Skip to main content

Ymgynghoriad ar y gweill ar hyn o bryd ar gynigion gofal preswyl mawr

Modernising-care-for-older-people-WELSH - Copy

Mae modd i drigolion nawr ddweud eu dweud ar gynigion i foderneiddio gwasanaethau gofal preswyl lleol. Mae'r cynigion yn cynnwys buddsoddiad mawr i adeiladu pedwar llety gofal newydd o’r radd flaenaf tra’n cadw pump o gartrefi gofal y Cyngor. 

Yn eu cyfarfod ddydd Llun, 5 Rhagfyr, trafododd y Cabinet y cynigion, yn ogystal ag adborth diweddar gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar 29 Tachwedd. Cytunodd Aelodau'r Cabinet i ymgynghori ar opsiwn a ffefrir sy'n canolbwyntio ar wasanaethau ataliol, lles ac anghenion ar gyfer y dyfodol. Byddai'r opsiwn yn cynyddu'r dewis i bobl sydd angen llety a gofal. Mae hefyd yn cynnig dewisiadau ymarferol amgen i'r rhai sy'n gallu aros yn annibynnol gyda chymorth yn eu cymunedau nhw. 

Mae'r cynigion wedi'u cyflwyno'n rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i foderneiddio a gwella'r ddarpariaeth gofal i oedolion, gan ymateb i ddisgwyliadau newidiol a phoblogaeth sy'n heneiddio. Cytunwyd ar gynllun buddsoddi gwerth £50 miliwn i ddarparu 300 o welyau gofal ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf yn 2017. Ers hynny mae 100 o welyau wedi’u creu mewn tai gofal ychwanegol newydd yn Aberaman a’r Graig. 

Mae’r cynigion yn cynnwys adeiladu llety newydd sbon sy’n darparu gofal ychwanegol a gofal dementia preswyl yn Nhreorci, Glynrhedynog ac Aberpennar – yn ogystal â llety newydd o’r radd flaenaf ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, ym Mhentre’r Eglwys. Byddai pump o gartrefi gofal y Cyngor yn cael eu cadw, a phedwar cartref yn cael eu dadgomisiynu a'u disodli gan y cyfleusterau modern neu arbenigol a amlinellwyd uchod. Amlinellir yr opsiwn a ffefrir ar waelod yr erthygl yma. 

O ganlyniad i benderfyniad y Cabinet, mae ymgynghoriad bellach ar y gweill ar yr opsiwn a ffefrir, tan Ddydd Gwener, 27 Ionawr, 2023. Mae hyn yn rhoi cyfle i breswylwyr a fydd, o bosibl, yn cael eu heffeithio gan y cynigion, eu teuluoedd, eu cynhalwyr a’u heiriolwyr, aelodau staff, a’r cyhoedd, gael gwybod rhagor a dweud eu dweud. 

Bydd y Cyngor yn darparu llyfryn gwybodaeth, holiadur, Cwestiynau a Ofynnir yn Aml a dogfennau hawdd eu darllen i'r holl breswylwyr sy'n byw yn y cartrefi gofal sy'n cael eu heffeithio gan y cynigion. Bydd cyfarfodydd hefyd gyda phreswylwyr a’u teuluoedd tra bydd cymorth eiriolaeth yn cael ei drefnu ar gyfer y rhai sydd ei angen. Mae'r ymgynghorwyr annibynnol Practice Solutions Ltd wedi cael eu comisiynnu i helpu gyda'r broses yma. 

Bydd hefyd nifer o gyfarfodydd ymgynghori mewnol gydag aelodau o staff y cartrefi gofal sy'n cael eu heffeithio gan y cynigion. Bydd e-byst hefyd yn cael eu hanfon at randdeiliaid allweddol i roi gwybod iddyn nhw am yr ymgynghoriad a'u gwahodd i gymryd rhan. 

Mae modd i'r cyhoedd ddweud eu dweud trwy gyrchu gwybodaeth ar wefan y Cyngor a llenwi arolwg, yn www.rctcbc.gov.uk/ymgynghori.

Bydd hyn yn cael ei hyrwyddo'n rheolaidd ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor. Bydd sesiynau 'galw heibio' cymunedol lleol hefyd yn cael eu cynnal yn Aberpennar, Glynrhedynog a Phentre'r Eglwys ym mis Ionawr. Byddwch chi'n derbyn y manylion llawn am y cynlluniau yma maes o law. 

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Mae’r Cabinet wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad helaeth am saith wythnos ar yr opsiwn a ffefrir, ar ôl ystyried yr adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ac argymhellion swyddogion. Bydd y broses yn casglu barn yr holl breswylwyr cartref gofal sy'n cael eu heffeithio, eu teuluoedd neu eiriolwyr, aelodau staff, a'r cyhoedd. 

“Mae’r cynigion wedi’u dwyn ymlaen yn unol ag ymrwymiad parhaus y Cyngor i foderneiddio'r ddarpariaeth gofal preswyl. Bydden nhw'n cynyddu'r opsiynau ar gyfer pobl hŷn ar draws tri chyfleuster newydd sy’n cynnig gofal ychwanegol a gofal dementia preswyl, a phedwerydd llety o’r radd flaenaf ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Bydd hyn yn arwain at fuddsoddiad ychwanegol amcangyfrifedig arall o £60 miliwn mewn llety newydd, sy’n cynrychioli llwybr cadarnhaol i bobl hŷn fyw ag urddas a pharch, a byddai’n ddi-os yn gwella iechyd ac annibyniaeth pobl hŷn am genedlaethau i ddod. 

