Cyn bo hir, bydd y Cyngor yn cynnal gwaith atgyweirio ar ran 200 metr o wal gynnal a wal barapet ger yr A4054 Heol Caerdydd yn Ffynnon Taf.
I ddechrau, bydd y cynllun yn cael gwared ar lystyfiant o bob wyneb wal. Bydd hyn yn galluogi ail-bwyntio ac ailadeiladu'r rhan fwyaf o'r wal barapet, ailadeiladu un rhan o'r wal gynnal, ac ailosod meini copa.
Mae'r Cyngor wedi penodi Centregreat Ltd yn gontractwr i gyflawni'r cynllun. Bydd yn dechrau ar y gwaith ddydd Mercher, 19 Ionawr a bydd y gwaith yn para tua 12 wythnos. Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Raglen Gyfalaf Priffyrdd Atodol y Cyngor ar gyfer 2021/22, gan ddefnyddio cyllid pwrpasol ar gyfer Strwythurau'r Priffyrdd.
Er mwyn gwneud y gwaith yn ddiogel, mae'r contractwr angen cau un lôn o Heol Caerdydd - y lôn tua'r gogledd sydd agosaf at y wal.
Bydd goleuadau traffig dros dro yn cael eu gosod o ddydd Mercher ymlaen. Sylwch, does dim angen cau ffyrdd i gyflawni'r cynllun, a bydd mynediad i gerddwyr ar hyd Heol Caerdydd yn cael ei gynnal drwy'r amser.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Y gwaith sydd i ddod ger Heol Caerdydd yn Ffynnon Taf yw'r cynllun atgyweirio wedi'i dargedu diweddaraf i ddiogelu strwythur sy’n cynnal y rhwydwaith ffyrdd ar gyfer y dyfodol. Bydd yn gwneud atgyweiriadau ar draws rhan 200 metr o wal barapet ac un rhan o wal gynnal sydd wedi'i difrodi, sydd wedi'i lleoli ger yr A4054.
“Ariennir y cynllun gan ein Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd, sydd eto wedi dyrannu swm sylweddol i gynnal Strwythurau Priffyrdd yn 2021/22 – mae’r Cyngor yn gyfrifol am fwy na 1,500 o waliau, cwlfertau a phontydd ar draws y Fwrdeistref Sirol. Mae'r Cyngor hefyd yn parhau'n ymrwymedig i sicrhau cyllid a chyflawni atgyweiriadau ar gyfer seilwaith a ddifrodwyd gan Storm Dennis.
“Bydd cynllun wal Heol Caerdydd yn dechrau ddydd Mercher. Bydd lôn ar gau a goleuadau traffig dros dro i sicrhau diogelwch. Diolch i drigolion a chymudwyr am eu cydweithrediad tra bydd y cynllun yn mynd yn ei flaen - bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'i gontractwr i gwblhau'r atgyweiriadau cyn gynted â phosibl.”
Wedi ei bostio ar 17/01/2022