Bydd y Cyngor yn dechrau ar y gwaith angenrheidiol i sefydlogi’r arglawdd ger rhan o Heol Llwyncelyn yn y Porth. Dyma gynllun sylweddol sy'n golygu y bydd raid i draffig deithio mewn un cyfeiriad yn unig er diogelwch pawb.
Bydd y gwaith yn cael ei gynnal ger rhan 170 metr o hyd o'r arglawdd ger y B4278 Heol Llwyncelyn, rhwng cyffyrdd Heol Pontypridd a Theras Leslie. Mae’r arglawdd yn llithro fesul tipyn ac yn achosi difrod i’r wal fer wrth ymyl y palmant. Pan fydd glaw, mae dŵr daear sydd ddim yn llifo i'r sianel ddraenio yn dechrau cronni ar y droedffordd islaw.
Yn rhan o'r gwaith a fydd yn dechrau ddydd Llun, 14 Chwefror, bydd trawst capio yn cael ei adeiladu ar ben y wal, a fydd hefyd yn cael ei hangori a’i hoelio. Mae hyn yn cael ei ariannu gan ddyraniad cyllid wedi’i glustnodi ar gyfer gwaith atgyweirio seilwaith yn dilyn Storm Dennis. Mae disgwyl cwblhau'r gwaith ym mis Ebrill eleni.
Bydd raid rheoli'r traffig er mwyn cynnal y gwaith mewn modd diogel, a hynny trwy newid y rhan o Heol Llwyncelyn dan sylw (rhwng Heol Pontypridd a Theras Leslie) yn system unffordd. Bydd modd teithio i gyfeiriad y gogledd-orllewin (tuag at Heol Pontypridd) o hyd. Bydd traffig i'r cyfeiriad arall, o Heol y Gogledd, yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Heol Pontypridd, Heol Eirw, yr A4058 (Ffordd Liniaru'r Porth) a Heol Llwyncelyn.
Mae map yn nodi'r ffordd sydd ar gau i'w weld yma
O ganlyniad i'r gwaith, bydd dim modd defnyddio safleoedd bysiau tua'r de ger Gwesty'r Llwyncelyn a'r orsaf dân. Dylai teithwyr ddefnyddio’r safleoedd cyfagos yn Stryd Mary, y safle bws dros dro heibio i 63 Heol y Gogledd, siop Morrisons neu Heol Eirw.
Bydd yr holl wasanaethau bws tua'r de sydd fel arfer yn defnyddio Heol Llwyncelyn yn dilyn llwybr y dargyfeiriad ar hyd Heol Eirw. Bydd gwasanaeth 133 Thomas of Rhondda (Wattstown i Lwyncelyn) wedyn yn troi wrth Gylchfan Ffordd Osgoi Trehafod, yn teithio dros Bont Britannia, ac yn mynd ar hyd Ffordd Llwyncelyn, Teras Leslie a Theras y Briallu gan ddilyn llwybr arferol y gwasanaeth yn ôl i’r Porth.
Bydd yr holl wasanaethau tua'r gogledd yn parhau i fynd ar hyd Ffordd Llwyncelyn.
Mae contractwr y Cyngor Alun Griffiths (Contractors) Cyf hefyd angen cau'r ffordd gyda'r nos rhwng 8pm a 7am yn ystod wythnos gyntaf y gwaith. Bydd hyn yn dechrau ar noson 14 Chwefror, gan ddod i ben y bore canlynol. Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr un llwybr ag sydd wedi'i nodi uchod i'r ddau gyfeiriad.
O 1 Ragfyr 2021, cynhaliodd y Cyngor ymgynghoriad cyhoeddus i roi gwybod i drigolion am y cynllun ac i geisio adborth yn ei gylch. Yn ôl yr ymgynghoriad ac yn rhan o'r gwaith i'r arglawdd, bydd raid cael gwared ar 14 o goed mawr uwchben y ffordd. Eglurodd yr ymgynghoriad fod y Cyngor wedi ystyried pob opsiwn o gadw'r coed, ond roedd cael gwared arnyn nhw yn anochel. Mewn perthynas â sefydlogi angenrheidiol yr arglawdd, ddaeth yr un gwrthwynebiad i gael gwared ar y coed i law'r Cyngor yn rhan o'r ymgynghoriad.
O ganlyniad i orfod cael gwared ar y coed yma, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i blannu 14 o goed newydd ym Mharc Bronwydd. Mae hyn yn unol â’i ymrwymiadau mewn perthynas â materion Newid yn yr Hinsawdd, gan gydnabod mai’r dewis olaf yw cael gwared ar y coed, ac mae pob ymdrech wedi'i wneud i liniaru unrhyw dorri coed hanfodol.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion ymlaen llaw am eu hamynedd a'u cydweithrediad wrth i'r cynllun angenrheidiol yma ddechrau, a fydd yn ateb problem yr arglawdd diffygiol yn Heol Llwyncelyn.
Wedi ei bostio ar 04/02/22