Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gofyn i'w holl drigolion fod yn 'Hinsawdd Ystyriol yn RhCT' a bod yn garedig â natur.
Wrth i ni weld rhagor o effeithiau Newid yn yr Hinsawdd, mae angen i ni i gyd roi newidiadau ar waith er mwyn helpu i sicrhau bod byd i genhedlaeth y dyfodol ei fwynhau.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i fod yn Sero Net erbyn 2030 ac wedi addo helpu ei holl drigolion i wella’u heffaith ar y blaned hefyd. Gyda'n gilydd mae modd inni wneud gwahaniaeth MAWR.
Mae'r Cyngor wedi cynhyrchu ôl troed carbon NET ar gyfer 2019/20 ac mae bellach wedi cynhyrchu ôl troed blwyddyn bandemig ar gyfer 2020/21 ac mae'r ffigur wedi gostwng 29%.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw i leihau ôl troed carbon, ac yn defnyddio'r data wrth ddatblygu'r cynlluniau presennol i gyflawni ei Nodau Hinsawdd erbyn 2030.
Ein Nodau Hinsawdd erbyn 2030;
- Bydd Rhondda Cynon Taf yn Gyngor Carbon Niwtral
- Bydd y Fwrdeistref Sirol gyfan mor agos â phosibl at fod yn Garbon Niwtral.
Dros y degawd diwethaf mae'r Cyngor wedi gwneud cynnydd da yn ei ymdrechion i leihau allyriadau carbon, gan gynnwys;
- Gosod dros 100 o baneli solar
- Gosod systemau micro gwres a phŵer cyfunol ynni-effeithlon sy'n cynhyrchu gwres a thrydan ar yr un pryd o'r un ffynhonnell ynni
- Gosod boeleri effeithlonrwydd uchel
- Uwchraddio gwresogi, awyru a chyflyru aer, gan gynnwys pyllau nofio
- Newid i oleuadau LED ynni isel mewn adeiladau a goleuadau stryd
Mae'r gwahaniaethau allweddol sydd wedi'u nodi rhwng 19/20 a 20/21 wedi amlygu'r camau y mae angen i'r Cyngor eu hystyried nawr ar gyfer lleihau allyriadau wrth geisio cyrraedd Sero Net.
- Adolygiad o ôl troed carbon nwyddau a gwasanaethau sydd wedi'u prynu
- Lleihau'r Nwy a Thrydan sy'n cael eu defnyddio yn adeiladau RhCT trwy weithio'n hyblyg/o bell
- Asesiad o allyriadau fflyd a theithio busnes- bydd gwelliannau yn sgil llai o alw am deithio drwy ddefnyddio systemau electronig a thrafnidiaeth carbon isel
- Gwella dal carbon drwy ein hasedau tir- rheoli mawndiroedd, coed a thir yn well
Mae'r Cyngor wrthi'n penderfynu ar y camau nesaf ac yn annog trigolion i feddwl am sut mae modd iddyn nhw wneud gwahaniaeth. Byddai rhoi'r 10 ffordd syml isod ar waith yn gwneud gwahaniaeth mawr;
Dechreuwch arbed dŵr
Mynnwch gawod gyflym iawn! Cwtogwch ychydig funudau oddi ar eich cawodydd - bydd pob munud yn arbed galwyni o ddŵr. Mae clociau cawod gwrth-ddŵr ar gael sy'n eich helpu chi i achub y blaned ac arbed arian. Mae'r clociau yma'n fuddsoddiad gwych.
Trowch y switsh.
Peidiwch â byw yn segur! Diffoddwch offer electronig pan nad ydych chi'n eu defnyddio, yn enwedig cyfrifiaduron personol a chonsolau gemau, sy'n defnyddio llawer o ynni. Mae'n hawdd iawn i anghofio diffodd dyfeisiau ond mae'r weithred fach honno yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Cofiwch ailgylchu.
Arbed! Ailddefnyddio! Ailgylchu! Mae gwasanaeth ailgylchu ymyl y ffordd AM DDIM yn RhCT felly does dim esgus i beidio ag ailgylchu. Trwy ailgylchu un eitem ychwanegol yn unig, bydd modd inni ailgylchu dros 240,000 o eitemau ychwanegol bob wythnos yn RhCT!
Mae'n well osgoi gwastraff yn y lle cyntaf lle bo modd, felly meddyliwch yn fwy gofalus cyn prynu. Mae ailddefnyddio eitemau yn arbed yr adnoddau naturiol a'r ynni sydd eu hangen i gynhyrchu rhai newydd ac yn arbed arian.
Cerdded
Mwynhewch yr awyr agored a gadael y car gartref! Mae ymchwil yn awgrymu bod treulio amser ym myd natur yn gwylio bywyd gwyllt, mynd am dro neu wneud rhywfaint o arddio yn fuddiol i’ch iechyd meddwl a lles chi ac i fyd natur.
Ôl troed Carbon
Ceisiwch leihau eich ôl troed carbon! Llygredd yw un o’r bygythiadau mwyaf difrifol i fywyd gwyllt. Mae allyriadau carbon deuocsid yn achosi i’r cefnforoedd ddod yn fwy asidig ac yn peryglu bywyd morol sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd ac mae aer llygredig yn peri risg difrifol i’n hiechyd corfforol ni.
