Rydyn ni wrthi'n cynnal ymgynghoriad ynghylch dyfodol y Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned ar ôl i'r Cabinet gytuno i gasglu barn pobl leol am ba opsiwn fyddai orau i barhau i gynnal y gwasanaeth ond mewn ffordd newydd.
Ystyriodd aelodau o'r Cabinet adroddiad a oedd yn cynnwys pedwar opsiwn ar gyfer y gwasanaeth Pryd-ar-glud yn eu cyfarfod ar 29 Tachwedd. Cyflwynwyd yr opsiynau yn wyneb yr heriau ariannol sylweddol mae'r Cyngor yn eu hwynebu.
Yr opsiwn a ffefrir yw ad-drefnu'r gwasanaeth mewnol presennol a chynnig dewis i ddefnyddwyr y gwasanaeth rhwng pryd poeth neu bryd wedi'i rewi. Byddai staff yn parhau i gynnal gwiriadau lles i'r defnyddwyr. Byddai'r cynnig yma'n golygu codi pris pob pryd 50c i gyfanswm o £4.55, sy'n dal i fod yn bris hynod gystadleuol o gymharu â chynghorau eraill a darparwyr preifat sy'n darparu gwasanaeth tebyg.
Byddai'r gwasanaeth diwygiedig yn golygu cost o £6.28 y pryd, gyda phob pryd yn cael cymhorthdal o £1.73 gan y Cyngor. Byddai'r cynnig newydd yma'n arbed £427,000 y flwyddyn.
Yn dilyn penderfyniad y Cabinet dechreuodd ymgynghoriad cyhoeddus i ganfod yr opsiwn mwyaf poblogaidd ddydd Llun, 5 Rhagfyr a bydd yn dod i ben ddydd Llun, 9 Ionawr (2023).
Mae croeso i bawb gymryd rhan a dweud eu dweud. Byddwn ni'n anfon llythyr, holiadur a rhestr o gwestiynau cyffredin at bawb sy'n defnyddio'r gwasanaeth er mwyn hwyluso'r broses o gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Bydd aelodau o staff ar gael i gynorthwyo'r rheiny sydd angen help i lenwi atebion. Byddwn ni hefyd yn anfon llythyr a chopi o'r holiadur i bobl sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth yn y gorffennol.
Mae modd i aelodau'r cyhoedd gymryd rhan trwy gyrchu'r wybodaeth ar wefan y Cyngor a llenwi fersiwn ar-lein o'r arolwg. Mae modd dod o hyd i'r holl wybodaeth berthnasol trwy ddilyn y ddolen yma: www.rctcbc.gov.uk/ymgynghori.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Mae'r Cabinet wedi ystyried pedwar opsiwn ar gyfer dyfodol y Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned ac wedi penderfynu cynnal ymgynghoriad ar yr opsiwn gorau i barhau â'r gwasanaeth mewn modd cynaliadwy. Byddai'r opsiwn rydyn ni'n ei ffafrio ar hyn o bryd yn cynnal y gwasanaeth gwerthfawr yma, yn parhau â chyswllt cymdeithasol hollbwysig i ddefnyddwyr ac yn arwain at arbedion gwerth £427,000 y flwyddyn.
"Cynigiwyd yr opsiynau yma mewn ymateb i'r heriau gwariant cyhoeddus cyfredol a fydd yn effeithio ar gyllid y flwyddyn nesaf yn sgil y galw uwch am wasanaeth a'r costau cynyddol ar gyfer bwyd a thrydan. Mae'r Cabinet wedi nodi bod yr opsiwn a ffefrir yn ddewis da er mwyn cynnal y Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf - gwasanaeth sydd ddim ar gael gan bob awdurdod lleol. Rydyn ni'n effro i bwysigrwydd y gwasanaeth yma sy'n fuddiol i nifer o drigolion, yn bennaf rhai sydd dros 70 oed.
"Mae'r Cyngor eisoes wedi dechrau ymgynghoriad cyhoeddus a fydd ar agor am bedair wythnos, hyd at 9 Ionawr. Dyma gyfle i ddefnyddwyr sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth a'r rheiny sy'n ei ddefnyddio nawr, a'r cyhoedd gael dweud eu dweud ynghylch y cynnig. Byddwn ni'n ysgrifennu at bawb sy'n defnyddio'r gwasanaeth a bydd staff ar gael i roi cymorth i lenwi'r arolwg pan fo angen.
"Byddwn ni hefyd yn cysylltu â chynhalwyr, darparwyr a rhanddeiliaid eraill. Bydd y Cabinet yn ystyried yr adborth wrth ddod i benderfyniad terfynol yn y flwyddyn newydd."
Mae'r Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned yn darparu prydau am bris gostyngol i oedolion yn eu cartrefi. Mae 86% o ddefnyddwyr y gwasanaeth dros 70 oed. Mae'r galw am brydau yn y cartref wedi gostwng ers y pandemig oherwydd sawl ffactor, gan gynnwys rhagor o ddewis o ddarparwyr trydydd sector a gwasanaethau dosbarthu bwyd, cludiant am ddim i archfarchnadoedd. Mae nifer y cyflenwadau wedi gostwng o 145,694 yn 2020/21 i gyfanswm rhagamcanol o 120,047 eleni.
Wedi ei bostio ar 05/12/2022