Mae'r Cyngor wedi rhannu diweddariad manwl mewn perthynas â gwaith atgyweirio seilwaith parhaus a'r buddsoddiad sylweddol ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd yn ein cymunedau, a hynny dwy flynedd ers Storm Dennis.
Profwyd tywydd digynsail yn ystod Storm Dennis rhwng 15 ac 16 Chwefror, 2020. O ganlyniad i'r tywydd yma, cafodd 1,498 eiddo eu heffeithio gan lifogydd a chafwyd difrod difrifol i ganol trefi, rhwydweithiau rheilffyrdd a ffyrdd, parciau busnes a chyfleusterau hamdden. Roedd ymateb y Cyngor yn cynnwys rhoi cymorth i'r gwasanaethau brys, sefydlu canolfannau gorffwys, darparu cyllid brys i deuluoedd a chydlynu apêl fawr am fwyd.
Dechreuodd y Cyngor hefyd asesu'r difrod sylweddol i seilwaith y sir. Roedd y Cyngor wedi ymrwymo i gynnal ymchwiliad cynhwysfawr i'r digwyddiad, gan gydnabod y gwaith adfer fyddai'n cael ei gynnal am flynyddoedd i ddod, a hynny er mwyn datblygu a chyflawni gwaith atgyweirio, a buddsoddi mewn gwaith lliniaru llifogydd wedi'i dargedu.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, mae 28 storm wedi effeithio ar y sir, gan gynnwys y tair storm fawr ym mis Chwefror 2020, sef Ciara, Dennis a Jorge. Ers mis Chwefror 2020, mae ein Carfan Rheoli Perygl Llifogydd wedi:
- Ymchwilio i 4,036 adroddiad o lifogydd.
- Archwilio dros 50cilometr o gyrsiau dŵr/seilwaith draenio, a 10cilometr o gyrsiau dŵr cyffredin a dalgylchoedd cysylltiedig.
- Symud oddeutu 2,500 tunnell o weddillion o'r asedau yma.
- Cwblhau 28 Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd.
- Llunio 19 adroddiad yn unol ag Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (mae naw ohonyn nhw eisoes wedi’u cyhoeddi).
Mae rhaglen gyfalaf garlam hefyd yn cael ei chyflawni. Bydd y rhaglen yma, sy'n targedu 108 o gynlluniau lliniaru llifogydd, yn cynnwys buddsoddiad gwerth £13miliwn erbyn Mawrth 2022. Mae'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn amrywio o ddatblygu achosion busnes i waith dylunio ac adeiladu. Mae cynlluniau allweddol yn cynnwys:
- Cilfach Heol Pentre – mae gwaith uwchraddio mawr wedi'i gwblhau, gan gynnwys cilfach ceuffos newydd, pwll gweddillion, strwythurau gorlif a chyfarpar monitro.
- A4059, Aberdâr – mae gwaith sylweddol wedi cael ei gwblhau rhwng cylchfannau Asda a Tinneys i sicrhau bod modd gwrthsefyll llifogydd.
- Ystad Ddiwydiannol Cwm-bach – mae gwaith i greu llwybr pwrpasol ar gyfer dŵr llifogydd a gorlifoedd wedi'i gwblhau.
- Cilfach Teras Bronallt, Abercwmboi – mae gwaith gwella mewn perthynas â chilfach y cwrs dŵr cyffredin wedi'i gwblhau.
- Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre - mae'r gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu achos busnes ar gyfer cynigion i liniaru'r perygl o lifogydd yn y gymuned.
- A4061 Ffordd y Rhigos – mae gwaith yn parhau ar y safle i uwchraddio dwy geuffos cwrs dŵr cyffredin ar ran o'r ffordd ger Glofa'r Tŵr.
- Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci - mae gwaith yn parhau i gael ei wneud i lunio achos busnes ar gyfer cynigion i liniaru perygl llifogydd yn y gymuned. Bydd cam cyntaf y gwaith paratoi yn dechrau ym mis Mawrth, yn amodol ar sicrhau cyllid grant.
