Skip to main content

Gwasanaeth bws gwennol am ddim yn ystod gwaith arglawdd Stryd Margaret

Works ongoing at the embankment next to Margaret Street in Pontygwaith

Mae'r Cyngor yn rhoi rhybudd ymlaen llaw am waith sydd i ddod yn Stryd Margaret ym Mhont-y-gwaith, i ymchwilio ymhellach i ran o'r arglawdd sydd wedi'i ddifrodi. Bydd gwasanaeth bws gwennol am ddim wedi'i drefnu dros ddau benwythnos pan fydd y ffordd ar gau.

Mae'r Cyngor eisoes wedi penodi Quantum Geotechnical Ltd yn gontractwr i gynnal ymchwiliadau i'r wal gynnal a'r arglawdd. Cafodd yr arglawdd ei ddifrodi gan Storm Christoph ym mis Ionawr 2021. Bydd yr ymchwiliadau’n llywio dyluniad unrhyw gynllun i sefydlogi’r llethr a thrwsio’r wal. Bydd Stryd Margaret ar gau er mwyn sicrhau diogelwch.

Roedd y gweithgaredddiweddaraf ar y safle yn cynnwys drilio dau dwll turio ar 1 Chwefror. Y cam nesaf fydd adeiladu ramp yn y lôn sydd wedi’i chau er mwyn cael mynediad i’r arglawdd. Y bwriad yw cynnal y gwaith yma o 8am ddydd Sadwrn, 19 Chwefror, hyd at 6pm ddydd Sul, 20 Chwefror.

Bydd rhan o’r ffordd 170 metr o hyd yn cau yn ystod y cyfnod yma, o bwynt ychydig i’r dwyrain o 43 Stryd Margaret i bwynt ychydig i’r gorllewin o Deras Lewis. Mae llwybr amgen ar gael ar hyd Heol Aberllechau, A4233, Cylchfan Stanleytown, Stryd Llewellyn a Stryd Margaret neu'r llwybr yma i'r cyfeiriad arall. Bydd mynediad ar gyfer cerddwyr ond fydd dim mynediad ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys.

Mae map yn nodi'r ffordd sydd ar gau i'w weld yma

Bydd yffordd yma ar gau eto o 8am ddydd Sadwrn, 26 Chwefror, hyd at 6pm ddydd Sul, 27 Chwefror er mwyn cael gwared ar ramp.

Trefniadau bws lleol a bws gwennol

Pan fydd y ffordd ar gau, ni fydd Gwasanaethau Stagecoach 124, 131 a 132 yn gwasanaethu Wattstown na Phont-y-gwaith. Bydd gwasanaeth bws gwennol am ddim gan Xarrow Travel Ltd yn lle'r bws lleol yn ystod y gwaith. Mae modd ffonio Xarrow Travel Ltd ar 07967 636659.

Bydd y bws gwennol yn gweithredu bob 30 munud ar ddydd Sadwrn a phob awr ar ddydd Sul. Bydd y bws gwennol yn teithio ar hyd llwybrparhaus, gan ddechrau yng Nghlwb Rygbi Wattstown ar gyfer teithio i mewn i Wattstown, gan ddefnyddio safle bysiau Calfaria (tua'r de) yn ganolbwynt ar gyfer codi pob teithiwr ac ar gyfer cysylltiadau â gwasanaethau bws ymlaen i'r ddau gyfeiriad.

Yna bydd yn teithio i Bont-y-gwaith ar hyd y ffordd osgoi a Stryd Llewellyn - gan godi a gollwng teithwyr yn y Ganolfan Gymunedol tua’r de a safleoedd Teras y Bragdy (Cosmo Club) - cyn mynd i safle Gwesty’r Jiwbilî yn Tylorstown ar gyfer cysylltiadau tua’r gogledd. Bydd yn dychwelyd ar hyd y ffordd osgoi i glwb rygbi Wattstown ar gyfer cysylltiadau tua'r de.

Ni fydd safleoedd bysiau Stryd Margaret ym Mhont-y-gwaith na Theras Lewis yn Wattstown yn cael eu defnyddio tra bod y ffordd ar gau. Dylai defnyddwyr bysiau ddefnyddio'r safleoedd cyfagos yn Cosmo Club, Stryd y Bragdy neu Galfaria.

Bydd modd teithio ymlaen tua'r de i'r Porth, Pontypridd a Chaerdydd o Glwb Rygbi Wattstown, a bydd modd teithio ymlaen tua'r gogledd i Lynrhedynnog a Maerdy o Westy'r Jiwbilî. Bydd y bws gwennol yn cysylltu â gwasanaethau Stagecoach rhwng 8am a 10.23pm ar ddydd Sadwrn, a rhwng 7.22am a 5.22pm ar ddydd Sul. Sylwch, does dim gwasanaethau yn rhedeg o 8.22am i 10.22am ar y ddau ddydd Sul (20 a 27 Chwefror).

Ni fydd modd i wasanaeth 155 wasanaethu Wattstown tra bydd y ffordd ar gau, ond bydd yn parhau i wasanaethu Pont-y-gwaith ar ei lwybr arferol yn ystod y ddau gyfnod cau ar ddydd Sadwrn (19 a 26 Chwefror). Bydd Gwasanaeth Thomas Coaches 133 (Wattstown-Llwyncelyn) hefyd yn gweithredu yn ôl yr arfer ar y ddau ddydd Sadwrn.

Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion, defnyddwyr ffyrdd a defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus am eu hamynedd a'u cydweithrediad wrth i'r ymchwiliadau tir fynd yn eu blaen. Mae'r gwaith yn hanfodol i lywio'r cynlluniau sydd eu hangen i atgyweirio'r arglawdd a’r difrod i wal gynnal Stryd Margaret.

Wedi ei bostio ar 10/02/22