Skip to main content

Rhybudd Tywydd Melyn ar gyfer RhCT

yellow warning

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd MELYN ar gyfer dydd Sadwrn, Rhagfyr 31. Mae disgwyl i gawodydd trwm a tharanllyd effeithio ar Rhondda Cynon Taf. 

Gall hyn arwain at darfu ar draffig a theithio ledled y Fwrdeistref Sirol, yn ogystal â risg llifogydd mewn rhai ardaloedd. Mae'n bosibl y bydd y tywydd yn effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus hefyd. 

Rydyn ni'n cynghori gyrwyr i yrru yn unol â'r amodau ac i ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eu taith. 

Mae adrannau Priffyrdd a Gofal y Strydoedd y Cyngor eisoes wedi bod yn rhagweithiol, gan barhau i glirio dail o ddraeniau a chwteri. Mae staff hefyd yn monitro lefelau dŵr cwlfertau'n barhaus. 

Dyma gynghori'r cyhoedd i fod yn effro ac yn arbennig o ofalus trwy gydol cyfnod y rhybudd. Rydyn ni hefyd yn gofyn i drigolion a busnesau helpu i leddfu'r risg o lifogydd mewn ardaloedd lleol os yw hynny'n bosibl ac yn ddiogel. 

Mae modd i gamau bach fel casglu dail a chlirio sbwriel o ddraeniau ac eiddo preifat fod o gymorth mawr o ran atal llifogydd. Yn aml, dail a sbwriel yw'r prif resymau am lifogydd gan eu bod yn rhwystro dŵr rhag mynd i lawr draeniau a chwteri. 

Os bydd unrhyw broblemau'n codi y tu allan i oriau gwaith, ffoniwch Wasanaeth Brys y Cyngor y Tu Hwnt i Oriau ar 01443 425011. Hefyd, dilynwch gyfrifon cyfryngau cymdeithasol swyddogol Twitter a Facebook y Cyngor i gael y newyddion diweddaraf yn rheolaidd.

 

Wedi ei bostio ar 30/12/22