Skip to main content

Diweddaru'r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd – Dweud eich Dweud

Local Flood Risk Management consultation - Copy

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar ddiweddaru'r Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd bellach ar waith. Dyma gyfle i drigolion i leisio'u barn a dylanwadu ar sut y bydd perygl llifogydd yn cael ei reoli dros y chwe blynedd nesaf.

Mae’r ymgynghoriad yn mynd rhagddo yn dilyn penderfyniad y Cabinet ym mis Tachwedd 2022 i ddechrau adolygiad o’r strategaeth, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2013. Bydd y broses adolygu'n galluogi’r Cyngor i ddiweddaru’r strategaeth a'i halinio â’r amcanion, mesurau a pholisïau'r Strategaeth Genedlaethol, yn unol ag Adran 10 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.

Ag yntau'n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol (LLFA), mae gyda’r Cyngor ddyletswydd i lunio, cynnal, cymhwyso a monitro strategaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol. Mae'r broses barhaus bwysig yma'n ymdrin â’r risg bosibl o ffynonellau lleol – gan gynnwys cyrsiau dŵr cyffredin, dŵr ffo a dŵr daear.

Mae'n manylu ar yr amcanion a'r mesurau mae'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol yn bwriadu eu rhoi ar waith i reoli'r perygl llifogydd. Mae'n anelu at fabwysiadu dull cyfannol o reoli perygl llifogydd.

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus, a fydd yn para am gyfnod o chwe wythnos, bellach wedi dechrau, a bydd yn dod i ben 24 Ionawr (2023). Bydd y broses yn croesawu sylwadau gan bartneriaid risg y Cyngor ac aelodau o staff, yn ogystal ag aelodau'r cyhoedd a'n Hawdurdodau Lleol cyfagos.

Cliciwch yma i ddweud eich dweud ar wefan y Cyngor ac i ddysgu rhagor am y diweddariad i'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol. Bydd yr holl adborth yn helpu i lywio strategaeth ddrafft, a bydd cyfle pellach i drigolion ddweud eu dweud ar ddiwygiadau arfaethedig i'r strategaeth bresennol mewn ymgynghoriad yn y dyfodol.

Wedi ei bostio ar 13/12/2022