Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi'i ddegfed adroddiad yn unol ag Adran 19, Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn dilyn tywydd garw Storm Dennis. Mae'r adroddiad diweddaraf yn canolbwyntio ar yr hyn a achosodd llifogydd yn ardal Treorci.
Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol gyhoeddi adroddiad ffeithiol o'r hyn a ddigwyddodd mewn digwyddiadau llifogydd difrifol. Yn dilyn ei ymchwiliad cychwynnol i 28 lleoliad a effeithiwyd gan Storm Dennis (15-16 Chwefror, 2020), bydd y Cyngor yn llunio cyfanswm o 19 adroddiad.
Mae'r adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yn dilyn adroddiadau mewn perthynas ag ardal Hirwaun, Nantgarw, Pontypridd, Trefforest, Glyn-taf a Ffynnon Taf fis diwethaf. Roedd adroddiadau blaenorol yn canolbwyntio ar ardal Pentre (Gorffennaf 2021), Cilfynydd (Medi 2021) a Threherbert (Tachwedd 2021), yn ogystal ag Adroddiad Trosolwg ar gyfer Rhondda Cynon Taf (Gorffennaf 2021). Mae modd gweld pob adroddiad ar wefan y Cyngor.
Mae’r adroddiadau’n nodi'r Awdurdodau Rheoli Risg, yn ogystal â nodi'r swyddogaethau sydd wedi’u harfer hyd yma, ac yn amlinellu’r hyn y mae pob Awdurdod Rheoli Risg yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol. Mae'r adroddiad wedi cael ei lywio gan arolygiadau a gynhaliwyd gan Garfan Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor yn dilyn Storm Dennis, yn ogystal â gwybodaeth a gasglwyd gan drigolion, Carfan Iechyd y Cyhoedd y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru.
Mae'r adroddiad diweddaraf, a gyhoeddwyd ar ddydd Iau, 24 Chwefror, yn canolbwyntio ar ardal Treorci, Rhondda Fawr (Ardal Ymchwilio i Lifogydd 26). Mae'n nodi bod 44 eiddo wedi'u heffeithio gan lifogydd mewnol yn ystod Storm Dennis, yn ogystal â 4 eiddo masnachol a llifogydd ar y priffyrdd. Y Cyngor yw'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol a'r Awdurdod Draenio Tir.
Mae modd gweld yr adroddiad ar wefan y Cyngor.
Yn ôl yr adroddiad, prif ffynhonnell y llifogydd oedd dŵr ffo sylweddol yn llifo o'r llechweddau serth uwchben pentref Treorci. Draeniodd glawiad i dir is trwy gyrsiau dŵr cyffredin. Cafodd sawl un ohonyn nhw eu gorlenwi gyda dŵr a malurion, gan arwain at orlifo.
Nodwyd mai pedair cilfach ceuffos oedd prif ffynhonnell llifogydd eiddo ac aseswyd cyflawniad hydrolig a chyflwr y cilfachau yma o ganlyniad i hynny. Nid oes gan y tair cilfach sy'n gysylltiedig â rhwydwaith Nant Tyle Du safonau diogelwch digonol. Penderfynwyd mai prif achos llifogydd oedd rhwystrau yn y ceuffosydd wedi'u hachosi gan falurion, mae'r adroddiad yn nodi y byddai'r ceuffosydd wedi'u gorlwytho o safbwynt hydrolig yn ystod y storm, ar sail asesiad capasiti.
Nid oedd modd cynnal asesiad mewn perthynas â'r bedwaredd gilfach, sy'n gysylltiedig â chwrs dwr Nant Coly. Fodd bynnag, gan ystyried cyflwr gwael y strwythur, ystyrir bod y gilfach wedi'u gorlwytho o safbwynt hydrolig yn ystod y storm.
Mae'r Cyngor, ac yntau'n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, wedi cynnal 15 cam gweithredu mewn ymateb i'r llifogydd, ac wedi cynnig cynnal 3 arall. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith clirio wedi'i gynnal ar y cilfachau ceuffos a gafodd eu nodi'n ffynonellau llifogydd. Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd arolygon, gwaith glanhau ar tua 1,673 metr o'r rhwydwaith cwrs dŵr cyffredin yn ardal yr ymchwiliad.
