Skip to main content

Ysgolion Lleol yn Galw ar Berchnogion Cŵn i fod yn Berchnogion Cyfrifol

Mae ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf yn cefnogi ymgyrch ddiweddaraf y Cyngor sy'n ceisio dwyn y broblem i sylw perchnogion cŵn anghyfrifol.

Yn dilyn llwyddiant ymgyrchoedd 'DIM BAW CŴN' a 'DIM CŴN AR Y CAEAU'  ledled y Fwrdeistref Sirol, mae ysgolion RhCT wedi gofyn i garfan Gofal y Strydoedd y Cyngor arddangos y negeseuon ar safleoedd ysgol a'r ardaloedd cyfagos.

Mae modd gweld neges 'DIM CŴN' ger mynedfa ac allanfa'r ysgolion er mwyn atgoffa ymwelwyr bod angen i'w cŵn aros oddi ar safle'r ysgol ar bob adeg! Byddwch chi'n derbyn hysbysiad cosb benodedig o £100 os nad ydych chi'n dilyn y rheolau yma.

Mae'r negeseuon syml yn rhan o'r ymgyrch gyffredinol i gymryd camau i fynd i'r afael â'r rheiny yn Rhondda Cynon Taf sy'n anwybyddu'r rheolau sydd wedi'u nodi'n rhan o'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus.

  • Un o'r rheolau sydd wedi'i hamlygu yn y gorchymyn yw bod cŵn wedi'u GWAHARDD o bob ysgol, man chwarae i blant, a chaeau chwaraeon wedi'u marcio ac sy'n cael eu cynnal gan y Cyngor.

Mae’r rheol yma'n cael ei hanwybyddu yn aml, gyda rhai perchnogion yn ceisio mynd â'u hanifeiliaid ar dir ysgolion – ac er bod y rhan fwyaf o bobl yn mwynhau cwmni'r anifeiliaid anwes, efallai na fydd pob plentyn yn teimlo’r un fath. Mae'n bosibl y bydd plentyn yn dal haint os ydyn nhw'n cwympo'n agos i'r baw cŵn.

Mae baw cŵn yn hyll ac anniben. Ar ben hynny, weithiau bydd ganddo oblygiadau difrifol ar gyfer iechyd plant ac oedolion. Gall hyn gynnwys tocsocariasis.

Mae Tocsocariasis yn cael ei achosi gan y llyngyr main tocsocara canis.  Mae wyau’r parasit yn byw yn y ddaear neu mewn tywod sydd wedi’i lygru â baw anifeiliaid. Os yw’r wyau yn cael eu llyncu, gall haint bara rhwng 6 a 24 mis, neu weithiau am oes. Mae symptomau yn cynnwys problemau â’r llygaid, dallineb, poen amwys, teimlo’n benysgafn, cyfog, asthma a ffitiau epileptig. 

Mae’r garfan Gorfodi wedi cynyddu nifer eu patrolau mewn ardaloedd problemus ledled y Fwrdeistref Sirol ac yn y flwyddyn ddiwethaf mae’r Cyngor wedi cyflwyno dros 1,030 o Hysbysiadau Cosb Benodedig (HCB) i’r rhai sydd wedi’u dal yn gollwng sbwriel, yn tipio’n anghyfreithlon, yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus ac yn methu â rheoli eu gwastraff yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r holl arian sy'n dod i law yn sgil yr hysbysiadau cosb benodedig yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen er mwyn gwella ein Bwrdeistref Sirol ac ymateb i'r materion sy'n flaenoriaeth i'n trigolion.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth:

“Mae’n wych bod yr ymgyrch ddiweddaraf yma'n helpu i godi ymwybyddiaeth mewn ysgolion ac rwy’n falch o weld yr ysgolion yn cefnogi’r negeseuon yma. Y gobaith yw y byddan nhw'n eich atgoffa chi i gael gwared ar faw eich cŵn ac i ddilyn y rheolau yn y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus. Mae gyda ni lawer o berchnogion cŵn cyfrifol ledled Rhondda Cynon Taf ac rydyn ni'n gwybod nad oes angen eu hatgoffa nhw. Serch hynny, mae yna ychydig o bobl sydd angen eu hatgoffa o hyd. Mae'r neges yn glir - rhowch faw ci mewn bag ac mewn bin a pheidiwch â gadael i'ch ci gerdded ar gaeau chwarae, ar dir ysgolion neu ardaloedd chwarae.

“Os bydd perchennog anghyfrifol yn anwybyddu’r negeseuon yma ac yn cael ei ddal yn torri rheolau’r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus byddwn ni'n gweithredu ac yn rhoi dirwy o £100. “Cafodd rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus eu cyflwyno ar ôl i drigolion ddweud wrth y Cyngor eu bod nhw am weld camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â pherchnogion cŵn anghyfrifol. Roedd hyn yn cynnwys mannau megis ysgolion, mannau chwarae sy'n cael eu defnyddio gan blant a chaeau wedi’u marcio lle mae trigolion yn mwynhau chwarae chwaraeon.

“Byddai’n well gyda'r Cyngor weld Bwrdeistref Sirol lân a cherddwyr cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol yn hytrach na rhoi dirwyon sy'n hawdd eu hosgoi. Os yw pawb yn talu sylw i'r negeseuon clir, yn dilyn y rheolau ac yn gweithredu’n gyfrifol, bydd modd i bawb fwynhau ein Bwrdeistref Sirol hardd.”

I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau baeddu cŵn yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/bawcwn

Hefyd, mae gyda ni restr o lefydd y mae modd i chi fynd â'ch chi am dro yn Rhondda Cynon Taf - yn ogystal â lle mae wedi'i wahardd. Ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/EnvironmentalHealthandPollution/Dogs/WherecanIwalkmydog.aspx

Wedi ei bostio ar 24/02/22