Mae'r llyfr ryseitiau 'The Vintage Kitchen' wedi'i lansio mewn pryd ar gyfer y Nadolig. Mae'n llawn ryseitiau traddodiadol i'r teulu a syniadau am fwyd, straeon a 'chyfnewidiadau cynaliadwy.'
Gyda chefnogaeth gan y Cyngor a’r Bartneriaeth Fwyd Leol, mae Fforwm Pobl Hŷn 50+ Llantrisant a'r Cylch wedi bod yn gweithio'n agos gyda disgyblion Ysgol Gymuned Tonyrefail.
Cafodd llyfr ryseitiau 'The Vintage Kitchen' ei greu gyda ryseitiau teuluol ac mae aelodau'r fforwm wedi rhannu straeon sy'n cyd-fynd â'r ryseitiau hyn. Aeth y disgyblion yn Ysgol Gymuned Tonyrefail â’r syniad yma yn ei flaen gan feddwl am gyfnewid rhai o'r cynhwysion gydag opsiynau cynaliadwy, a dylunio’r gwaith celf ar gyfer y llyfr ryseitiau.
Mae'r prosiect yma'n ategu'r gwaith parhaus i ddatblygu 'Rhondda Cynon Taf sy’n Oed Gyfeillgar', lle mae pobl hŷn yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi a'u cynnwys yn eu cymuned, yn ogystal â'r gwaith i ddatblygu RhCT fel Lle Bwyd Cynaliadwy.
Mae llyfr ryseitiau 'The Vintage Kitchen' ar gael AM DDIM ac mae’n helpu i hybu newidiadau hawdd bach i’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta fel bod modd i ni greu RhCT sy’n fwy cynaliadwy gyda’n gilydd.
Lawrlwythwch y llyfr ryseitiau 'The Vintage Kitchen'
Daeth y prosiect i ben gydag achlysur dathlu yn Ysgol Gymuned Tonyrefail lle cafodd y llyfr ei lansio'n swyddogol gan Aelodau Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Bob Harris a’r Cynghorydd Gareth Caple.
Roedd aelodau Fforwm Pobl Hŷn 50+ Llantrisant a’r Cylch, a oedd wedi rhannu eu ryseitiau a’u straeon, hefyd yn bresennol i flasu ryseitiau o’r llyfr a gafodd eu paratoi a’u gweini gan ddisgyblion yr ysgol.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Roeddwn wrth fy modd yn mynychu achlysur lansio llyfr ryseitiau 'The Vintage Kitchen' yng nghwmni’r Fforwm Pobl Hŷn 50+ a disgyblion Ysgol Gymuned Tonyrefail.
“Mae’n gyhoeddiad gwych y gall pob cyfrannwr deimlo’n hynod falch ohono. Mae’n llawn straeon gan oedolion hŷn, sydd hefyd yn rhannu eu hoff ryseitiau teuluol o’r blynyddoedd a fu gyda darllenwyr.”
Mae cynaliadwyedd yn ymwneud â diwallu anghenion y genhedlaeth bresennol heb beryglu anghenion cenedlaethau’r dyfodol, wrth sicrhau cydbwysedd rhwng twf economaidd, gofal amgylcheddol a llesiant cymdeithasol.
Mae awgrymiadau i helpu pobl i fwyta bwyd sy'n fwy cynaliadwy ar gael yn llyfr ryseitiau 'The Vintage Kitchen'. Mae yna lawer o ryseitiau a straeon yn y llyfr, gan gynnwys Pice ar y Maen Mam, Pwdin Bara Menyn, Pasteiod Bwyd Dros Ben Cinio Dydd Sul, a llawer yn rhagor.
Mae’r Fforwm 50+ ac Ysgol Gymuned Tonyrefail wedi cydweithio ar y cyhoeddiad, ac mae eisoes wedi profi’n gyhoeddiad poblogaidd iawn. Mae’r disgyblion wedi’i greu a’i ddylunio eu hunain, yn ogystal â datblygu cyfnewidiadau cynaliadwy ar gyfer pob rysáit.
Cafodd llyfr ryseitiau 'The Vintage Kitchen' ei lansio yn Ysgol Gymuned Tonyrefail, a chafodd gwesteion gyfle i flasu rhai o ryseitiau blasus y llyfr.
Daeth y syniad ar gyfer y llyfr allan o ymgyrch ehangach o'r enw 'Food For The Planet', gyda chyllid gan grant Lleoedd Bwyd Cynaliadwy. Mae'r ymgyrch yn tynnu sylw at y ffaith bod ein system bwyd yn cyfrannu tua 30 y cant at allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang - sy'n fwy na thrafnidiaeth neu ynni. Yn ogystal â hyn, mae traean o'r bwyd rydyn ni'n ei gynhyrchu yn mynd yn wastraff.
Mae gwella’r system bwyd, ffermio a physgota yn un o’r ffyrdd hanfodol ar raddfa fawr o helpu i atal newid yn yr hinsawdd ac adfer byd natur.
Mae modd i'r newidiadau bach a wnawn yn y gegin wneud gwahaniaeth a chael effaith ar ein planed.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r Newid yn yr Hinsawdd ac i wneud gwahaniaeth. Rydyn ni hefyd yn annog ein trigolion a'n busnesau i gyd i fod yn 'Hinsawdd Ystyriol yn RhCT.'
Wrth i ni weld rhagor o effeithiau'r Newid yn yr Hinsawdd, mae angen i ni i gyd roi newidiadau ar waith er mwyn helpu i sicrhau bod byd i genhedlaeth y dyfodol ei fwynhau.
Mynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd yn RhCT
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i chwarae ei ran i fynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd a helpu i wneud gwahaniaeth. Rydyn ni hefyd yn annog ein holl drigolion a busnesau i fod yn 'Hinsawdd Ystyriol yn RhCT' a gweithio gyda'n gilydd a gwneud newidiadau yn y ffordd rydyn ni i gyd yn byw ein bywydau nawr fel bod modd i ni helpu i amddiffyn y blaned er mwyn i genedlaethau'r dyfodol ei mwynhau.
Wedi ei bostio ar 20/12/22