Skip to main content

Wi-Fi mynediad cyhoeddus bellach ar gael ym mhob un o'n saith canol tref

Cabinet Members Maureen Webber and Mark Norris using the Wi-Fi in Pontypridd

Aelodau o'r Cabinet Maureen Webber a Mark Norris

Mae'r Cyngor bellach wedi cyflawni ei ymrwymiad i ddarparu Wi-Fi mynediad cyhoeddus AM DDIM ar draws pob un o'i saith canol tref. Pontypridd yw'r dref ddiweddaraf, a'r olaf o'r saith ledled Rhondda Cynon Taf, i gael Wi-Fi mynediad cyhoeddus.

Bellach mae modd i siopwyr, busnesau ac ymwelwyr ardaloedd manwerthu yn Aberdâr, Aberpennar, Glynrhedynog, y Porth, Treorci, Tonypandy a Phontypridd gael mynediad i’r ddarpariaeth am ddim. Roedd cyflwyno'r Wi-Fi yma'n flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor wedi cyflwyno’r Wi-Fi yn gynllun peilot yn Aberdâr yn 2019.

Mae darparu Wi-Fi am ddim yn cyfrannu at gynorthwyo rhagor o gynhwysiant digidol. Mae’n rhan o’r gefnogaeth ehangach i ganol trefi a busnesau sydd wedi cael cymaint o effaith ar fasnachwyr trwy gydol y pandemig. Mae hefyd yn rhan o’r fframweithiau adfywio allweddol sydd ar waith ar draws nifer o’n trefi.

Edrychwch am 'RCTFreeTownCentreWiFi' ar y rhestr o rwydweithiau sydd ar gael ym mhob tref. Does dim angen cyfrinair i gael mynediad, ac mae'r Wi-Fi ar gael rhwng 7am a 7pm bob dydd. Bydd y Cyngor yn monitro ac yn adolygu’r system er mwyn sicrhau ei bod yn parhau i ddiwallu anghenion ein cymunedau.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol a Digidol: “Mae darpariaeth ddiweddaraf y Wi-Fi mynediad cyhoeddus am ddim bellach wedi’i gosod ym Mhontypridd, ac rwy’n falch iawn bod pob un o’n saith canol tref ni yn Rhondda Cynon Taf bellach yn elwa o’r gwasanaeth yma, wrth i’r Cyngor gyflawni ymrwymiad allweddol.

“Mae gan y ddarpariaeth nifer o fanteision – o annog ymwelwyr i ganol ein trefi, i wella mynediad trigolion at wasanaethau cyhoeddus sydd ar gael yn gynyddol ar-lein. Ar gyfer busnesau lleol, bydd y ddarpariaeth yn cefnogi rhagor o fasnachwyr i weithredu’n ddigidol, ac annog pobl i Siopa’n Lleol. Bydd hefyd yn helpu i gynyddu presenoldeb ar-lein masnachwyr er mwyn cyrraedd rhagor o bobl.

“Mae’r Wi-Fi newydd ym Mhontypridd, yn debyg i drefi eraill, ar gael am gyfnod o 12 awr rhwng 7am a 7pm ac mae ganddo achrediad ‘Wi-Fi Cyfeillgar’, sy’n sicrhau bod mesurau ar waith i ddarparu mynediad at gynnwys addas yn unig.

“Mae’r ddarpariaeth yma ar gael yn rhan o Strategaeth Ddigidol y Cyngor. Rwy’n hyderus y bydd y ddarpariaeth yn helpu busnesau i weithredu mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar yr ochr ddigidol ac yn ddefnyddiol iawn iddyn nhw o ddydd i ddydd, ac yn fuddsoddiad gwerth chweil.”

Wedi ei bostio ar 10/02/22