Skip to main content

Cynllun sylweddol i uwchraddio ceuffosydd ar yr A4061 Ffordd y Rhigos

Significant culvert upgrades will be delivered on A4061 Rhigos Road

Bydd gwaith uwchraddio sylweddol i gwlferi presennol ar yr A4061 Ffordd y Rhigos, ger safle Glofa’r Tŵr, yn cael ei gyflawni diolch i gyllid Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru. Cafodd y cyllid ei sicrhau er mwyn mynd i’r afael â phroblem llifogydd yn y lleoliad yma.

Bydd y gwaith sydd i ddod yn ailosod cwlferi mewn dau safle sy'n agos at ei gilydd ar yr A4061, ar y rhan o'r ffordd rhwng Ystâd Ddiwydiannol Hirwaun a chylchfannau'r A465. Bydd y cwlferi newydd yn strwythurau mwy o faint gydag amryw bibellau o dan y ffordd gerbydau, ynghyd â strwythurau mewnfeydd ac allanfeydd newydd. Bydd hyn yn cynyddu capasiti pob cwlfer yn sylweddol yn ystod cyfnodau o law trwm.

Mae gwaith cymhleth wedi'i wneud cyn y prif gynllun, gan gynnwys archwiliadau tir a dargyfeirio cyfarpar BT Openreach y llynedd.

Bydd y prif gynllun yn dechrau gyda sefydlu'r safle ddydd Llun, 24 Ionawr, ac yna bydd rhagor o waith ar y safle o'r wythnos yn dechrau 31 Ionawr. Bydd hyn yn cynnwys gosod goleuadau traffig dros dro yn y ddwy ffordd. Mae angen y goleuadau er mwyn i'r gwaith gael ei wneud mewn modd diogel. Bydd cyfyngiad cyflymder dros dro o 30mya yn ystod cyfnod y gwaith.

Bydd y cynllun yn para tua 10 wythnos, ond mae angen cynnal y gwaith i'r cwrs dŵr yn ystod cyfnodau o dywydd braf ac felly efallai y bydd rhaid ymestyn hyd y cynllun os bydd glaw cyson.

Bydd y cynllun sydd ar ddod yn cael ei gyflwyno drwy gyfuniad o arian Cyngor Rhondda Cynon Taf a chyllid grant Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru.

Mae’r cyllid Ffyrdd Cydnerth ar gael i awdurdodau lleol er mwyn cyflawni gwelliannau draenio ar ardaloedd o’r rhwydwaith ffyrdd sy wedi dioddef o lifogydd. Derbyniodd y Cyngor £4.9 miliwn i wella 16 lleoliad yn ystod 2020/21, ac yna sicrhaodd £2.75 miliwn ychwanegol ym mis Mawrth 2021 er mwyn datblygu gwaith pellach mewn 19 o leoliadau eraill.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Rydyn ni'n croesawu cymorth Llywodraeth Cymru i wneud y gwaith uwchraddio sylweddol yma ar gwlferi ar yr A4061 Ffordd y Rhigos, rhwng yr A465 a chylchfannau’r Ystâd Ddiwydiannol – ardal sy wedi dioddef o lifogydd yn ystod stormydd. Nid yw'r cwlferi presennol yn addas ar gyfer cludo'r llif dŵr yn y lleoliad yma, a diolch i'r gwaith yma, bydd yna fodd iddyn nhw symud mwy o ddŵr ar ddwy ran o'r ffordd.

“Yn flaenorol, sicrhaodd y Cyngor fwy na £7.5 miliwn gan Gyllid Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru, ar gyfer cynlluniau draenio yn 2020/21 a 2021/22. Mae'r gwaith pwysig sydd wedi'i gyflawni hyd yma yn cynnwys Ffordd Liniaru'r Porth yn Ynys-hir, yr A4059 o Ben-y-waun i Drecynon a Ffordd Osgoi Aberdâr ar yr A4059 ger Cylchfan Asda. Fe wnaeth y Cyngor hefyd uwchraddio tri gyli draenio ar yr A4059 rhwng Aberpennar ac Abercynon yr haf diwethaf.

“Mae’r gwaith sydd i ddod ar Ffordd y Rhigos yn dechrau 24 Ionawr a bydd y prif waith yn dechrau wythnos yn ddiweddarach. Mae angen goleuadau traffig yn y ddwy ffordd a therfyn cyflymder is er mwyn cyflawni'r cynllun yma'n ddiogel. Diolch i drigolion, busnesau lleol a defnyddwyr y ffyrdd am eu cydweithrediad wrth gyflawni'r cynllun pwysig yma – a fydd yn mynd i’r afael â phroblem llifogydd hirsefydlog yn y lleoliad yma.”

Wedi ei bostio ar 21/01/2022