Mae modd i drigolion ddod o hyd i ragor o wybodaeth a dweud eu dweud ar y cynigion i greu ysgol 3-16 oed newydd ar safle presennol Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen ac Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen, gan ddarparu cyfleusterau newydd a chyffrous i staff a disgyblion.
Mae'r prosiect yn cynnwys dymchwel rhai adeiladau ar safleoedd yr ysgolion presennol a chodi adeiladau carbon sero-net newydd sbon sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif. Bydd adeiladau eraill yn cael eu hadnewyddu a bydd y cynllun hefyd yn cynnwys maes parcio newydd i staff, maes parcio ar gyfer bysiau a man gollwng/casglu disgyblion. Bydd yr ysgol newydd yn croesawu disgyblion presennol Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen, Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen a disgyblion ffrwd Saesneg Ysgol Gynradd Heol y Celyn yn 2024.
Bydd y Cyngor yn cyflawni'r datblygiad yma mewn partneriaeth â Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru. Bydd y cynllun yn rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £60 miliwn sy'n cael ei gyflawni ledled Pontypridd.
Mae'r Cyngor bellach wedi dechrau proses Ymgynghori Cyn Ymgeisio, ac mae croeso i drigolion gymryd rhan cyn y dyddiad cau, sef dydd Gwener, 11 Mawrth.
Mae gan Ymgynghorwyr Asbri Planning Ltd dudalen we bwrpasol ar gyfer yr ymgynghoriad
Mae modd i drigolion weld dogfennau cynllunio manwl ar gyfer y prosiect gan gynnwys darluniau, adroddiadau a dogfennau ategol. Mae modd i drigolion ddweud eu dweud drwy e-bostio mail@asbriplanning.co.uk, neu drwy gwblhau'r ffurflen y mae modd ei lawrlwytho oddi ar dudalen we'r ymgynghoriad, a'i hanfon i'r cyfeiriad sydd wedi'i ddarparu.
Bydd y Cyngor yn cynnal achlysur wyneb yn wyneb i arddangos y cynlluniau yn rhan o'r ymgynghoriad a bydd swyddogion wrth law i ateb unrhyw gwestiynau. Bydd yr achlysur yn cael ei gynnal ar ôl oriau ysgol ddydd Iau, 3 Mawrth, yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen. Byddwn ni'n rhannu rhagor o fanylion maes o law.
Bydd yr adborth rydyn ni'n ei dderbyn yn rhan o'r ymgynghoriad yn helpu i lunio cais y Cyngor am ganiatâd cynllunio. Bydd y cais yma'n cael ei drafod gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu. Mae'n bosibl y bydd y cam adeiladu yn dechrau ar y safle'r haf yma, yn amodol ar sicrhau caniatâd cynllunio.
Meddai'r Cynghorydd Jill Bonetto, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Mae ysgol newydd 3-16 oed y Ddraenen Wen yn brosiect cyffrous iawn ac mae’n cynrychioli agwedd sylweddol ar ein buddsoddiad ehangach ledled ardal Pontypridd. Mae'r buddsoddiadau eraill yn cynnwys prosiectau gwerth miliynau o bunnoedd yn Ysgol Uwchradd Pontypridd, Ysgol Gyfun Bryn Celynnog ac Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn Rhydfelen.
“Bydd yr ymgynghoriad sydd ar y gweill yn rhoi cyfle i'r gymuned gael rhagor o wybodaeth am brosiect y Ddraenen Wen drwy edrych ar fersiwn ddrafft o'r dogfennau cynllunio fydd yn cael eu cyflwyno yn rhan o gais am ganiatâd cynllunio ffurfiol yn dilyn yr ymgynghoriad. Bydd yr holl adborth sy'n cael ei gyflwyno'n cael ei drafod gan swyddogion ac yn ein helpu i ddatblygu'r cynlluniau cyn cyflwyno cais ffurfiol. Mae hefyd yn wych gallu gweld argraff arlunydd o'r cynigion arfaethedig.
“Mae modd i drigolion ddweud eu dweud ar-lein, ac mae'r Cyngor hefyd yn trefnu achlysur cyhoeddus, wyneb yn wyneb, a fydd yn cael ei gynnal yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen ddydd Iau, 3 Mawrth. Roedd y Cyngor hefyd wedi dilyn yr un camau yn ystod yr ymgynghoriad ar gyfer cynlluniau buddsoddi yn ardal Beddau a Rhydfelen ac roedd y broses yn llwyddiannus. Rwy'n annog trigolion lleol i ddweud eu dweud yn ystod yr wythnosau nesaf, boed hynny ar-lein neu wyneb yn wyneb yn ystod yr achlysur.”
Mae'r Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu ledled Pontypridd yn cynrychioli un elfen o gynllun buddsoddi presennol y Cyngor ar gyfer ysgolion. Ar hyn o bryd rydyn ni'n darparu cyfleusterau newydd ac yn cynyddu capasiti Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr ac Ysgol Gyfun Rhydywaun. Mae cynnydd wedi'i wneud mewn perthynas â'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol i ddarparu adeiladau newydd yn Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, Ysgol Gynradd Pont-y-clun ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi.
Mae’r Cyngor hefyd yn datblygu prosiectau Band B pellach, a gafodd eu cyhoeddi yn Hydref 2021, gan ddefnyddio buddsoddiad ychwanegol gwerth £85 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn dod â chyfanswm y buddsoddiad i £252 miliwn. Bydd y cynigion yn cynnwys prosiectau buddsoddi ar gyfer Ysgol Llanhari, Ysgol Cwm Rhondda, Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn, Ysgol Gynradd Pen-rhys, Ysgol Gynradd Maes-y-bryn ac Ysgol Gynradd Tonysguboriau, ynghyd ag ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd ar gyfer cymuned Glyn-coch ac ysgol arbennig newydd ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.
Wedi ei bostio ar 21/02/22