Mae Carol Evans, Hebryngwr Croesfan Ysgol, wedi gwisgo ei chot 'high-viz' ac wedi codi ei harwydd am y tro olaf ac wedi ymddeol wedi 35 mlynedd yn Ysgol Gynradd Pontrhondda.
Mae Mrs Evans o Lwynypia, sy'n 65 mlwydd oed, wedi helpu cenedlaethau o blant i groesi'r ffordd yn ddiogel ar eu taith i'r ysgol a gartref bob dydd. Mae Mrs Evans yn bwriadu mwynhau ei hymddeoliad gyda'i theulu – ei gŵr ers 47 o flynyddoedd, Anthony, ei dau blentyn a thri o wyrion.
Yn ystod ei chyfnod yn yr ysgol, mae Mrs Evans wedi bod yn gynorthwy-ydd amser cinio ac yn Hebryngwr Croesfan Ysgol. Dywedodd Mrs Evans, neu 'Lollipop Lady' fel mae cymuned yr ysgol yn ei hadnabod hi, y bydd hi'n gweld eisiau'r holl staff, y plant a'u rhieni – ac yn cofio helpu llawer ohonyn nhw i groesi'r ffordd pan oedden nhw'n blant!
Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:
“Hoffwn ddiolch i Carol am ei gyrfa hir a gwasanaeth anhygoel yn Ysgol Gynradd Pontrhondda. Rwy'n gwybod bydd pawb sy'n ymwneud â'r ysgol yn teimlo colled ar ei hôl.
"Ar heolydd prysur heddiw, mae'n cymryd person arbennig i gamu a stopio'r traffig. Ar yr un pryd, rhaid cadw sylw'r plant tan iddyn nhw groesi'r ffordd yn ddiogel, beth bynnag y tywydd. Rydyn ni'n dymuno ymddeoliad hapus, iach a haeddiannol iawn i Carol Evans.”
Meddai Carol Evans:
“Mae gen i atgofion gwych o fy nghyfnod i'n Ysgol Gynradd Pontrhondda. Bydda i'n gweld eisiau'r ysgol yn fawr ac rydw i wedi mwynhau gweithio yno ar hyd y blynyddoedd," meddai Mrs Evans.
“Rydw i wir wedi mwynhau fy amser yn yr ysgol. Roedd bod yn Hebryngwr Croesfan Ysgol yn golygu'r byd i mi. Roeddwn i'n falch iawn o gael dysgu plant ifainc sut i groesi'r ffordd yn ofalus ac yn ddiogel a dangos parch at fodurwyr. Rydw i'n gobeithio y byddan nhw'n defnyddio'r sgiliau yma am weddill eu hoes."
Ar ei diwrnod olaf yn y gwaith, derbyniodd Mrs Evans lawer o anrhegion, cardiau a blodau gan rieni diolchgar, a nifer ohonyn nhw'n ei chofio hi'n eu tywys nhw'n ddiogel ar draws y ffordd pan oedden nhw'n ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Pontrhondda.
Meddai Alyson James, Pennaeth yn Ysgol Gynradd Pontrhondda:
“Ers tri degawd mae Carol wedi sicrhau bod plant a rhieni Ysgol Gynradd Pontrhondda yn cyrraedd yr ysgol ac yn gadael yn ddiogel, law neu'n hindda.
“Mae hi wedi bod yn ffigwr poblogaidd yn y gymuned leol, gan gyfarch pawb â gwên a chroeso mawr bob dydd. Mae Carol wedi mwynhau ei swydd yn fawr a byddwn ni i gyd yn gweld ei heisiau hi'n fawr. Rydyn ni'n dymuno ymddeoliad hapus, diogel a hir iddi.”
Mae Carol Evans yn un o oddeutu 60 o Hebryngwyr Croesfan Ysgol sy'n cael eu cyflogi gan y Cyngor. Maen nhw'n helpu plant a cherddwyr eraill i groesi'r ffordd yn ddiogel wrth gyrraedd a gadael yr ysgol mewn man penodol a rhwng amseroedd penodol yn ystod y tymor.
Mae Gwasanaeth Hebryngwyr Croesfan Ysgol yn darparu'r gwasanaeth allweddol o sicrhau diogelwch oedolion a phlant ar eu ffordd i'r ysgol a nôl gartref. Mae'r Hebryngwyr Croesfan Ysgol yn aelodau ymroddgar o'r Garfan Diogelwch y Ffyrdd y Cyngor.
Wedi ei bostio ar 10/01/2022