Skip to main content

Gwaith adeiladu unedau busnes modern Tresalem bellach wedi'i gwblhau

The new modern business units in Robertstown

Mae’r datblygiad newydd o 20 uned fusnes fodern yn Nhresalem wedi cael ei drosglwyddo i'r Cyngor wedi i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau - ac mae dros hanner yr unedau dan gynnig gan denantiaid posibl ar hyn o bryd.

Mae'r datblygiad sylweddol yng Nghwm Cynon wedi arwain at ailddefnyddio ardal fawr o dir, gan greu 20 adeilad diwydiannol sy'n amrywio o unedau traddodiadol i rai aml-ddefnydd ac sy’n amrywio mewn maint o 1,000 hyd at 1,700 troedfedd sgwâr. Mae'r holl waith bellach wedi cael ei gwblhau gan y contractwr, R&M Williams, sydd wedi trawsnewid y safle oddi ar Stryd Wellington ers y gwaith clirio cychwynnol yn 2020.

Mae'r datblygiad wedi cael ei gyflawni o ganlyniad i gyllid sylweddol gwerth £3.36m a gafodd ei sicrhau gan y Cyngor o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, er mwyn creu'r safle cyflogaeth allweddol yma.

Mae modd i’r Cyngor gadarnhau bod 12 o'r 20 uned dan gynnig ar hyn o bryd, ac mae'r asiant gosod eiddo, JLL, wedi derbyn nifer o ymholiadau am argaeledd y safle. Mae'r unedau sy'n weddill yn cael eu marchnata gan JLL.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: "Rwy'n falch iawn bod datblygiad Tresalem bellach wedi cael ei drosglwyddo i'r Cyngor ar ôl i waith adeiladu 20 uned fusnes fodern drawiadol gael ei gwblhau. Rydyn ni wedi croesawu'r cyllid sylweddol gwerth £3.36m a gafodd ei sicrhau'n flaenorol trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Mae’r cyllid yma wedi cyfrannu at wireddu’r datblygiad yma.

"Dechreuwyd y prosiect er mwyn diwallu’r angen a’r galw lleol am y math yma o eiddo modern i fusnesau – mae hyn wedi cael ei adlewyrchu yn y diddordeb a'r cynigion ffurfiol rydyn ni wedi eu derbyn gan fusnesau i weithredu o'r safle. Mae'r tir yn Nhresalem yn safle cyflogaeth allweddol sydd wedi'i gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol, a bydd ei ddatblygiad yn rhoi hwb i'r economi leol.

"Mae'r cynllun yma'n dilyn yr uned fusnes newydd gwerth £2.58m a gafodd ei chreu ym Mharc Coed-elái yng Nghoed-elái, sy’n cael ei defnyddio erbyn hyn yn dilyn cwblhau'r gwaith y llynedd. Cafodd y cynllun yma ei ddarparu ochr yn ochr â Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, gyda'r Cyngor yn arwain ar gynllun menter ar y cyd â Llywodraeth Cymru.

"Bydd y Cyngor yn rhoi’r diweddaraf i drigolion pan fydd y tenantiaid newydd yn cael eu cadarnhau ar gyfer datblygiad Tresalem. Gyda 12 uned dan gynnig ar hyn o bryd, mae'r asiant gosod eiddo yn gweithio'n agos gyda busnesau sydd â diddordeb, ac yn parhau i geisio sicrhau diddordeb pellach yn yr unedau sy'n weddill."

Os oes gyda chi ymholiadau sy'n ymwneud â'r unedau, ffoniwch asiant gosod eiddo'r Cyngor, JLL, ar 029 2072 6003, neu e-bostio Kate.Openshaw@eu.jll.com

Wedi ei bostio ar 20/12/2022