Mae gwaith wedi cael ei gwblhau i wella'r goleuadau traffig a'r llwybr troed ar Ffordd Llantrisant yn Llanilltud Faerdref (ger Rhodfa'r Bryn), a hynny'n rhan o gynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru.
Mae'r contractwr, Centregreat Ltd, wedi cwblhau'r gwaith terfynol i osod wyneb newydd ar y ffordd yn ddiweddar, yn ogystal â chreu croesfan pâl yn y lleoliad yma. Dyma system groesi fwy effeithlon na'r groesfan flaenorol. Mae ardal y groesfan hefyd wedi cael ei hehangu gan ei gwneud hi'n bedwar metr o led. Mae hyn yn creu amgylchedd mwy diogel i gerddwyr, yn enwedig yn ystod cyfnodau prysur yn y bore a'r prynhawn.
Mae'r gwaith ar y groesfan yn rhan o gynllun ehangach Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Maes-y-bryn, sy'n elwa ar gyfraniad o £454,800 gan Lywodraeth Cymru yn 2022/23. Bwriad y cynllun yw gwella cyfleusterau i gerddwyr er mwyn annog rhagor o deithiau llesol i'r ysgol ac yn ôl, yn ogystal â chyfleusterau lleol eraill yn yr ardal.
Does dim mesurau rheoli traffig wrth gyffordd Ffordd Llantrisant, ger Rhodfa'r Bryn, mwyach, gan fod y gwaith gwella'r goleuadau traffig wedi'i gwblhau'n ddiweddar.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Rydw i'n falch bod y gwaith gwella'r groesfan ar Ffordd Llantrisant yn Llanilltud Faerdref bellach wedi'i gwblhau, er mwyn cyflwyno system goleuadau traffig fwy effeithlon a chreu amgylchedd mwy diogel i gerddwyr sy'n defnyddio'r man croesi prysur yma.
“Mae'r Cyngor yn parhau i groesawu cyllid pwysig Llwybrau Mwy Diogel yn y Gymuned gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi ein helpu ni i gynnal gwaith gwella tebyg yn Llwynypia, Abercynon, Llantrisant a Chilfynydd yn ystod blynyddoedd diweddar, ac yn ardal Tonpentre eleni. Roedd modd i drigolion gael rhagor o wybodaeth am y gwaith gwella ar gyfer Llanilltud Faerdref yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei gynnal ym mis Hydref a Thachwedd. Mae cam cyntaf y gwaith wedi dechrau ers hynny.
“Bydd elfennau eraill y cynllun yma yn y dyfodol yn cynnwys croesfan sebra ger cyffordd Bryn y Goron â Llys Ochr y Bryn, mesurau gostegu traffig arfaethedig newydd ar hyd Bryn y Goron, a gwaith gwella cyffyrdd yn ystad Maes-y-bryn. Mae gwaith gwella goleuadau a gosod wyneb newydd wedi'i gwblhau'n ddiweddar ar y llwybr rhwng Rhodfa Caerhirfryn a Ffordd Llantrisant. Dyma lwybr y mae pobl leol yn ei ddefnyddio i gyrraedd Ysgol Gynradd Maes-y-bryn.
“Bydd y Cyngor yn sicrhau bod trigolion yn cael y newyddion diweddaraf wrth i'r cynllun fynd yn ei flaen. Diolch i'r gymuned am ei chydweithrediad yn ystod y gwaith gwella diweddar ar Ffordd Llantrisant.”
Wedi ei bostio ar 20/12/2022