Skip to main content

Dechrau gwaith adeiladu pont droed rheilffordd Llanharan

The damaged Llanharan railway footbridge was removed in January

Bydd trigolion a defnyddwyr y ffordd yn sylwi ar fwy o waith yn cael ei gynnal ger pont reilffordd Llanharan yr wythnos nesaf wrth i gontractwr y Cyngor ddechrau paratoi’r safle ar gyfer gosod pont droed newydd dros yr haf.

Yn dilyn gwaith i ddymchwel y bont droed oedd wedi'i difrodi a gafodd ei gynnal ym mis Ionawr 2022, bydd contractwr y Cyngor, Centregreat Ltd, yn dechrau'r cam adeiladu ddydd Llun, 14 Chwefror. Mae'r bont newydd yn cael ei hadeiladu oddi ar y safle ar hyn o bryd. Mae'r gwaith yn cynnwys ei chodi i'w lle dros yr haf, a hynny ar ôl i'r gwaith paratoi angenrheidiol fynd rhagddo ar y safle.

Bydd y gwaith cychwynnol o ddydd Llun ymlaen yn cynnwys sefydlu safle ar gyfer peiriannau/offer ar y ffordd ddienw oddi ar Heol Pen-y-bont, sydd i'r de o'r bont ac sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r rheilffordd tuag at Orsaf Llanharan. Bydd y contractwr yn sicrhau bod mynediad ar gael i gerddwyr ar y ffordd yma trwy gydol y gwaith.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd y contractwr yn bwrw ymlaen â gwaith ecoleg, pyllau arbrofi, clirio llystyfiant a dymchwel sylfeini'r hen bont. Bydd gwaith dros dro ar yr arglawdd i'r gogledd a gwaith tynnu pilastr y bont yn dilyn.

Bydd y mesurau rheoli traffig a threfniadau i gerddwyr sydd ar waith ar hyn o bryd yn parhau dros yr ychydig wythnosau nesaf. Rydyn ni'n rhagweld y bydd trefniadau i gerddwyr yn newid ganol mis Mawrth er mwyn sicrhau bod pilastr y bont yn cael ei symud yn ddiogel. Bydd raid cau'r llwybr troed dros dro ar Heol Pen-y-bont o ganlyniad i hyn. Hefyd, bydd angen cau'r ffordd i godi'r bont newydd i'w lle ar ddechrau'r haf.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae'r cynllun i osod pont droed newydd bellach yn symud ymlaen i'r cam nesaf, a bydd trigolion yn sylwi ar fwy o waith ar y safle o ddydd Llun. Daw'r cam adeiladu ar ôl cwblhau gwaith ym mis Ionawr i gael gwared ar y bont droed oedd wedi'i difrodi. Cynhaliwyd y gwaith yma gyda’r nos er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.

“Dyma roi gwybod i'r gymuned bod y Cyngor yn bwrw ymlaen â'r cynllun yma fel blaenoriaeth – gan gydnabod yr angen parhaus am oleuadau traffig ar y brif ffordd, a natur gymhleth y gwaith yn agos at y rheilffordd. Diolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd am barhau i gydweithio â ni, wrth i ni geisio gwneud cynnydd da er mwyn cwblhau’r cynllun dros yr haf eleni.”

Wedi ei bostio ar 11/02/22