Skip to main content

Gwaith ar Heol yr Orsaf, Treorci yn ystod hanner tymor

Station Road works during the school half term

Bydd y Cyngor yn cynnal ymchwiliadau tir ar yr A4061 Heol yr Orsaf (ger Theatr y Parc a’r Dâr) yn ystod hanner tymor i baratoi ar gyfer ail gam y gwaith i gryfhau’r strwythurau sy’n cynnal y ffordd.

Mae Cantilifer Nant Cwm-parc wedi’i leoli ar Heol yr Orsaf ac mae’n cynnal y ffordd dros y nant wrth y gyffordd â Stryd Dyfodwg. Mae'r Cyngor yn cynnal gwaith parhaus i osod strwythur newydd, yn ogystal â chryfhau Pont y Stiwt. Mae’r ddau yn cynnal y brif ffordd.

Cynhaliwyd cam cyntaf y cynllun yma rhwng yr haf a’r hydref yn 2021, ac yna daeth y gwaith i ben oherwydd y cyfyngiadau tymhorol o ran gweithio yn yr afon.

Bydd yr ymchwiliadau tir sydd ar ddod yn cael eu cynnal gan y contractwr Walters Ltd o ddydd Llun, 21 Chwefror. Mae’r gwaith wedi’i drefnu ar gyfer hanner tymor er mwyn lleihau aflonyddwch. Bydd y gwaith, a fydd yn para wythnos, yn cynnwys gwneud tyllau prawf yn y droedffordd a rhannau o’r ffordd gerbydau. Bydd hyn yn hwyluso’r dull gweithio ar gyfer y prif gynllun yn ddiweddarach yn 2022.

O ganlyniad i’r ymchwiliadau tir, bydd angen cau un lôn ar y ffordd gerbydau tua'r gogledd ar Heol yr Orsaf, ynghyd â'r droedffordd gyfagos. Bydd angen goleuadau traffig pedair ffordd, ac mae'n debygol y bydd y gwaith yn achosi aflonyddwch i ddefnyddwyr y ffordd.

Bydd y safle bws gyferbyn â Theatr y Parc a'r Dâr yn symud i safle dros dro tua’r gogledd ar Heol yr Orsaf er mwyn cynnal y gwaith.

Mae’r cynllun yma yn cael ei ariannu gan Raglen Gyfalaf Priffyrdd Atodol y Cyngor ar gyfer 2021/22, gan ddefnyddio cyllid a glustnodwyd ar gyfer Strwythurau Priffyrdd. Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd ymlaen llaw am eu cydweithrediad, wrth i’r ymchwiliadau tir angenrheidiol gael eu cynnal yn ystod hanner tymor er mwyn llywio'r prif gynllun yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Wedi ei bostio ar 17/02/22