Mae Arweinydd y Cyngor, Andrew Morgan, wedi cadarnhau ei fwriad i benodi’r Cynghorydd Jill Bonetto a’r Cynghorydd Gareth Caple yn Aelodau o’r Cabinet.
Daw hyn yn sgil penderfyniad y Cynghorydd Rosser a’r Cynghorydd Hopkins yn gynharach yr wythnos hon i gamu’n ôl o’u rolau gweithredol.
Bydd y newidiadau yma'n dod i rym o ddydd Iau (20 Ionawr). Bydd yr Aelodau canlynol yn ffurfio Cabinet y Cyngor:
- Y Cynghorydd Andrew Morgan - Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd y Cabinet
- Y Cynghorydd Webber - Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor
- Y Cynghorydd Mark Norris - Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol a Gwasanaethau Digidol
- Y Cynghorydd Ann Crimmings - Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth
- Y Cynghorydd Rhys Lewis - Aelod o'r Cabinet ar faterion Newid yn yr Hinsawdd a Chymunedau
- Y Cynghorydd Gareth Caple - Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion
- Y Cynghorydd Jill Bonetto - Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:
- Y Cynghorydd Robert Bevan - Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter a Datblygu
- Y Cynghorydd Tina Leyshon – Aelod o’r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant
Dyma'r hyn ddywedodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am ei benderfyniad: "Rydw i'n falch iawn bod Jill a Gareth wedi derbyn fy ngwahoddiad i fod yn rhan o Gabinet y Cyngor, gan llenwi'r rolau y bydd Geraint a Joy yn eu gadael ddydd Mercher.
“Mae’r Cynghorydd Hopkins a’r Cynghorydd Rosser wedi cyflawni gwelliannau a buddsoddiad sylweddol yn eu meysydd gwasanaeth priodol. Rydw i'n hyderus y bydd y Cynghorydd Bonetto a'r Cynghorydd Caple yn anelu at ychwanegu at hyn. Rwy’n falch y bydd modd i'r Cynghorydd Bonetto a’r Cynghorydd Caple chwarae rhan allweddol wrth lunio strategaeth gyllideb y Cyngor ar gyfer 2022/23 gan bennu blaenoriaethau ac uchelgeisiau allweddol y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.”
Yn dilyn cael ei gwahodd i ymuno â Chabinet y Cyngor, mae'r Cynghorydd Jill Bonetto wedi nodi ei bod hi'n bwriadu camu'n ôl o'i rôl fel Maer ar unwaith.
Mae'r Cynghorydd Caple hefyd wedi nodi ei fod yn bwriadu camu'n ôl o'i rôl fel is-gadeirydd Pwyllgor Cynllunio a Datblygu'r Cyngor a'i rôl fel Cadeirydd Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf. Gofynnir bod enwebiadau ar gyfer rôl y Maer ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu'n cael eu cyflwyno yn ystod cyfarfod y Cyngor ar nos Fercher (19 Ionawr).
Bydd Cynllun Dirprwyo'r Arweinydd wedi'i ddiweddaru yn cael ei gyhoeddi yfory.
Wedi ei bostio ar 18/01/22