- Cynllun Lliniaru Llifogydd Gorsaf Bwmp Glenbói – mae'r gwaith paratoi a'r cam dylunio manwl i ddarparu gorsaf bwmpio dŵr wyneb wedi'i gwblhau.
- Gwelliannau i System Ddraenio Priffordd Glenbói/Bryn y Rhedyn – mae gwaith uwchraddio sylweddol mewn perthynas â rhwydwaith draenio'r priffyrdd yn mynd rhagddo.
- Gwelliannau i System Ddraenio Rhydfelen – mae gwaith yn mynd rhagddo ar y safle i wella'r seilwaith draenio yn y gymuned ac yn yr ardal gyfagos.
- Cynllun Lliniaru Llifogydd Teras Bronallt, Abercwmboi – mae gwaith llunio achos busnes a'r gwaith dylunio wedi'i gwblhau, bydd y cam adeiladu yn cychwyn ym mis Mawrth, yn amodol ar sicrhau cyllid grant.
- Teras y Waun, Ynys-hir – mae gwaith yn mynd rhagddo i uwchraddio ceg ceuffos a'r sianel gysylltiedig, gyda’r nod o wella'r gallu i wrthsefyll llifogydd yn ystod glaw trwm.
- Stryd Allen, Aberpennar – mae gwaith gwella ac atgyweirio sylweddol yn mynd rhagddo, i leihau’r perygl o lifogydd yn y gymuned.
- Cyfarpar Monitro – mae gwaith i ehangu gorsafoedd monitro'r Cyngor wedi'i gwblhau. Mae cyfarpar wedi'i osod ar 25 safle, gyda 5 safle pellach i'w cwblhau yn y dyfodol.
- Cynyddu nifer yr adnoddau sydd ar gael – mae'r Cyngor wedi sefydlu Carfan Draenio Glaw Mawr newydd ac wedi sicrhau cymeradwyaeth y Cabinet i sefydlu Carfan Diogelwch Tomenni pwrpasol hefyd, a hynny er mwyn gwella'r gallu sydd gyda ni yn y meysydd yma.
Mae cynlluniau atgyweirio amrywiol mewn perthynas â seilwaith arall – gan gynnwys pontydd, waliau a thirlithriadau – hefyd yn cael eu cwblhau ledled y Fwrdeistref Sirol.
Mae Pont M&S (Pontypridd), Stryd Canning, Stryd Bailey a Phontydd Stryd Maendy (Ton Pentre), Wal Afon Castle Inn (Rhydfelen), Pont Myrddin (Trehopcyn), Wal Afon Stryd y Groes (Ynys-hir), Wal Afon Stryd Siôn (Pontypridd) Pont Ynys Meurig a Phont Nant Clydach (Abercynon) ymhlith y cynlluniau sydd wedi'u cwblhau. Mae'r rhestr isod yn dangos y cynlluniau allweddol sy'n cael eu cwblhau ar hyn o bryd:
- Pont droed y Bibell Gludo, Abercynon -mae'r strwythur wedi'i ddymchwel ac mae cynlluniau ar y gweill i'w ddisodli yn 2023/24.
- Pont droed Ty'n y Bryn, Tonyrefail - cafodd gwaith atgyweirio brys ei gynnal, ac mae gwaith archwilio a dylunio'r safle ar gyfer pont newydd yn mynd rhagddo.
- Pont Tram Haearn, Tresalem – Mae cydsyniad Heneb Gofrestredig wedi'i roi er mwyn cynnal gwaith atgyweirio, ac mae'r gwaith yma'n digwydd oddi ar y safle ar hyn o bryd.
- Wal Afon Blaen-cwm – mae contractwr yn ymgymryd â chamau olaf y gwaith atgyweirio sydd ei angen i ailagor Heol Blaen-y-Cwm.
- Wal yr Afon, Heol Berw, Pontypridd – mae gwaith atgyweirio llawn wedi'i amserlenni ar ôl i waith brys cychwynnol gael ei gynnal yn dilyn arolygiad.
- Pont Heol Berw (y Bont Wen), Pontypridd – roedd gwaith atgyweirio cychwynnol wedi caniatáu i'r bont gael ei hailagor, mae rhaglen atgyweirio lawn wedi’i chynllunio ar gyfer yr haf yma.