Mae'r Cyngor hefyd wedi arwain gwaith datblygu Ystafell Rheoli Argyfyngau, gan ddod â'i Ganolfan Alwadau a gweithrediadau TCC at ei gilydd er mwyn darparu ymateb amlasiantaeth, cynhwysfawr a gwybodus yn ystod stormydd yn y dyfodol.
Mae hefyd wedi dechrau prosiect Gwrthsefyll Llifogydd ar gyfer Eiddo dros dro, gan gynnig gatiau llifogydd mae modd eu hehangu i'r eiddo hynny sydd mewn perygl mawr o ddioddef llifogydd cyrsiau dŵr cyffredin a dŵr wyneb - mae dyfeisiau monitro telemetreg o bell wedi'u gosod ar strwythurau allweddol yn ardal Treorci.
Bydd y Cyngor hefyd yn ceisio deall y dalgylch o gwmpas Treorci yn well trwy ddatblygu Achos Busnes Amlinellol Strategol er mwyn darparu argymhellion ar gyfer mesurau rheoli addas. Bwriad hyn yw lliniaru'r perygl o lifogydd cyrsiau dŵr cyffredin, dŵr wyneb a dŵr daear yn lleol yn y dyfodol.
Yn dilyn y cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma, mae'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol wedi cwblhau Achos Cyfiawnhad Busnes ynghyd â'r gwaith dylunio manwl - i gefnogi gwaith cyflawni Cam 1 o'r Achos Busnes Amlinellol ehangach, y mae disgwyl iddo ddechrau yn gynnar yn y gwanwyn.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod y tywydd yn ystod Storm Dennis yn eithafol, ac mae'n annhebygol y byddai modd atal pob achos o lifogydd o dan amgylchiadau tebyg. Mae'n nodi bod yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol wedi cyflawni'i swyddogaethau mewn modd boddhaol wrth ymateb i'r llifogydd. Mae mesurau pellach wedi cael eu cynnig i wella'r parodrwydd a'r ymateb yn y dyfodol.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae’r Cyngor bellach wedi cyhoeddi ei ddegfed adroddiad Adran 19. Mae gofyn i'r Cyngor gyhoeddi'r adroddiadau yma'n dilyn y llifogydd yn ystod Storm Dennis. Mae'r adroddiad sy'n ymwneud ag ardal Treorci yn cynrychioli'r seithfed adroddiad i gael ei gyhoeddi ers y Flwyddyn Newydd ac yn dilyn yr adroddiadau sy'n canolbwyntio ar Hirwaun, Nantgarw, Pontypridd, Trefforest, Glyn-taf a Ffynnon Taf a gyhoeddwyd yn ystod yr wythnosau diwethaf.
“Mae ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd yn ystod Storm Dennis yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor yma, er mwyn sicrhau ein bod yn barod ar gyfer unrhyw stormydd yn y dyfodol ac ar gyfer canlyniadau Newid yn yr Hinsawdd. Roedd y Cyngor wedi cyhoeddi diweddariad manwl ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud yn ein cymunedau i gwblhau cynlluniau lliniaru llifogydd a gwaith trwsio a gwella seilwaith allweddol megis pontydd, waliau a cheuffosydd, a hynny i nodi dwy flynedd ers y storm.
“Ers Storm Dennis, ymchwiliwyd i dros 4,000 o adroddiadau am lifogydd, archwiliwyd 60 cilometr o gyrsiau dŵr - a symudwyd dros 2,500 tunnell o falurion o'r seilwaith. Mae rhaglen gyfalaf garlam sy'n targedu dros 100 o gynlluniau lliniaru llifogydd hefyd yn cael ei gyflawni. Bydd hyn yn cynnwys buddsoddiad gwerth £13miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol.
“Roedd adroddiad Adran 19 heddiw mewn perthynas â Threorci yn nodi’r hyn a achosodd y llifogydd, ac yn amlinellu camau gweithredu'r Cyngor fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol. Mae'n nodi bod yr Awdurdod yma wedi cyflawni ei ddyletswyddau mewn modd boddhaol, ac yn cynnig mesurau pellach i wella parodrwydd ar gyfer unrhyw lifogydd yn y dyfodol. Mae modd gweld yr adroddiad ar wefan y Cyngor.”
Wedi ei bostio ar 24/02/22