Skip to main content

Ffair Yrfaoedd Ar-lein RhCT 2022

Bydd y Cyngor yn cynnal ei drydedd Ffair Yrfaoedd Rithwir mewn partneriaeth â Vfairs. Bydd y ffair AM DDIM ddydd Mercher, 9 Chwefror, 2022 (10am tan 5pm) yn dilyn llwyddiant y ddwy Ffair Yrfaoedd Rithwir flaenorol yn 2021.

Bydd yr achlysur yn cyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau a bydd gan y sefydliadau sy'n cymryd rhan ystod o brentisiaethau a swyddi i raddedigion ar gael, yn ogystal â swyddi gwag.

Bydd angen i unrhyw un sy'n dymuno cymryd rhan yn Ffair Yrfaoedd Rithwir RhCT ddydd Mercher, 9 Chwefror, 2022, gofrestru eu manylion cyn yr achlysur ar www.rctcareers.vfairs.com

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Ffeiriau Gyrfaoedd Rhithwir Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi mynd yn fwyfwy poblogaidd. Yn ystod y Ffair Yrfaoedd Rithwir ym mis Medi 2021, cofrestrodd dros 2,000 o bobl i fynd i'r achlysur ac roedd dros 1,000 o swyddi gwag yn cael eu hysbysebu yno.

Unwaith eto eleni, mae'r Cyngor yn gwahodd y cyhoedd i ymuno a chymryd rhan ar-lein a gweld y cyfleoedd sydd i brentisiaid, graddedigion ac eraill ar draws Cyngor Rhondda Cynon Taf a thu hwnt. Bydd modd i'r rheiny sy'n cymryd rhan ymgysylltu â chyflogwyr a chael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael, a hynny o'u cartrefi eu hunain!

Am y tro cyntaf, mae modd cyrchu'r Ffair Yrfaoedd am ddim trwy'r ap achlysuron Vfairs newydd, sydd ar gael i ddefnyddwyr Apple ac Android. Bydd yr ap yn gweithredu fel estyniad i'r platfform rhithwir trochi a llywio di-dor presennol. Bydd gan y rheiny sy'n cymryd rhan gyfle i fynd at arddangoswyr trwy'r ap, ynghyd â'r opsiwn i gysylltu â chynrychiolwyr, pori dogfennau a rhagor.

Bydd y Ffair Yrfaoedd Rithwir hefyd yn cynnwys nifer o weminarau wedi'u recordio ymlaen llaw a fydd yn darparu gwybodaeth ac yn taflu goleuni ar rai o'r sefydliadau a'r cyfleoedd sydd ar gael. Bydd yna weminarau hefyd a fydd yn rhoi cymorth ar sut i gwblhau ffurflen gais yn llwyddiannus ac a fydd yn cynnig technegau i chi eu defnyddio mewn cyfweliad.

Bydd cyfle i'r rheiny sy'n cymryd rhan i...

  • Archwilio gwybodaeth a chyfleoedd sydd gan gyflogwyr i'w cynnig a dod o hyd i yrfa sydd orau i chi.
  • Dysgu a rhyngweithio â sefydliadau mewn perthynas â'r swyddi maen nhw'n eu cynnig.
  • Manteisio ar y cyfle i ddysgu rhagor am y sefydliadau sy'n cymryd rhan gan weithwyr recriwtio.
  • Edrych ar swyddi gwag a gwneud cais am swyddi â chwmnïau gwahanol.
  • Ymgysylltu â recriwtwyr ar ffurf testun un-wrth-un neu mewn sgwrs sain/fideo yn ystod y sesiwn recriwtio.

Mae yna ystod enfawr o gyflogwyr lleol a chenedlaethol eisoes wedi'u cofrestru ar gyfer yr achlysur, fel EE, Welsh Pantry, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu De Cymru, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Willmott Dixon a llawer yn rhagor. Mae bwriad gan bob un ohonyn nhw i recriwtio gweithwyr newydd.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rwy’n falch iawn y bydd y Cyngor unwaith eto yn cynnal ei Ffair Yrfaoedd Rithwir, gan ddarparu cyfleoedd i geiswyr gwaith siarad â chynrychiolwyr cwmnïau am eu swyddi gwag diweddaraf.

“Yn ystod yr amseroedd ansicr yma, achlysur ar-lein yw’r opsiwn mwyaf diogel ac rwy’n falch bod modd i'r Cyngor gyflwyno ei Ffair Yrfaoedd trwy blatfform ar-lein yn dilyn ei lwyddiant yn 2021.

“Mae ein Cyngor wedi ymrwymo i ddenu swyddi o ansawdd uchel i'r ardal leol ac i helpu ein trigolion i sicrhau swyddi cynaliadwy, dibynadwy sy'n talu'n dda. Mae'r Ffair Yrfaoedd Rithwir yn un ffordd o fynd ati i gyflawni hyn.

"Bydd cyfle arall i drigolion ryngweithio â busnesau, dod o hyd i alwedigaethau nad ydyn nhw efallai wedi'u hystyried, ac efallai y byddan nhw hyd yn oed yn cael cynnig cyfweliad!

“Rwy'n annog unrhyw un sy’n mynd ati i chwilio am swydd, sy'n ystyried newid gyrfa neu ddychwelyd i’r gwaith yn 2022 i gofrestru i gymryd rhan yn ein Ffair Yrfaoedd Rithwir ddiweddaraf.”

Bydd yr achlysur yn cael ei gynnal yn fyw ar un diwrnod, sef dydd Mercher 9 Chwefror, rhwng 10am a 5pm. Serch hynny, bydd modd gweld yr achlysur ar gais am 30 diwrnod yn dilyn yr achlysur, tan 10 Mawrth 2021 am 23:59.

I gymryd rhan yn Ffair Yrfaoedd Rithwir RhCT, sicrhewch eich bod chi wedi cofrestru ymlaen llaw, yma: www.rctcareersfair.vfairs.com

Wedi ei bostio ar 10/02/2022