Mae'r Cyngor wedi rhoi'r newyddion diweddaraf ar y gwaith sydd ei angen i atgyweirio'r bont droed o Goedlan Pontrhondda i Barc Gelligaled a gafodd ei difrodi - gan gynnwys neges ddiogelwch bwysig mewn perthynas â natur anniogel yr ardal waith.
Cafodd y bont ei chau ym mis Gorffennaf ar ôl darganfod difrod strwythurol sylweddol. Roedd cau'r bont yn gwbl angenrheidiol ar gyfer diogelwch y cyhoedd. Mae ffens wedi'i gosod o amgylch y bont, ac mae arwydd sy’n dangos llwybr arall i gerddwyr i’w weld ar hyd Heol Tyntyla.
Mae'r Cyngor wedi cael gwybod am achosion o bobl yn dringo'r ffens i gael mynediad i'r bont a gafodd ei difrodi. Bu hyd yn oed achos o bobl yn cropian ar bont bibellau gwasanaeth gerllaw i gael mynediad i'r parc. Mae’r gweithredoedd yma'n hynod beryglus ac rydyn ni'n cynghori'r cyhoedd, yn y termau cryfaf posibl, i beidio â rhoi eu hunain mewn perygl fel hyn.
Mae asesiad cychwynnol o'r bont droed wedi canfod bod y wal adain gyfan mewn perygl a heb ei chynnal, ac mae angen rhagor o waith ymchwilio i ategwaith y bont. Cafodd gwaith ei gwblhau'n ddiweddar i adleoli'r polyn trydan o'r tu mewn i'r ardal waith, a bydd polyn lamp gerllaw hefyd yn cael ei symud maes o law.
Yn ystod y gweithgaredd nesaf ar y safle bydd contractwr y Cyngor yn cael gwared ar y wal adain sydd wedi'i difrodi er mwyn cynnal asesiad trylwyr o'r ategwaith. Yn amodol ar ganlyniadau'r ymchwiliadau hyn, mae'r bont yn debygol o aros ar gau am rhwng tair a deg wythnos.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i aelodau'r gymuned am eu hamynedd a'u cydweithrediad wrth i gyflwr y bont droed gael ei asesu. Bydd diweddariad pellach yn cael ei gyhoeddi maes o law, unwaith y bydd cyflwr y bont wedi’i ganfod.
Wedi ei bostio ar 11/08/2022