Skip to main content

Cyhoeddi Swyddogion Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf

Eisteddfod Apps

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld ag ardal Rhondda Cynon Taf am y tro cyntaf ers bron i 70 mlynedd yn 2024, mae trefnwyr y Brifwyl wedi cyhoeddi enwau’r swyddogion a fydd yn llywio’r gwaith dros y flwyddyn a hanner nesaf. 

Mae prosiect Eisteddfod Rhondda Cynon Taf wedi cychwyn ers peth amser gyda chynllun cymunedol yn cael ei redeg ar lefel meicro-leol mewn cymunedau ar draws y dalgylch er mwyn codi ymwybyddiaeth am yr Eisteddfod, ein hiaith a’n diwylliant ymysg cynulleidfaoedd newydd. 

Yn ogystal, mae grŵp llywio wedi cyfarfod dros y misoedd diwethaf er mwyn dechrau ar y gwaith o baratoi ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod â’r ardal. 

Bydd y gwaith o greu’r pwyllgorau testun a’r pwyllgorau lleol yn cychwyn yn y flwyddyn newydd, gan fynd ati i greu’r rhestr testunau ynghyd â grwpiau cymunedol a fydd yn ein helpu i godi ymwybyddiaeth a gosod sail gref i’r gronfa leol.  

Helen Prosser o Donyrefail yw Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith. Yn wreiddiol o ardal Rhondda Cynon Taf, mae Helen yn gweithio i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn dilyn cyfnod pan fu’n arwain y sector dysgu Cymraeg yn yr ardal.  

Meddai Helen, “Mae ymweliad yr Eisteddfod â’n hardal ni’n gyfle i ddangos bod gennym ddiwylliant modern, cyffrous a chynhwysol a bod croeso i bawb, a bydd hon yn neges bwysig gen i dros y cyfnod nesaf. 

“Bydd y flwyddyn a hanner nesaf yn her ond hoffwn weld pobl sydd wedi cael addysg Gymraeg yn yr ardal yn gweld yr Eisteddfod fel cyfle i ddod yn ôl at ein hiaith.” 

Andrew White o Lanharan sydd wedi’i ethol yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Gwaith. Dechreuodd Andrew ddysgu’r Gymraeg ar ôl ymweld ag Eisteddfod Casnewydd pan oedd yn 17 oed, ac mae wedi sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn y teulu erbyn hyn.  

Andrew yw Cyfarwyddwr Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, a chyn ymuno â’r sefydliad, bu’n Gyfarwyddwr Stonewall Cymru am flynyddoedd. Mae’n frwd iawn i gyfrannu at Eisteddfod sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth bendigedig o gymunedau ar draws y fro. 

O Efail Isaf y daw Cadeirydd y Gronfa Leol, Iolo Roberts, sy’n gweithio fel newyddiadurwr gyda’r BBC yng Nghaerdydd. Mae’r Eisteddfod wedi bod yn rhan fawr iawn o’i fywyd erioed, gan ei fod wedi mynychu a chystadlu’n flynyddol ers pan oedd yn blentyn.  

Dywed fod ymweliad yr Eisteddfod yn gyfle gwych i ddod â’r ardal at ei gilydd ac i gymryd camau mawr yn yr ymdrech i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn ôl Iolo, mae’r flwyddyn a hanner nesaf yn gyfle i adeiladu ar y brwdfrydedd a’r cariad at ein hiaith sy’n bodoli ym mhob cwr o’r tri chwm. 

Wrth groesawu’r tri, dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses, “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at gydweithio gyda Helen, Iolo ac Andrew dros y cyfnod nesaf wrth i ni baratoi ar gyfer Eisteddfod Rhondda Cynon Taf.  

“Byddwn yn dechrau hyrwyddo cyfleoedd i ymuno â’n pwyllgorau a grwpiau lleol yn fuan iawn yn y flwyddyn newydd, er mwyn cychwyn ar y gwaith pwysig o drefnu’r Brifwyl yn yr ardal.

 “Mae ardal Rhondda Cynon Taf yn rhan bwysig o hanes yr Eisteddfod.  Cynhaliwyd yr Eisteddfod fodern gyntaf yn Aberdâr yn 1861, ac er nad ydyn ni wedi cynnal ein gŵyl yn lleol ers 1956, rydyn ni wedi ymweld â Rhondda, Cynon a Thaf yn eu tro. 

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i’r ardal ac at gydweithio gyda Helen, Iolo, Andrew a’r tîm a fydd yn dod ynghyd ddechrau’r flwyddyn i sicrhau bod Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024 yn ŵyl i’w chofio yn genedlaethol yn ogystal â lleol.” 

Mae un rôl yn y tîm yn dal i fod ar gael, sef ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith.  Mae enwebiadau ar gyfer y rôl hon yn cau ar 9 Ionawr 2023, a cheir rhagor o wybodaeth yma

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym mis Awst 2024

 

Wedi ei bostio ar 14/12/22