- Wal yr Afon, Heol Pontypridd, Porth - mae gwaith atgyweirio cychwynnol wedi lleihau'r risg o'r strwythur yma'n cwympo, ac mae gwaith atgyweirio pellach wedi'i gynllunio ar gyfer 2022.
- Ffordd Mynydd Maerdy – cafodd gwaith gwella mewn perthynas â'r waliau cynnal ei gyflawni'r haf diwethaf, ac mae'r cam dylunio terfynol yn parhau.
- Tirlithriad Llwybr i'r Gymuned Ynys-hir – mae camau olaf y gwaith adfer mewn perthynas â'r llwybr beicio yn mynd rhagddo, a rhagwelir y bydd y llwybr yn ailagor yn fuan.
- Tirlithriad Tylorstown – mae gwaith sylweddol ar y safle yn golygu bod y rhan fwyaf o'r deunydd o'r tirlithriad wedi'i symud o'r safle ac mae cynnydd wedi'i wneud mewn perthynas ag adfer llwybr yr afon. Mae ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â Cham 4 y gwaith, sef sicrhau bod ochr y bryn yn ddiogel, yn parhau.
- Pont Droed Castle Inn, Trefforest – mae cais am ganiatâd cynllunio eisoes wedi'i gyflwyno er mwyn newid y bont bresennol yn bont fwa sengl.
- Wal yr Afon, Tonypandy – mae arolygon a gwaith dylunio yn parhau, a hynny er mwyn atgyweirio’r difrod gan sgwrfa.
- Pont Droed Parc y Gelligaled, Ystrad – mae gwaith atgyweirio wedi'i drefnu ar gyfer yr haf yma.
- Wal Gynnal Stryd y Nant, Porth – cafodd gwaith brys ei gwblhau ar ôl Storm Dennis. Mae arolygon a gwaith dylunio mewn perthynas â gwaith pellach yn parhau ar hyn o bryd.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae’r diweddariad yma ddwy flynedd ar ôl Storm Dennis yn dangos y gwaith sylweddol y mae’r Cyngor wedi’i gwblhau, ac yn parhau i’w gyflawni, ledled y Fwrdeistref Sirol yn dilyn y storm yma. Rydyn ni'n parhau i fuddsoddi amser ac adnoddau sylweddol er mwyn ymchwilio i'r hyn a ddigwyddodd, gan gynnal gwaith atgyweirio a chyflawni gwaith lliniaru llifogydd wedi'i dargedu.
“Mae gwaith ein Carfan Rheoli Perygl Llifogydd wedi cynnwys ymchwilio i dros 4,000 o adroddiadau am lifogydd yn deillio o 28 storm ers Chwefror 2020, archwilio mwy na 60cilometr o gyrsiau dŵr - mae'r mwyafrif o'r rhain o dan y ddaear - a symud malurion o'r cyrsiau dŵr yma. Mae ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd yn ystod Storm Dennis yn parhau i fod yn flaenoriaeth, a hynny i sicrhau ein bod ni’n fwy parod ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Mae hyn wedi arwain at gyhoeddi naw adroddiad Adran 19 mewn perthynas â llifogydd hyd yn hyn.
“Mae dros 50 o gynlluniau lliniaru llifogydd a chynlluniau draenio eisoes wedi’u cwblhau yn ein cymunedau, gyda 50 o gynlluniau pellach ar y gweill. Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol, byddwn ni wedi buddsoddi dros £13miliwn yn y maes yma ers Storm Dennis. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i ddarparu cyfarpar a fydd yn lliniaru effaith stormydd yn y dyfodol i eiddo risg uchel. Mae hyn yn cynnwys rhwystrau y mae modd eu hehangu. Hyd yn hyn, mae oddeutu 400 o gartrefi wedi cael y cymorth yma.
