Skip to main content

Prentisiaeth Chloe yn Arwain at Yrfa Gwerth Chweil

Chloe Paterson

Mae un o weithiwyr gofal cymdeithasol Cyngor Rhondda Cynon Taf, Chloe Paterson, yn annog eraill i ddilyn yn ei hôl troed ac ystyried gwaith cymdeithasol fel opsiwn gyrfa. Yn ôl Chloe, mae'n cynnig cyfleoedd gwych ac yn rhoi boddhad mawr i'r cynhalwyr a'r rhai maen nhw'n gofalu amdanyn nhw.

Mae Chloe, 23 oed, wedi dechrau gyrfa lwyddiannus mewn gofal cymdeithasol ers cwblhau ei phrentisiaeth ac mae bellach yn arweinydd carfan yng ngwasanaethau oriau dydd y Cyngor. Mae'n annog eraill i gychwyn ar yrfa ym maes gofal cymdeithasol.

Mae'r pandemig byd-eang wedi effeithio ar filoedd o fusnesau dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r diwydiant iechyd a gofal cymdeithasol yn arbennig wedi teimlo'r effeithiau.

Un ateb sy'n amhrisiadwy yn ei ymgais i fynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio parhaus yw Rhaglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru, sy'n rhoi cyfle i unigolion feithrin sgiliau newydd, gweithio tuag at gymwysterau cenedlaethol ac ennill cyflog ar yr un pryd.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion: “Mae'r sector iechyd a gofal cymdeithasol wedi dioddef yn fawr dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac mae ymgyrch recriwtio fawr ar y gweill.

"Mae'n wych gweld yr effaith mae prentisiaeth ym maes gofal cymdeithasol wedi'i chael ar Chloe. Mae hi'n llysgennad gwych ar gyfer sector gofal y Cyngor ac rwy’n annog eraill i ddilyn yn ôl troed Chloe a dechrau ar lwybr gyrfa sydd wir werth chweil.

“Mae prentisiaethau yn ffordd wych o ddysgu rhagor am ddiwydiant o’ch dewis chi. Maen nhw hefyd yn eich helpu chi i fagu hyder a chefnogi rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.”

Mae Chloe Paterson, 23 oed, o Rydfelen, yn gweithio fel gweithiwr cymdeithasol cymorth oriau dydd gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf wedi iddi gwblhau ei diploma Lefel 2 a Lefel 3 mewn Prentisiaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

A hithau'n gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd Parc Lewis ac Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen, roedd Chloe yn gwybod nad addysg bellach oedd y llwybr cywir iddi. Ond yn hytrach na theimlo fel petai hynny'n cyfyngu ei hopsiynau, penderfynodd chwilio am swyddi prentisiaeth a oedd yn cynnig y profiad ymarferol yr oedd ei angen arni.

Roedd gan Chloe ddiddordeb mewn gyrfa ym maes gofal cymdeithasol am resymau personol, ond ni sylweddolodd pa mor fuddiol byddai'r swydd iddi nes iddi ddechrau ar ei phrentisiaeth.

Meddai Chloe Paterson: “Fe wnes i ymchwilio i rolau prentisiaeth ar ôl gadael yr ysgol ac roedd y prentisiaethau yma i'w gweld yn bosibilrwydd i mi ac yn ddiddorol oherwydd eu bod yn caniatáu i mi hyfforddi ac ennill cyflog ar yr un pryd.

“Fe wnes i fwynhau dysgu wrth weithio. Roedd gallu gofyn cwestiynau i aelodau profiadol o staff yn hynod o ddefnyddiol pan roedd gen i asesiadau a thraethodau, yn hytrach nag astudio’n annibynnol bob amser. Fe helpodd i adeiladu fy hyder gan nad oedd arna i ofn gofyn cwestiynau na gofyn am help a chyngor.

“Cefais fy ysbrydoli i ystyried gyrfa mewn gofal cymdeithasol wedi fy mhrofiad personol o geisio meithrin perthynas a chyfathrebu gyda fy mrawd ag awtistiaeth. Penderfynais ddilyn cwrs yng Ngholeg y Cymoedd yn Nantgarw i ddysgu rhagor am anableddau a sylweddolais yn fuan fy mod i'n awyddus i ddilyn gyrfa a oedd yn helpu unigolion a theuluoedd i feithrin eu perthynas ag eraill..

“Mae fy mhrentisiaeth wedi fy helpu i benderfynu beth roeddwn i eisiau ei wneud yn fy ngyrfa. Roedd o fudd mawr i mi’n bersonol a dysgais sut i gymdeithasu a rhyngweithio o amgylch pobl anabl – rhywbeth y mae llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd ei wneud ac yn rhywbeth y dylen nhw geisio ei wella.

“Mae gyrfa mewn gofal cymdeithasol yn werth chweil wrth wylio unigolion yn cyflawni pethau nad oedden nhw’n meddwl y byddai modd iddyn nhw eu gwneud. Mae eu gwylio nhw’n gadael gyda gwên ar eu hwynebau yn dangos gwerth yr holl waith caled ac yn rhoi sicrwydd i chi eich bod chi mewn swydd foddhaol.

“Heb os, fe wnaeth fy mhrentisiaeth fy ysgogi i wella o ddydd i ddydd ac rwy’n meddwl bod fy nghyflawniadau yn dangos hynny. Dros y pum mlynedd diwethaf, rydw i wedi mynd o fod yn ddisgybl a chwblhau dau ddiploma, i fod yn aelod parhaol o'r garfan a bellach wedi cael dyrchafiad i fy rôl bresennol fel arweinydd carfan.

“Rwy'n argymell prentisiaeth fel llwybr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn gofal cymdeithasol oherwydd y profiad a gewch wrth weithio tuag at gymhwyster.

“Mae angen talent newydd ar y diwydiant gofal cymdeithasol, a phobl sy’n barod i ofalu ac ysgogi eraill. Mae gweithio yn y diwydiant yma'n teimlo fel petaech chi'n rhan o deulu, a byddwch chi bob amser yn mynd adref gan wybod eich bod wedi helpu i wella bywyd unigolyn.”

Meddai'r Cynghorydd Tina Leyshon, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar Faterion Plant: “Mae gyrfa ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn rhoi boddhad i’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant ac i’r unigolion a’u teuluoedd sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

“Rydyn ni'n falch o’r gwaith y mae ein sector iechyd a gofal cymdeithasol yn ei wneud yn ein cymunedau bob dydd ac rydyn ni'n ddiolchgar i Chloe a’i chydweithwyr am bopeth y maen nhw'n ei wneud.”

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli gan stori Chloe, dysgwch ragor am Raglen Brentisiaethau Llywodraeth Cymru

Wedi ei bostio ar 16/02/2022