DIOLCH enfawr i bawb sydd wedi cefnogi Apêl Siôn Corn 2022 RhCT!
Er gwaetha'r cyfnod anodd yma'n ariannol, mae dros 4,000 o anrhegion wedi cael eu haddo a'u rhoi i blant a phobl ifainc yn Rhondda Cynon Taf na fyddai efallai’n derbyn anrheg ar Ddydd Nadolig fel arall.
Gyda'ch gilydd rydych chi wedi helpu i wneud gwahaniaeth enfawr i gynifer o bobl ifainc dros gyfnod y Nadolig yma - diolch yn fawr iawn ichi am eich haelioni ac am feddwl am eraill dros y cyfnod yma.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Diolch yn fawr i bob un ohonoch sydd wedi cefnogi ein hapêl Siôn Corn eleni. O ganlyniad i’ch haelioni a chefnogaeth fendigedig dros y cyfnod yma, bydd llawer o blant a phobl ifainc yn Rhondda Cynon Taf yn agor anrheg arbennig ar Ddydd Nadolig.
"Bellach yn cael ei chynnal ers degawd, mae ein hapêl Siôn Corn yn draddodiad Nadolig ac rwyf wrth fy modd unwaith eto ei bod yn llwyddiant enfawr - ac mae hyn i gyd o ganlyniad i haelioni cynifer o bobl, busnesau, sefydliadau ac elusennau.
"Unwaith eto, mae haelioni ein cymuned leol wedi bod yn aruthrol. Diolch i chi am helpu i wneud gwahaniaeth enfawr i gynifer o fywydau ifainc y Nadolig yma.”
Bellach yn cael ei chynnal ers degawd, mae apêl Siôn Corn y Cyngor wedi bod yn llwyddiant enfawr unwaith eto, gyda'n pobl, busnesau, elusennau a sefydliadau'n rhoi miloedd o anrhegion i blant a phobl ifainc yn Rhondda Cynon Taf.
Diolch arbennig i staff hyfryd Gwasanaeth Gwaed Cymru, TT Electronics Abercynon, Y Bathdy Brenhinol, Tesco, Coleg Y Cymoedd, Flexicare, Prifysgol De Cymru, Network Recruit, Gallagher Insurance, Asda, Complete Core Business Solutions a llawer yn rhagor am eich haelioni ysgubol.
Diolch hefyd i'r teuluoedd ac unigolion sydd wedi rhoi anrhegion; maen nhw oll i gyd wedi ein helpu i sicrhau nad oes plentyn neu berson ifanc sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf yn cael ei anghofio yr adeg arbennig yma o'r flwyddyn.
Bydd pob plentyn a pherson ifanc sydd wedi'i nodi gan weithwyr cymdeithasol Cyngor Rhondda Cynon Taf yn deffro i o leiaf un anrheg ar Ddydd Nadolig. Mae pob anrheg wedi'i dewis yn benodol ar gyfer oedrannau a rhywiau penodol, gan gynnwys talebau anrheg ar gyfer y plant hŷn ar restr Siôn Corn!
Mae helpwyr Siôn Corn yn y Cyngor bellach yn brysur yn sicrhau bod yr holl anrhegion yn barod i Siôn Corn eu casglu a'u danfon i gartrefi ar draws ein Bwrdeistref Sirol.
Wedi ei bostio ar 09/12/2022