Skip to main content

Dathlu Wythnos Caru Parciau

Aberdare Park

Does dim gwell ffordd i  ddathlu Wythnos Caru Parciau (29 Gorffennaf - 5 Awst) nag ymweld â'ch parc lleol yn Rhondda Cynon Taf - mae gennych chi ddigon o ddewis!

Mwynhewch hwyl a sbri'r meysydd chwarae i blant gyda'r plant bach neu fanteisio ar dawelwch a llonyddwch y llwybrau cerdded gwych yng nghanol harddwch naturiol. Mae coed a blodau i'w gweld, yn ogystal â bywyd gwyllt fel adar, gwyfynod, glöynnod byw a gwiwerod.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cefnogi Wythnos Caru Parciau, sy'n cael ei hyrwyddo gan elusen Keep Britain Tidy. Yn ystod y cyfnod yma, mae'r Cyngor yn parhau i gymeradwyo ei ymrwymiad i helpu i fynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd er mwyn gwneud gwahaniaeth i'n byd.

Mae Rhondda Cynon Taf yn ardal sy'n llawn harddwch naturiol. Mae gan y sir nifer o barciau, parciau gwledig, ac amrywiaeth dda o fywyd gwyllt, gan gynnwys rhai planhigion ac anifeiliaid prin. Mae Wythnos Caru Parciau yn gyfle gwych i grwydro a mwynhau'r harddwch naturiol sydd gyda ni ar ein stepen drws.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae ein mannau gwyrdd yn rhan bwysig o'n gymuned.

“Mae'n bwysig ein bod ni'n gwerthfawrogi'n mannau gwyrdd, eu parchu nhw a'u defnyddio. Rydyn ni'n ffodus o gael nifer o fannau gwyrdd ac agored o fewn ein hardal leol, sy'n cynnig cymaint i ni. Mae'n rhaid i ni wneud y gorau allan ohonnynt, nid yn unig yn ystod Wythnos Caru Parciau, ond trwy gydol y flwyddyn.

“Yn ogystal â denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn, mae Baner Werdd i'w gweld yn hedfan mewn nifer o'n parciau. Mae'r Faner Werdd yn nod rhyngwladol o barc neu fan gwyrdd o safon.

"Rhaid pwysleisio pa mor bwysig mae parciau a mannau gwyrdd o safon uchel i'n cymunedau, i'n hiechyd a lles, i fyd natur ac i'n hecomoni. Dyma ddiolch i bob aelod o staff parciau'r Cyngor sy'n cynnal a chadw'r ardaloedd yma, gan sicrhau eu bod nhw mewn cyflwr ardderchog er mwyn i bawb eu mwynhau.”

Dewch o hyd i'ch parc agosaf

Mae gyda ni ystod o barciau a mannau agored hardd yma ar ein stepen drws – o Barc Gwledig Cwm Dâr a Pharc Gwledig Barry Sidings i Barc Aberdâr, Parc y Darren, Parc Ffynnon Taf sy'n gartref i'r hen ffynnon dwym – yr unig un yng Nghymru, a Pharc Coffa Ynysangharad sy'n gartref i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty.

Wedi ei bostio ar 27/07/2022