Skip to main content

Mae'r cynllun peilot cyntaf i wella ffyrdd heb eu mabwysiadu bellach wedi'i gwblhau

Resurfacing works have been completed at Trafalgar Terrace

Mae'r cynllun cyntaf ym mhrosiect peilot y Cyngor i wella a mabwysiadu saith ffordd breifat ar draws Rhondda Cynon Taf bellach wedi'i gwblhau - ar ôl i waith ail-wynebu a gwelliannau draenio gael eu cyflwyno yn Nheras Trafalgar yn Ystrad.

Cytunodd Aelodau’r Cabinet i’r peilot ym mis Medi 2021, i wneud gwelliannau mawr eu hangen ar chwe ffordd breswyl dan berchnogaeth breifat gan ddefnyddio £250,000 o gyllid y Cyngor – ynghyd â £50,000 ychwanegol fel arian wrth gefn ar gyfer y gwaith.

Y chwe lleoliad y cytunwyd arnyn nhw gan y Cabinet yw Rhes y Glowyr yn Llwydcoed, Maes Aberhonddu yn Aberaman, Heol Penrhiw yn Aberpennar, Teras Ochr y Bryn yn Llwynypia, Teras Trafalgar yn Ystrad a Clos y Beirdd yn Rhydfelen. Nododd yr aelodau hefyd fod y Cyngor wedi llwyddo i sicrhau £157,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer seithfed cynllun, yn Belle Vue yn Nhrecynon.

Mae pob un o'r saith lleoliad yn ffyrdd preifat sydd mewn cyflwr anfoddhaol.

Mae'r gwelliannau gofynnol yn amrywio o waith palmant i waith carthffosiaeth, gwelliannau sianelu a goleuadau stryd. Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd pob ffordd yn cael ei mabwysiadu gan y Cyngor ar gyfer cynnal a chadw yn y dyfodol.

Dechreuodd y cynllun cyntaf ar y safle yr wythnos ddiwethaf yn Nheras Trafalgar, Ystrad, ac mae'r holl waith draenio ac ail-wynebu bellach wedi'i gyflawni.

Roedd y ffordd yn briffordd heb ei mabwysiadu yn hanesyddol, er ei bod yn darparu mynediad i Orsaf Reilffordd Ystrad Rhondda ac yn agos at gartref gofal. Mae'r gwaith wedi gwella cyflwr y ffordd yn sylweddol, er lles y gymuned.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Rwy’n falch bod y cynllun cyntaf yn rhan o'n prosiect peilot ar gyfer ffyrdd heb eu mabwysiadu bellach wedi’i gwblhau – ac mae’r gwelliannau sydd wedi’u cyflawni yn Trafalgar Terrace yn Ystrad yn amlwg. Mae mater cynnal a chadw ffyrdd preifat yn broblem gyffredin, ac yn aml yn rhwystredig i drigolion, a dyna pam rydyn ni wedi cyflwyno cyllid i ariannu sawl prosiect peilot.

“Mae’r chwe lleoliad yng nghynllun peilot y Cyngor, ynghyd â’r seithfed sydd wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, wedi’u dewis oherwydd natur amrywiol y gwaith sydd ei angen ar draws y cynlluniau. Bydd hyn yn helpu i lywio'r materion y byddem ni'n eu hwynebu pe bai buddsoddiad pellach yn cael ei ddwyn ymlaen i fynd i'r afael â ffyrdd heb eu mabwysiadu. Byddwn ni hefyd mewn sefyllfa well i gyfrannu at waith parhaus Llywodraeth Cymru yn y maes yma.

“Bydd y cynllun gorffenedig yn Ystrad yn golygu y bydd y ffordd yn cael ei mabwysiadu gan y Cyngor, fel bod modd i'r Cyngor asesu ei angen am waith cynnal a chadw yn y dyfodol a’i gyflawni drwy Raglen Gyfalaf y Priffyrdd. Byddwn ni'n edrych i ddechrau gwaith i gyflawni’r chwe chynllun arall sydd wedi’u cynnwys yn y prosiectau peilot dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, er budd trigolion a chymunedau.”

Wedi ei bostio ar 04/02/2022