“Rydyn ni wedi gweld sut mae modd i gyflwyno llety gofal modern wneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl hŷn. Agorodd ein tai gofal ychwanegol ym Maes-y-ffynnon yn Aberaman a Chwrt yr Orsaf yn y Graig yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Maen nhw eisoes yn ganolfannau cymunedol poblogaidd iawn, sy’n caniatáu i drigolion fyw’n annibynnol gyda chymorth a chael rhyngweithiadau dydd-i-ddydd ystyrlon. Cynlluniwyd y cyfleusterau i gynnwys mannau mwy sy'n haws symud o'u cwmpas, ystod o amwynderau ar y safle, a chyfleusterau en-suite sydd ddim ar gael yn llawer o'n cartrefi gofal presennol. 

“Mae swyddogion wedi ei gwneud yn glir bod peidio gweithredu ynghylch ein cartrefi gofal ddim yn opsiwn, yn wyneb y cynnydd parhaus mewn gwelyau dros ben mewn cartrefi gofal ac anghenion newidiol pobl hŷn. Mae’n amlwg bod angen newid a buddsoddiad i ddarparu’r amgylchedd gorau ar gyfer gofal. Byddai'r pedwar lleoliad newydd sy'n rhan o'r opsiwn a ffefrir yn fodern, yn hygyrch ac yn gynaliadwy.  

“Mae’r Cabinet wedi cytuno i ymgynghori ar yr opsiwn a ffefrir, ac mae’r broses honno bellach ar y gweill. Bydd y pedwar cartref y bwriedir eu dadgomisiynu yn ganolbwynt mawr yn yr ymgynghoriad yn yr wythnosau nesaf. Bydd y Cyngor yn cefnogi preswylwyr cartrefi gofal sy'n cael eu heffeithio gan y cynigion, ynghyd â'u teuluoedd a'u heiriolwyr, i ddweud eu dweud. Gofynnir i staff hefyd am eu barn ac mae modd i'r cyhoedd gymryd rhan ar-lein ac mewn tair sesiwn wyneb yn wyneb yn y flwyddyn newydd. 

“Bydd yr holl adborth a dderbynnir dros y saith wythnos nesaf yn cael ei goladu a’i gyflwyno i’r Cabinet yn dilyn yr ymgynghoriad, i lywio penderfyniad terfynol.” 

Mae’r opsiwn a ffefrir y mae’r Cyngor bellach yn ymgynghori arno yn cynnwys: 

  • Cadw’r ddarpariaeth gwasanaeth bresennol mewn pump o gartrefi gofal presennol y Cyngor – Cwrt Clydach yn Nhrealaw, Tŷ Pentre, Tegfan yn Nhrecynon, Cae Glas yn y Ddraenen-wen a Pharc Newydd yn Nhonysguboriau. 
  • Darparu llety newydd gyda 40 o fflatiau Gofal Ychwanegol ac 20 o welyau dementia preswyl yn Nhreorci – byddai’r datblygiad yma'n cael ei archwilio gyda Linc Cymru a’r bwrdd iechyd. Byddai'n cael ei leoli ar dir ger Cartref Gofal Ystrad Fechan. Mae'r cartref gofal ar gau dros dro heb unrhyw breswylwyr, a byddai'n cael ei ddatgomisiynu'n barhaol. 
  • Darparu llety newydd gydag 20 o fflatiau Gofal Ychwanegol a 10 gwely dementia preswyl yng Nglynrhedynog – byddai’r datblygiad yma'n cael ei archwilio gyda Linc Cymru. Byddai'n cael ei leoli ar dir ger cartref gofal presennol Ferndale House, a fyddai'n cael ei ddatgomisiynu pan fydd y cyfleuster newydd yn cael ei ddatblygu. 
  • Darparu llety newydd gyda 25 o fflatiau gofal ychwanegol a 15 o welyau dementia preswyl yn Aberpennar – byddai’r datblygiad yma'n cael ei archwilio gyda Linc Cymru. Byddai'n cael ei leoli ar dir ger cartref gofal presennol Troed-y-rhiw. Byddai'r cartref gofal yn cael ei ddatgomisiynu pan fydd y cyfleuster newydd yn cael ei ddatblygu. 
  • Llety wedi'i ailfodelu i ddarparu gofal i oedolion ag anableddau dysgu ym Mhentre'r Eglwys  – byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy ailddatblygu Cartref Gofal Garth Olwg. Byddai'r cartref gofal yn cael ei ddatgomisiynu pan fydd lleoliadau addas yn cael eu canfod ar gyfer ei breswylwyr, mewn cartref o'u dewis sy'n diwallu eu hanghenion asesedig. 

Mae'r Cyngor yn cynnal naw cartref gofal preswyl sy'n cynnig 267 o welyau, a dyma ydy yn un o'r darparwyr Awdurdod Lleol mwyaf yng Nghymru. Mae ganddo nifer cynyddol o welyau dros ben – roedd 184 o welyau'n wag ym mis Tachwedd 2022, gan godi o ddim ond 8 gwely gwag yn 2016. Yn gyffredinol, dim ond 60% o welyau gofal preswyl y Cyngor sy'n cael eu defnyddio. 

Wedi ei bostio ar 12/12/22