Mae pobl yn talu teyrngedau i gyn Gynghorydd Rhondda Cynon Taf a'r Maer John Watts, sydd wedi marw yn dilyn salwch.
Cafodd Mr Watts, a aned yng Nghwm Rhondda, ei ethol i gynrychioli ward Ystrad ar Gyngor Rhondda Cynon Taf yn 2004 a gwasanaethodd ei gymuned leol tan 2017.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu'n Gadeirydd Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Corfforaethol y Cyngor ac yn Faer Rhondda Cynon Taf ym mlwyddyn y Cyngor 2014.
Un o uchafbwyntiau ei gyfnod yn Faer oedd cyflwyno Rhyddfraint Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i'r diweddar Bernard Baldwin MBE, sylfaenydd Rasys Ffordd Nos Galan, mewn seremoni yng Nghanolfan Bowlio Dan Do Cwm Cynon yn Aberpennar.
Cymar Mr Watts yn ystod ei dymor yn Faer oedd ei ddiweddar wraig Anne, a oedd yn mynychu nifer o achlysuron dinesig ac elusennol gydag ef. Bu'r cwpl yn briod am dros 50 mlynedd.
Bu munud o dawelwch er cof am John Watts yn ystod cyfarfod llawn Cyngor Rhondda Cynon Taf ddydd Mercher, 9 Chwefror.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Roedd John yn angerddol am ei gymuned ac roedd yn ymwneud yn helaeth â chymaint o grwpiau lleol. Roedd yn caru ei fro ac yn cynrychioli ei gymuned mor dda yn ystod ei gyfnod yn gynghorydd.
“Rydyn ni’n galaru am ei farwolaeth ac yn anfon ein cydymdeimlad diffuant at ei deulu yn y cyfnod anodd yma.”
Yntau'n gyn löwr, roedd Mr Watts yn brentis i’r Bwrdd Glo Cenedlaethol ym Mhwerdy Tonypandy ym 1958. Dechreuodd weithio dan ddaear yng Nglofa Cambrian ym 1960 cyn symud i Lofa Lady Windsor, Ynysybwl, lle bu’n gweithio tan 1967. Yn ddiweddarach bu’n gweithio yn y diwydiant peirianneg yn Llwynypia, cyn ymddeol o’i waith yn 2010.
Wedi ei bostio ar 11/02/22