Skip to main content

Gwaith dargyfeirio cyfleustodau wrth baratoi ar gyfer amnewid pont Castle Inn

Castle Inn Bridge artist's impression

Y DIWEDDARAF, 02/03/22: Nodwch: bydd y trefniadau cau ffordd/trefniadau bysiau sydd wedi'u hamlinellu isod ar waith unwaith eto rhwng 6.30am, ddydd Sadwrn, 5 Mawrth a 7pm, ddydd Sul, 6 Mawrth - a hynny i barhau â gwaith dargyfeirio cyfleustodau. Bydd y gwaith hefyd yn parhau yr un amser 12-13 Mawrth ar gyfer gwaith sy'n gysylltiedig â dargyfeirio cyfleustodau Western Power Distribution, a rhwng 6.30am a 5pm ddydd Sadwrn 26 Mawrth ar gyfer gwaith dargyfeirio BT Openreach.

 

Bydd Heol Caerdydd, Glyn-taf, ar gau o nos Gwener hyd at ddiwedd hanner tymor yr ysgol fel bod modd dargyfeirio cyfleustodau wrth baratoi i amnewid Pont Castle Inn yr haf yma. Bydd gwasanaeth bws gwennol am ddim ar gael yn ystod cyfnod cau'r ffordd.

Mae'r bont droed ar gau o hyd oherwydd y difrod strwythurol difrifol iddi yn sgil Storm Dennis. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod mynediad i gerddwyr yn parhau dros yr afon, ac mae cais cynllunio wedi'i gyflwyno ar gyfer gwaith i osod pont fwa sengl yn lle'r bont bresennol. 

Bydd y gwaith cyfleustodau yn caniatáu i Wales and West Utilities ddargyfeirio ei brif gyfarpar nwy, tra bydd Openreach, Virgin a Western Power Distribution yn cwblhau gwaith gosod pibelli. Byddwn ni'n anfon llythyrau at drigolion a busnesau lleol yn rhoi gwybod am y gwaith.

Bydd y gwaith yma'n digwydd o 11.30pm ddydd Gwener, 18 Chwefror, hyd at 5.00am ddydd Llun, 28 Chwefror. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal yn ystod hanner tymor yr ysgol er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl. Mae angen cau 30metr o'r A4054 Heol Caerdydd, ger Pont Castle Inn a rhifau 15 ac 16 Heol Caerdydd.

Mae llwybr arall ar gyfer gyrwyr o ochr ddeheuol y ffordd sydd ar gau, ar hyd yr A4054, cylchfan Glan-bad, yr A470 tua'r gogledd a Chyfnewidfa Glyn-taf. I'r cyfeiriad arall, ewch trwy Gyfnewidfa Glyn-taf, yr A470 tua'r de, cylchfan Glan-bad a'r A4054 Heol Caerdydd. Bydd mynediad i gerddwyr yn parhau, ond fydd dim mynediad i'r gwasanaethau brys.

Mae map yn nodi'r ffordd sydd ar gau i'w weld yma

Bws gwennol am ddim (yn gwasanaethu Rhydfelen, y Ddraenen Wen a Glan-bad).

Drwy gydol cyfnod cau'r ffordd, fydd dim modd i'r holl wasanaethau bws wasanaethu Rhydfelen a’r Ddraenen Wen. Byd y gwasanaethau bws yn teithio ar hyd yr A470, ac yn ymuno â'r llwybr arferol yn Ystâd Ddiwydiannol Trefforest. Mae'r Cyngor wedi trefnu bod bws gwennol am ddim yn gweithredu yn ystod cyfnod cau'r ffordd.

Bydd y bws gwennol yn cael ei weithredu gan NAT Group, a bydd yn teithio i’r prif safleoedd bysiau yn Rhydfelen, y Ddraenen Wen a Glan-bad bob 30 munud rhwng 6.00am a 9.00pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Bydd gwasanaeth bob awr o 8.55am hyd at 6.55pm ar y ddau ddydd Sul yn ystod cyfnod cau'r ffordd.

Bydd y bws gwennol yn gadael Gerddi Glantaf er mwyn cysylltu â gwasanaethau tua'r de yn Safle Bws y Crochendy yn Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, er mwyn teithio ymlaen i Ffynnon Taf a Chaerdydd. Bydd hefyd yn gweithredu i'r cyfeiriad arall o Safle Bws y Crochendy, ar gyfer teithio tua'r gogledd i Lan-bad, y Ddraenen Wen a Rhydfelen.

Ar ddydd Sul, bydd gwasanaeth bws 112 NAT Group (Hen Ynys-y-bŵl i Nantgarw) hefyd yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A470 i'r ddau gyfeiriad, ond bydd yn gwasanaethu ei lwybr arferol trwy droi yn ôl trwy Nantgarw, Tesco Glan-bad a Rhydfelen.

Bwriwch olwg ar amserlen lawn y bws gwennol yma

Hoffai’r Cyngor ddiolch i drigolion a defnyddwyr y ffyrdd ymlaen llaw am eu cydweithrediad wrth i’r paratoadau angenrheidiol gael eu gwneud i amnewid Pont Castle Inn yr haf yma.

Wedi ei bostio ar 16/02/22