Skip to main content

Y Cabinet yn cytuno i ddarparu rhagor o Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd mewn ysgolion ledled RhCT

school Primary

Yr wythnos yma, cytunodd y Cabinet i ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru er mwyn darparu rhagor o Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd ledled y sir. Mae hyn yn seiliedig ar yr anghenion dynodedig mwyaf ac er budd disgyblion cynradd, uwchradd a'r rheiny mewn Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Mae cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru ynghylch cyllid ar gyfer Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd, yn ogystal â’r cyllid a gafodd ei gytuno arno’n flaenorol gan y Cabinet ac arian cyfatebol gan ysgolion, yn golygu bod modd ehangu'r cynllun.

Mae Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd yn cael eu cyflogi gan ysgolion i fynd i’r afael â materion anghydraddoldeb ac absenoldeb, gan helpu i ddarparu cymorth i blant a theuluoedd a meithrin perthynas gadarnhaol rhwng ysgolion a theuluoedd.

Mae gwella presenoldeb ac ymgysylltiad ag addysg yn flaenoriaeth i’r Cyngor. Er mwyn sicrhau bod y disgyblion mwyaf agored i niwed yn cael y cymorth yma, nododd y Gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant fodel arfer gorau ar gyfer Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd, gan gymeradwyo cynllun peilot cychwynnol ym mis Chwefror 2020.

Yn wreiddiol, cafodd y prosiect ei lansio fel prosiect peilot blwyddyn o hyd gyda chwe swydd mewn chwe ysgol. O ganlyniad i'r pandemig, ym mis Mehefin 2021 cytunodd y Cabinet i ymestyn y cynllun peilot am flwyddyn ychwanegol mewn ysgolion uwchradd/pob oed, yn ogystal â chyflwyno cynllun peilot mewn ysgolion cynradd am 24 mis ar gyfer 13 o leoliadau ar sail arian cyfatebol.

Ar 21 Mawrth 2022 addawodd y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles, fuddsoddiad gwerth £25 miliwn ar gyfer ysgolion bro ledled Cymru gyda £4.9 miliwn yn cael ei ddarparu ar gyfer Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd.

Bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn golygu bod modd ymestyn cymorth Ymgysylltu â Theuluoedd i 13 o ysgolion ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf am gyfnod pellach o ddwy flynedd rhwng mis Medi 2022 a mis Awst 2024. Bydd hyn yn golygu bod Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd wedi bod yn gweithio mewn 32 lleoliad ers y cynllun peilot yn 2020.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis – Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg:

“Roedd cynyddu nifer y Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd yn y sir yn un o ymrwymiadau craidd ein maniffesto yn yr etholiadau lleol eleni.

Mae mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad yn hanfodol os ydyn ni am gyflawni safonau uchel a gosod dyheadau uchelgeisiol i bawb. Rydyn ni'n gwybod bod y cartref a'r gymuned yn cael effaith enfawr ar gyfleoedd bywyd plant a phobl ifainc a bod angen rhagor o gymorth ar athrawon i fynd i’r afael â’r problemau y mae rhai plant a phobl ifainc yn eu hwynebu.

Roedd y pandemig wedi creu nifer rwystrau o ran ymgysylltu ag addysg a dysgu. Cafodd y rhain eu profi gan bob dysgwr ond yn enwedig y teuluoedd mwyaf agored i niwed. Er gwaethaf heriau'r cyfnod yma, mae cynllun peilot y Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd yn haeddu cydnabyddiaeth am yr effaith mae wedi'i chael.

Mae ysgolion wedi mynegi eu bod nhw wedi elwa o'r cyllid a ddarparwyd. Yn Ysgol Gynradd Gymuned y Maerdy mae'r Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd wedi gweithio i gefnogi presenoldeb ysgol gyfan. Mae'r Swyddog wedi cyflwyno cylchoedd presenoldeb, trafodaethau rheolaidd gyda rhieni, systemau gwobrwyo a theithiau. Llwyddodd yr ysgol hefyd i wneud cais llwyddiannus am gyllid Gaeaf Llawn Lles, gan gynnal gweithgareddau ar ôl ysgol a gafodd eu trefnu gan y Swyddog. Roedd 92% o’r holl ddisgyblion wedi mynychu’r sesiynau yma.

Mae canolbwyntio ar gefnogi teuluoedd hefyd yn effeithio ar bresenoldeb. Yn Ysgol Gynradd Gymuned Pen-pych, dim ond 78.5% oedd presenoldeb ym mis Medi 2021, ond cynyddodd hyn i 86.6% ar ddiwedd tymor y gwanwyn.

Mae mabwysiadu'r cynllun peilot yma yn RhCT yn ystod camau cynnar y prosiect yn golygu ein bod ni mewn sefyllfa gadarnhaol, mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio'n fwyfwy ar y maes yma yn ystod y misoedd diwethaf.

Wedi ei bostio ar 18/07/2022