gwaith Ambiwlans Awyr Cymru a'r swyddogaethau maen nhw wedi'u datblygu dros y blynyddoedd ac maen nhw'n rhan hanfodol o bob cymuned.

"Mae’n bosibl y bydd angen i unrhyw un ohonon ni, neu’n hanwyliaid, ddefnyddio'r gwasanaeth hanfodol yma yn ystod ein bywydau a dyma pam rydw i wedi dewis Ambiwlans Awyr Cymru yn un o'r elusennau i'w chefnogi yn ystod fy mlwyddyn yn faer. Dangoswch eich cefnogaeth a chyfrannwch yn hael os oes modd i chi wneud hynny."

Bydd y Cynghorydd Treeby yn cefnogi nifer o elusennau yn ystod ei chyfnod yn Faer Rhondda Cynon Taf. Yn ogystal ag elusen Ambiwlans Awyr Cymru bydd hi’n cefnogi Cymdeithas Strôc, elusen Green Meadow Riding for the Disabled a’r Lluoedd Arfog.

Cyfrannwch ar-lein trwy ddefnyddio'r ddolen yma:

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru yn cynnig gofal critigol cymhleth. Mae'r ymgynghorwyr a'r ymarferwyr gofal critigol yn meddu ar sgiliau rhagorol ac yn defnyddio peth o'r offer meddygol mwyaf arloesol yn y byd.

Mae modd iddyn nhw wneud trallwysiadau gwaed, rhoi anesthesia a gwneud llawdriniaethau brys yn y fan a’r lle cyn hedfan y claf i gael gofal arbenigol.

Meddai Laura Coyne, Swyddog Codi Arian yn y Gymuned Ambiwlans Awyr Cymru: "Rydyn ni'n falch iawn o gael bod yn un o elusennau Maer Rhondda Cynon Taf yn ystod ei thymor.

"Oherwydd ei chysylltiad teuluol â'r elusen, mae'r Cynghorydd Wendy Treeby yn effro i waith caled y garfan a'r gwaith mae’n ei wneud yn achub bywydau.

"Mae'n rhaid i Ambiwlans Awyr Cymru godi £8 miliwn y flwyddyn i barhau â'r gwasanaeth. Bydd y gefnogaeth yma'n golygu bod modd inni barhau ac achub rhagor o fywydau. Dymunwn ni'n dda i'r Cynghorydd Treeby wrth iddi godi arian er budd yr achosion o’i dewis."

Am ragor o wybodaeth am waith Ambiwlans Awyr Cymru, bwriwch olwg ar y ddolen:
Wedi ei bostio ar 11/08/2022