Mae oriau agor Nadolig Hamdden am Oes wedi'u cadarnhau - lawrlwythwch nhw yma!
Cofiwch am yr app Hamdden am Oes ar ei newydd wedd. Mae modd ei lawrlwytho’n rhad ac am ddim, ac mae'n sicrhau bod yr holl wybodaeth ddiweddaraf am ein gweithgarwch hamdden ar flaen eich bysedd. Gallwch wirio amserlenni dosbarthiadau, amseroedd nofio a sesiynau campfa ym mhob un o'n canolfannau. Manteisiwch ar ein cynigion o ran aelodaeth a mynnwch olwg ar y newyddion diweddaraf a diweddariadau.
Mae aelodaeth Hamdden am Oes yn anrheg Nadolig gwych! Gallwch gofrestru am docyn misol neu aelodaeth flynyddol – ac mae cyfraddau gostyngol ar gyfer rhai dan 16 oed, dros 60 oed a’r rheiny sydd ar fudd-daliadau cymwys.
Os ydych chi'n awyddus i ymuno â Hamdden am Oes yn barod ar gyfer y Flwyddyn Newydd, cofiwch fwrw golwg ar ein rhestr o bartneriaid Corfforaethol yma.
Os ydych chi'n gweithio i un ohonyn nhw, neu'n aelod o un ohonyn nhw, rydych chi'n gymwys i gael cyfraddau gostyngol gyda'r cynllun Hamdden am Oes Corfforaethol.
Nadolig Llawen – welwn ni chi yn 2023!!
Wedi ei bostio ar 20/12/2022