Trwy droi eich thermostat i lawr gan ychydig a dim ond defnyddio'ch car pan fo'n gwbl angenrheidiol, byddwch chi'n helpu i leihau ffaith nwyon tŷ gwydr ac arafu cynhesu byd-eang.
Cynlluniwch ardd bywyd gwyllt.
Garddio gyda gwenyn, glöynnod byw a gwyfynod yw un o’r pethau mwyaf gwerth chweil ac hawdd mae modd i chi ei wneud yn eich gardd eich hun. Trwy dyfu ychydig o blanhigion o'ch dewis chi a darparu lloches gardd iddyn nhw, mae modd i chi wneud gwahaniaeth enfawr.
Gwirfoddolwch
Oeddech chi'n gwybod nad ydych chi byth yn bell o ganolfan codi sbwriel Cadwch Gymru'n Daclus yn RhCT?
Am ragor o wybodaeth ac i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned chi ewch i www.rctcbc.gov.uk/CodiSbwrielRhCT
Fydd gwneud hyn ddim yn cymryd amser hir a bydd yn gyfle ichi archwilio eich cymuned leol. Trwy’r un weithred fach yma mae modd i chi wneud gwahaniaeth mawr ac mae’n enghraifft wych o weithred anhunanol sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd.
Bydd cael gwared ar sbwriel o'ch parciau a'ch strydoedd lleol yn helpu i gadw gwastraff mas o'r cefnfor ac yn amddiffyn bywydau anifeiliaid morol.
Byddwch yn ystyriol o fywyd gwyllt.
Byddwch yn barchus o'r holl drychfilod, anifeiliaid a phlanhigion gwyllt a welwch o bell a pheidiwch â gadael unrhyw beth ar eich hôl.
Oeddech chi'n gwybod bod RhCT yn gartref i rai pryfed prin, gan gynnwys Bwystfil y Maerdy a Phryf y Beddau?
Bydd nesáu at fywyd gwyllt neu fentro oddi ar lwybrau yn eich rhoi chi mewn perygl ac, o bosib, yn niweidio’r anifeiliaid. Bydd gwneud synau uchel, anghyfarwydd yn rhoi straen ar fywyd gwyllt a hyd yn oed yn achosi iddyn nhw ffoi o'u cartref. Mwynhewch harddwch naturiol yr awyr agored ond cofiwch fod yn garedig â'r amgylchedd.
Cefnogaeth.
Os ydych chi eisiau helpu'r amgylchedd ond ddim yn siŵr sut i wneud hynny, beth am gefnogi elusen sy'n agos at eich calon? Mae modd gwneud hyn trwy roi eitemau nad ydych chi eu hangen mwyach, gwirfoddoli neu roddion ariannol.
Beth bynnag yw eich cynlluniau, bydd y gefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth mawr i ddyfodol hirdymor yr amgylchedd.
Codi llais.
Mae'n bryd bod yn HINSAWDD YSTYRIOL yn RhCT ac mae modd i chi helpu trwy godi ymwybyddiaeth am y problemau y mae newid hinsawdd yn eu hachosi a'r cyfleoedd sy'n codi wrth fynd i'r afael â'r mater! Dewch i ni siarad am Newid Hinsawdd a rhoi'r sylw sydd ei angen i’r amgylchedd trwy gydweithio i wneud gwahaniaeth MAWR yn lleol ac yn fyd-eang!
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol, a Hyrwyddwr Materion Newid yn yr Hinsawdd:
“Mae’n wych ein gweld ni’n symud ymlaen ac yn parhau i wneud gwahaniaeth fel Bwrdeistref Sirol. Mae mod i ni i gyd wneud gwahaniaeth trwy stopio a meddwl am y pethau mae modd i ni i gyd eu gwneud i atal Newid yn yr Hinsawdd, boed hynny'n ddiffodd y tap wrth frwsio eich dannedd, ailgylchu cymaint ag sy'n bosib, neu'n gerdded rhagor. Mae modd i ni ac mae'n rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan. Rydyn ni'n ffodus bod gennym ni fannau agored anhygoel yn RhCT a rhaid inni eu meithrin a gofalu amdanyn nhw.
“Fel Cyngor rydyn ni'n parhau i sefydlu Cynllun Datgarboneiddio Corfforaethol ar gyfer gweithgareddau Rhondda Cynon Taf, a fydd yn cynnwys cynlluniau lleihau ac amserlenni i arwain at Gyngor Carbon Niwtral i Rondda Cynon Taf erbyn 2030.
“Trwy waith swyddogion y Cyngor a phenderfyniadau'r Grŵp Llywio ar Faterion yr Hinsawdd (CCSG), rydyn ni'n gobeithio y bydd modd i ni wneud gwahaniaeth yn lleol, ac yn fyd-eang. Bydd pob newid syml a wnawn ni i gyd yn gwneud gwahaniaeth mawr.”
Am ragor o wybodaeth am Newid Hinsawdd yn RhCT, sut mae'r Cyngor yn mynd i'r afael â'r mater a beth mae modd i drigolion ei wneud i chwarae eu rhan ewch i https://dewch-i-siarad.rctcbc.gov.uk/.
Wedi ei bostio ar 23/02/2022