Dyma gynghori trigolion y bydd Rhybudd Tywydd Melyn y Swyddfa Dywydd ar waith oherwydd y risg bosibl o law trwm yn effeithio ar Rondda Cynon Taf ddydd Sul (13 Chwefror) o hanner nos tan 6pm.
Mae disgwyl i’r glaw trwm achosi amodau gyrru gwael, gan amharu o bosib ar y gallu i deithio mewn mannau. Dylech chi ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer teithio yn ystod cyfnod y rhybudd tywydd a gyrru yn ôl yr amodau.
Mae'r Swyddfa Dywydd hefyd yn cynghori ar bethau syml y mae modd eu gwneud ymlaen llaw i sicrhau bod eich cartref neu'ch busnes yn 'Barod am y Tywydd.'
Os cewch chi unrhyw broblem yn ystod cyfnod Rhybudd Tywydd Melyn y Swyddfa Dywydd, ffoniwch ein rhif ffôn Argyfwng y Tu Allan i Oriau Arferol, sef 01443 425011.
Wedi ei bostio ar 11/02/22