Skip to main content

Gwaith yn mynd rhagddo i wella llwybrau diogel yn ardal Tonpentre

Ton Pentre safe routes

Mae'r Cyngor wedi dechrau gwaith i wella cyfres o groesfannau i gerddwyr ac ymestyn y mesurau gostegu traffig yn ardal Tonpentre yn rhan o Gynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Dechreuodd y gwaith ddydd Mercher, 23 Chwefror. Bydd yn canolbwyntio ar sawl lleoliad ger Ysgol Iau Ton Pentre a bydd y contractwr, Horan Construction Ltd, yn cwblhau'r cynllun yn ystod y ddau fis nesaf.

Bydd y cynllun yn cynnwys adeiladu croesfan sebra newydd a sefydlu mesurau gostegu traffig, gan ymestyn y terfyn cyflymder presennol o 20mya ar hyd Heol y Maendy fel ei fod yn cynnwys Cilgant y Maendy a Thyddyn y Maendy hefyd. Yn ogystal â'r uchod, bydd cyffordd uchel yn disodli'r gylchfan fach bresennol ar Heol yr Eglwys er mwyn arafu traffig trwodd. Byddwn ni hefyd yn gwella cyfleusterau croesi i gerddwyr ar Heol yr Eglwys, gan helpu i greu amgylchedd mwy diogel.

Bydd llif traffig yn cael ei gynnal i'r ddau gyfeiriad yn ystod y rhan fwyaf o'r gwaith, ond bydd angen cau rhai strydoedd cyfagos gan sefydlu llwybrau amgen. Bydd angen cau'r ffordd gyfan er mwyn gosod wyneb newydd ar y ffordd. Bydd y gwaith yma'n cael ei gynnal ar y penwythnos i leihau aflonyddwch. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i'r trigolion lleol cyn cau unrhyw ffordd.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae’r Cyngor wedi dechrau Cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn Nhonpentre, ar ôl croesawu pecyn cyllid llawn gan Lywodraeth Cymru. Nod y Cynllun hwn yw gwella diogelwch a hygyrchedd i gerddwyr a beicwyr yn ein cymunedau – mae’r gwaith yn Nhonpentre yn dilyn prosiectau yn Llantrisant a Chilfynydd y llynedd, oedd hefyd wedi’u cefnogi gan Lywodraeth Cymru.

“Cafodd y cynlluniau yma'u cynnal yn dilyn gwaith tebyg gan y Cyngor i wella diogelwch y ffyrdd a hyrwyddo beicio a cherdded yn Llwynypïa ac Abercynon yn 2020, ynghyd â chyfres o gynlluniau llwybrau mwy diogel a gafodd eu cyflawni ar y cyd â gwelliannau Ysgolion yr 21ain Ganrif yng Nghwmaman, Tonypandy, Tonyrefail a Threorci yn 2018/19.

“Bydd y gwaith sydd ar y gweill yn ardal Tonpentre yn darparu man croesi ffurfiol newydd, yn ymestyn y parth 20mya sydd eisoes yn bodoli, yn darparu cyffordd uwch yn lle cylchfan fach a mesurau gostegu traffig a chyfleusterau croesi i gerddwyr. Mae'r holl welliannau diogelwch yma'n agos at yr ysgol leol.

“Bydd y Cyngor yn gweithio’n agos gyda’i gontractwr i gyflawni’r rhaglen mewn modd effeithlon a chyn gynted ag sy'n bosibl, gyda’r rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei gwblhau heb fesurau rheoli traffig. Diolch ymlaen llaw i’r gymuned am ei chydweithrediad wrth i ni gyflawni’r cynllun yma ar gyfer y gymuned.”

Wedi ei bostio ar 24/02/2022