Skip to main content

Dechrau Gwaith Adeiladu Ysgol Gynradd Gymraeg newydd yn Rhydfelen

The first work on site for the development at Heol y Celyn Primary School

Mae'r gwaith cyffrous o ailddatblygu safle Ysgol Gynradd Heol y Celyn yn Rhydyfelin wedi dechrau. Trwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi buddsoddi mewn ysgol Gymraeg newydd sbon o'r radd flaenaf.

Mae'r cyngor wedi penodi ISG fel y contractwyr ar gyfer y cynllun yma, a fydd yn golygu agor yr ysgol newydd sbon ar ddechrau'r flwyddyn academaidd 2024/25.  Dyma un o brosiectau buddsoddi mawr y Cyngor sydd ar waith drwy Raglen Dysgu Gynaliadwy i Gymunedau Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn rhan o fuddsoddiad gwerth £72miliwn ledled ardal Pontypridd, yn gyfochr â phrosiectau allweddol sydd ar gael i ysgolion ym Meddau, Y Ddraenen-wen a Chilfynydd erbyn y flwyddyn 2024.

Bydd i'r adeilad ddau lawr, 16 ystafell ddosbarth a digon o le i 540 o blant. Bydd ystafelloedd aml-ddefnydd, mannau sy'n cael eu defnyddio gan bawb, swyddfeydd, tai bach, mannau ar gyfer newid, neuadd, cegin a mannau ar gyfer cadw offer a phlanhigion. Bydd y datblygiad yn anelu at fod yn Garbon Sero-Net , gyda nifer o dechnolegau arloesol wedi'u cynnwys yn rhan o'r gwaith, megis pympiau gwres ffynhonnell aer, cynaeafu dŵr glaw a chelloedd ffotofoltäig ar do yr adeilad er mwyn defnyddio a storio ynni solar.

Bydd cyfleusterau chwaraeon awyr agored gwell yn rhan o'r datblygiad, gydag Ardal Gemau Aml-ddefnydd newydd a chae chwarae at ddefnydd y gymuned leol yn cael eu gosod ar safle presennol yr ysgol.  Bydd yr adeiladau ar y safle yn cael eu dymchwel ar ôl i'r ysgol newydd gael ei hadeiladu. Bydd 41 o fannau parcio a lle i chwe bws ar y safle, gyda mynediad i'r safle o'r ffin gogledd-ddwyreiniol (yn uniongyrchol o Stryd y Celyn) a bydd ramp yn arwain at fynedfa'r ysgol.

Diwrnod gwaith cyntaf y contractwyr oedd dydd Llun, 18 Gorffennaf, gyda'r contractwyr yn gosod ffens diogel er mwyn gwahanu ardal y gwaith (ar y cae i'r gorllewin o'r ysgol) o'r adeilad presennol yr ysgol.  Mae gweithrediad diogel yr ysgol, heb amharu ar addysg disgyblion pan fyddan nhw'n dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi, yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor a'i gontractwr. Mae mynedfa safle ar wahân ar Stryd y Leimwydden yn cael ei defnyddio gan gerbydau adeiladu.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Mae contractwr y Cyngor wedi dechrau'r gwaith i sefydlu ardal y gwaith ar safle ehangach Ysgol Gynradd Heol y Celyn, sy'n garreg filltir bwysig i ddarparu addysg a chyfleusterau cymunedol gwerth miliynau o bunnoedd yn Rhydfelen.  Dyma un rhan o'n buddsoddiad tuag at gyfleusterau sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, gwerth £72miliwn, ar gyfer ysgolion lleol yn ardal Pontypridd. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal yn 2024. 

"Bydd yr ysgol gynradd newydd yn darparu cyfleusterau diweddaraf er mwyn gwella ac ehangu'r ddarpariaeth addysg gynradd Gymraeg sydd eisoes yn bodoli. Bydd disgyblion o Ysgol Gynradd Heol y Celyn ac Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton yn ymuno â'r ysgol unwaith i'r gwaith ddod i ben.  Bydd y prosiect yn cyfrannu at y deilliannau cafodd eu hamlinellu yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, ac yn cyfrannu at fwriad 'Cymraeg 2050' Llywodraeth Cymru, sy'n anelu at gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050.

"Gyda'r gwaith eisoes wedi dechrau, bydd contractwr y Cyngor yn gwneud cynnydd cychwynnol pwysig yn ystod gwyliau'r haf – a phan fydd disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi, y brif flaenoriaeth fydd gwneud cynnydd heb amharu ar addysg y disgyblion. Mae ardal y gwaith wedi'i diffinio'n glir ar ran arall, ar wahân o safle'r ysgol, gyda cherbydau adeiladu hefyd yn defnyddio mynedfa ar wahân i fannau casglu a gollwng disgyblion, a phrif fynedfa'r ysgol i deuluoedd.

"Bydd yr ysgol newydd yn anelu at gyflawni safonau uchel mewn perthynas â'n hymrwymiadau newid yn yr hinsawdd, gyda'r adeilad newydd wedi'i gynllunio i wireddu amcanion y Cyngor i fod yn Garbon Sero-Net. Rwy’n edrych ymlaen at weld safle'r ysgol ehangach yn datblygu dros yr wythnosau a misoedd nesaf, wrth i'r Cyngor a Llywodraeth Cymru gyflawni eu hymrwymiad i fuddsoddi mewn cyfleuster addysg newydd sbon sydd am fod yn galon i'r gymuned am y blynyddoedd i ddod." 

Wedi ei bostio ar 22/07/22