“Rydyn ni hefyd wedi gwario swm sylweddol ar domenni glo, £7miliwn ers Storm Dennis, a hynny i gynyddu'r gwaith monitro sy'n cael ei wneud gyda phartneriaid, datblygu cynlluniau a chynnal gwaith ar y safle. Yn dilyn y tirlithriad mawr yn ardal Tylorstown, lluniwyd Cynllun Adfer cynhwysfawr. Mae cam nesaf y cynllun, sef symud deunydd sy'n weddill o ochr y bryn, yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd. Rydyn ni hefyd wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Glo i sicrhau gwaith i sefydlogi Tomen Wattstown, sy'n eiddo preifat.
“Yn achos strwythurau eraill megis waliau a phontydd, roedd y Cyngor wedi wynebu'r dasg enfawr o asesu’r difrod yn dilyn Storm Dennis ac wedi mynd ati i ddechrau cynllunio gwaith atgyweirio. Mae'r cynnydd hyd yma wedi gweld nifer o brosiectau mawr yn cael eu cwblhau – gan gynnwys Pont M&S ym Mhontypridd a Phont Ynys Meurig yn Abercynon. Mae llawer o brosiectau eraill wrthi’n cael eu datblygu neu mae gwaith yn cael ei gynnal ar y safle ar hyn o bryd. Mae'r diweddariad y mae'r Cyngor wedi'i ddarparu heddiw yn amlinellu cynnydd rhai o'r cynlluniau allweddol.
“Mae modd i drigolion fod yn hyderus y bydd y Cyngor yn parhau i flaenoriaethu'i waith sy'n ymwneud â lliniaru llifogydd, er mwyn sicrhau ein bod ni mor barod â phosibl ar gyfer stormydd yn y dyfodol, sy'n debygol o ddigwydd oherwydd newid yn yr hinsawdd. Rydyn ni hefyd wedi sefydlu Ystafell Rheoli Argyfyngau i helpu i gydlynu'r ymateb amlasiantaeth yn ystod tywydd garw. Bydd hyn yn ein galluogi ni i gael darlun mwy cywir o unrhyw sefyllfa sy’n datblygu a threfnu adnoddau ar gyfer ein cymunedau mewn modd effeithlon.”
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i wneud gwaith atgyweirio ac uwchraddio ers stormydd mis Chwefror. Mae hefyd wedi cynnal gwiriadau rheolaidd mewn lleoliadau allweddol ar draws y Fwrdeistref drwy gydol y flwyddyn.
Dywedodd Michael Evans, Pennaeth Gweithrediadau Canol De Cymru yn sefydliad Cyfoeth Naturiol Cymru: “Dydyn ni ddim yn diystyru’r effaith y cafodd stormydd Chwefror 2020 ar gymunedau yn Rhondda Cynon Taf ac rydyn ni'n dal i feddwl am y rhai sy’n dal i adfer ac ailadeiladu hyd heddiw.
“Wrth ystyried sut i amddiffyn ardaloedd ledled Cymru sydd fwyaf mewn perygl o lifogydd, bydd CNC bob amser yn gweithio gyda chymunedau lleol i ddod o hyd i'r cyfuniad gorau o fesurau i fynd i’r afael â bygythiadau penodol.
“Yn ogystal â chynnal atgyweiriadau a chynnal gwiriadau i amddiffynfeydd llifogydd ar draws y Fwrdeistref, mae CNC wedi bod yn cynnal modelu perygl llifogydd manwl yn nalgylch isaf yr Afon Taf ac afonydd Cynon a Rhondda i gefnogi cam nesaf y gwaith sydd wedi’i gynllunio i ddatblygu prif gynllun rheoli perygl llifogydd strategol ar gyfer holl ddalgylch Afon Taf. Mae'r gwaith yma'n cael ei wneud ar y cyd â'r holl awdurdodau rheoli perygl llifogydd yn yr ardal yma, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Gan y bydd achosion o dywydd eithafol yn digwydd yn amlach yn y dyfodol o ganlyniad i niwed yn yr hinsawdd, byddwn ni'n parhau i weithio’n adeiladol gyda nhw i barhau i adolygu’r hyn sy’n ymarferol bosibl i leihau perygl llifogydd yn yr ardal yma.”
Wedi ei bostio ar 16/02/2022