Cyn bo hir bydd y Cyngor yn dechrau ar waith lliniaru llifogydd yn Nant Cae Dudwg yng Nghilfynydd, wedi iddo sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun.
Bydd y gwaith sydd i ddod yn digwydd yn y cyfleuster rheoli malurion presennol i fyny'r afon o'r gilfach cwlfert, sydd wedi'i lleoli ar hyd Heol Pant-du, a bydd yn uwchraddio'r cyfleuster wrth wneud atgyweiriadau hanfodol. Bydd y cynllun hefyd yn gosod ramp mynediad ar y safle, er mwyn sicrhau bod modd cwblhau’r holl waith cynnal a chadw ar y cwrs dŵr yn y dyfodol heb drafferth – yn enwedig ar adegau o law trwm.
Sicrhawyd cyllid gwerth £135,000 gan Lywodraeth Cymru i gyflawni'r cynllun yn ogystal â chyfraniad y Cyngor at y gwaith. Mae DT Contracting wedi'i benodi i wneud y gwaith dros y pedair wythnos nesaf. Bydd gwaith yn dechrau ar y safle ddydd Llun, 24 Ionawr.
Rydyn ni'n rhagweld y bydd yr aflonyddwch i'r gymuned leol o ganlyniad i'r gwaith yn fychan. Mae'r contractwr wedi dweud y bydd yr hawl tramwy cyhoeddus ger ardal y gwaith yn parhau trwy gydol y cyfnod adeiladu.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae cyflawni gwaith wedi’i dargedu i leihau’r perygl o lifogydd mewn cymunedau yn faes buddsoddi sy’n flaenoriaeth i’r Cyngor, yn ogystal â cheisio cyllid allanol i wneud y gwaith. Rwy’n falch bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi’i sicrhau ar gyfer y cynllun yn Nant Cae Dudwg yng Nghilfynydd, a fydd yn uwchraddio’r seilwaith presennol ac yn creu gwell mynediad i’r safle.
“Bydd y Cyngor yn gweithio’n agos gyda’i gontractwr i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau yn y dull mwyaf effeithlon posibl dros yr wythnosau nesaf. Rydyn ni'n disgwyl y bydd cyn lleied o aflonyddwch â phosibl yn lleol, ac ni fydd y llwybr troed gerllaw yn cael ei effeithio gan y gwaith.
“Mae’r gwaith hwn yng Nghilfynydd yn dilyn cynlluniau eraill sydd wedi dechrau ers y Flwyddyn Newydd – gan gynnwys cynllun lliniaru llifogydd ar raddfa fach yn Stryd Mostyn yn Abercwmboi, gwaith yng Nglen-boi i adnewyddu’r pibellau draenio priffyrdd presennol, a chynllun ger Stryd Allen yn Aberpennar i atgyweirio ac ailadeiladu darnau o wal sy’n ffurfio glannau’r cwrs dŵr.”
Wedi ei bostio ar 21/01/2022