Skip to main content

Penodi Aelod Annibynnol i'r Pwyllgor Safonau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am benodi aelod annibynnol i'w Bwyllgor Safonau.

Mae'r Pwyllgor yn cynnwys aelodau etholedig o'r Cyngor, Aelod Cyngor Cymuned ac aelodau annibynnol. Caiff Cadeirydd ac Is-gadeirydd y pwyllgor eu hethol o'r aelodau annibynnol.

Mae'r Cyngor wedi mabwysiadu'r meini prawf canlynol ar gyfer penodi aelodau annibynnol:

  • Rhaid iddyn nhw fod yn 'annibynnol', yn unol â diffiniad Rheoliadau Pwyllgor Safonau (Cymru) 2001, rhaid iddyn nhw beidio â bod wedi'u hanghymwyso gan y rheoliadau hynny na chan Adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
  • Rhaid iddyn nhw fod â'r hawl i gael eu cynnwys ar gofrestr etholwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
  • Rhaid iddyn nhw fod yn aelod parchus o'r gymuned yn yr ardal a wasanaethir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a meddu ar brofiad perthnasol i waith Pwyllgor Safonau.

Yn ogystal â hynny, rhaid i bob ymgeisydd fod yn gwbl annibynnol ar wleidyddiaeth.

Bydd y penodiad am gyfnod o chwe blynedd.   Mae gan Aelod Annibynnol hawl i gael lwfans dyddiol ar gyfradd o £210 (£105 am ½ diwrnod) a threuliau am fynychu cyfarfodydd, sy'n daladwy yn unol ag Atodlen y Cyngor ar Dâl Aelodau.

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion ychwanegol gan Mr A Wilkins, Swyddog Monitro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Swyddfeydd Cyngor y Fwrdeistref Sirol, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach CF40 2XX a thrwy anfon e-bost atcyfarwyddwr.cyfreithiol@rctcbc.gov.uk

Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u llenwi erbyn dydd Gwener fan, 9 Medi, 2022.

Wedi ei bostio ar 18/08/2022