Skip to main content

Penodi Cadeirydd Newydd y Bwrdd Diogelu

Lisa Curtis-Jones

Lisa Curtis-Jones

Mae Lisa Curtis-Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, wedi’i phenodi’n Gadeirydd newydd Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg.

Pwrpas rôl Cadeirydd y Bwrdd Diogelu yw sicrhau bod y Bwrdd yn cyflawni ei amcanion i ddiogelu plant ac oedolion sy'n wynebu risg yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr (Cwm Taf Morgannwg) yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Yn ogystal â hyn, bydd y Cadeirydd yn hyrwyddo’r agenda diogelu yng Nghwm Taf Morgannwg drwy sicrhau bod asiantaethau partner yn gweithio gyda’i gilydd i ddiogelu plant ac oedolion sy’n wynebu risg.

MeddaiLisa Curtis-Jones: “Rwy’n falch o gael fy mhenodi’n Gadeirydd Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg ac i helpu i barhau i gyflawni'r gwaith hanfodol y mae'r Bwrdd a'i bartneriaid yn ei wneud o ran diogelu'r bobl yn y rhanbarth rhag camdriniaeth, esgeulustod a niwed.”

 

 

 

Wedi ei bostio ar 12/12/2022